O Gwmpas y Lle gydag US Mach |
|
|
Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau. Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!
|
O Ddydd Iau'r 24ain o Fai ymlaen, bydd aelodau o grwp hunangymorth US Mach yn cyfarfod yn wythnosol i brofi'r awyr agored trwy raglen weithgareddau coetir a drefnwyd gan Mentro Allan Bro Ddyfi.Mae Mentro Allan Bro Ddyfi yn rhan o brosiect pedair blynedd sy'n cael ei gweithredu ledled Cymru i ddarganfod a dileu rhwystrau sy'n atal pobl rhag mwynhau'r awyr agored, a hynny trwy drefnu gweithgareddau y mae pobl am eu gwneud. Mae US Mach yn bartneriaid lleol yn y prosiect. Bydd rhaglen weithgareddau coetir 10 wythnos US Mach, o dan arweiniad profiadol yr Arweinydd Gweithgareddau Coetir Ruth Brocklehurst, yn cynnwys adeiladu cysgodfa, arbrofi â chrefftau'r goedwig a dysgu am ecoleg coedwigoedd. Bydd y rhai fydd yn cymryd rhan yn cyfarwyddo'r prosiect fel y bydd yn datblygu. Mae US Mach, sydd wedi'i leoli yng Nghanolfan Gofal Machynlleth, yn grwp cymdeithasol i oedolion sy'n byw yn Nyffryn Dyfi ac yn dioddef o iselder neu broblemau emosiynol. Y drefn yw bod yr aelodau'n taro mewn i'r ganolfan dair gwaith yr wythnos am sgwrs ac i drefnu gweithgareddau. Dywedodd Swyddog Prosiect US Mach Adrian Edwards: "Coeliwch neu beidio, mae cael pobl i ymgymryd â gweithgareddau yn yr awyr agored, yn enwedig yn y coetiroedd yn gymorth mawr iddynt deimlo'n fwy positif. Mae amryw o'n haelodau'n mwynhau gwneud pethau. Gall gwneud crefftau a chwrdd â phobl fod yn llawer o hwyl." Os ydych am ymuno ag US Mach a Rhaglen Gweithgareddau Coetir US Mach, cysylltwch ag Adrian yn y Ganolfan Gofal naill ai ar 01654 700153 neu trwy e-bostio husmach@aol.com. Os ydych am i'ch grwp (neu chi fel unigolyn) gymryd rhan ym mhrosiect ehangach Mentro Allan, cysylltwch â Teresa Walters ar 01654 703965 neu trwy e-bostio mentro.allan@ecodyfi.org.uk. Gwybodaeth Bellach:
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||