ecodyfi logo, valley and hills, link to home page

Ewch ati i dyfu unwaith eto!


english version

pont

Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion

Ydych chi yn..?

golau
Berson lleol
Ymwelydd
Gwmni
Awyddus i wybod am ecodyfi

Gwaith:

ecodyfi office
Tirwedd Dyfi
Tir Cymunedol
Mentro Allan
Ôl Troed Dyfi
Trafnidiaeth
Twristiaeth
Ynni
Gwastraff
Masnach Deg
Biosffer Dyfi Biosphere
Cymunedau yn Gyntaf
Dysgu Gydol Oes

Manylion cysylltu

Eco Parc Dyfi

Y Plas,
Machynlleth, Powys, SY20 8ER, DU.
ffôn: 01654 703965
ebost: info@ecodyfi.org.uk

Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau.

Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!

[Ein lleoliad - map mwy]

press release22/02/2007

Mae ecodyfi yn edrych am bobl i ymuno â phrosiect "Ewch ati i dyfu". Cewch ffrindiau a sgiliau newydd fydd yn hwb i'r meddwl a'r corff!

Mae "Ewch ati i dyfu" yn gwrs ymarferol tair wythnos ar ddeg wedi'i drefnu gan Mentro Allan Bro Ddyfi (Venture Out) sy'n ymdrin â garddio organig. Ei nod yw denu pobl allan i fwynhau eu hamgylchedd naturiol.

Yn ogystal â chael pobl yn actif, mae "Ewch ati i dyfu" am annog pobl i dyfu a bwyta eu llysiau a'u perlysiau eu hunain. Gall felly arwain at well arfer bwyta, pobl i deimlo'n fwy egniol a hefyd well dealltwriaeth o fyd natur.

Bydd sesiynau ar lefel dechreuwyr ac yn rhwydd i'w dilyn. Dywedodd arweinydd gweithgareddau Mentro Allan, Imogen Pettitt, "Nid oes rhaid i neb ofni nad ydynt wedi cael llawer o ymarfer corff yn ddiweddar. Caiff pawb weithio ar eu cyflymder eu hunain."

Ar 13 Dydd Gwener rhwng 10.30 a 3 y prynhawn, yn dechrau ar Fawrth 16eg ac yn para hyd ddechrau Medi, bydd y rhai fydd yn cymryd rhan yn dysgu sut i dyfu llysiau organig gydag arweiniad a chymorth y garddwr profiadol Bee Carnac.

Rhennir plot rhwng dau/dwy a byddant yn tyfu amrywiaeth o gnydau megis tatws, bresych, India corn a thomatos. Ym Mis Medi bydd y cnydau yn barod i fynd adre i'w bwyta.

Yn ogystal, mae dewis i bobl, os mynnant, i ddilyn y cwrs ar y we neu gyda'r post, gan wneud y gweithgareddau wythnosol yn eu gerddi eu hunain.

Mae pawb yn Nyffryn Dyfi yn gymwys i ymuno, er y bydd croeso arbennig i rieni plant ifanc, pobl sy'n ei chael yn anodd mynd yn ôl i weithio, a phobl sy'n byw ym Mhowys. Mae "Ewch ati i dyfu" wedi'i leoli yng Ngerddi Ynyslas, gardd organig fasnachol ger Borth. Bydd cymorth gyda gofal plant a theithio os oes angen i'r rhai hynny sy'n byw yn y rhan o Ddyffryn Dyfi sydd ym Mhowys.

Dywedodd Jean Moore, a fynychodd gwrs 2005, "Rwyf wedi cael budd o'r cwrs garddio. Rydw i wedi gwneud ffrindiau newydd ac wedi mwynhau'r amser a dreuliais yng Ngerddi Ynyslas, ond yn bennaf rwyf wedi dysgu llawer".

Mae ecodyfi wedi cynnal "Ewch ati i dyfu" yn llwyddiannus yn 2005 a 2006, gan roi budd i ddeg ar hugain o bobl leol. Eleni, mae'r rhaglen yn cael ei hariannu gan Anghydraddoldebau mewn Iechyd Bro Ddyfi a Mentro Allan Bro Ddyfi, sy'n cael eu hariannu'n bennaf gan Gronfa y Loteri Fawr. Mae partneriaid lleol yn cynnwys Gweithredu Cymunedol Machynlleth a'r Cylch, Coed Lleol, US Mach, Mudiad Ysgolion Meithrin, Chwarae Sir Drefaldwyn, Prosiect Anghydraddoldebau mewn Iechyd NPHS, Cymunedau'n Gyntaf Bro Ddyfi, Tir Coed a Cychwyn Cadarn NCH.

Gall unrhyw un sydd am gymryd rhan gysylltu ag ecodyfi drwy ffonio 01654 703965 neu e-bostio mentro.allan@ecodyfi.org.uk neu alw yn swyddfa ecodyfi yn Nhg Bro Ddyfi, Machynlleth (gyferbyn â Chaffi Maengwyn). Mae llogi lle ymlaen llaw yn hanfodol!

Nodiadau:

Mentro Allan ar lefel Cymru: e-bost; info@mentroallan.co.uk; Safle wê: www.mentroallan.co.uk.

Mae Mentro Allan yn gasgliad o brosiectau yng Nghymru a gefnogir gan Gronfa y Loteri Fawr a phartneriaeth genedlaethol. Mae'r rhaglen yn targedu grwpiau penodol sydd yn gyffredinol yn llai actif na'r boblogaeth ehangach.

Bydd y prosiectau yn cael eu hariannu am gyfnod o bedair blynedd gyda'r nod o gynyddu lefelau gweithgaredd corfforol y grwp targed, gan wneud y defnydd gorau o'r amgylchedd naturiol yn agos i gartrefi'r bobl. Bydd y rhaglen yn casglu'r dystiolaeth o effeithlonrwydd ymyrraeth benodol a ddyfeisiwyd i gynyddu lefelau o weithgaredd corfforol sy'n fudd i iechyd.

Mentro Allan Bro Ddyfi Venture Out

e-bost; mentro.allan@ecodyfi.org.uk

Bydd rhaglen Mentro Allan Bro Ddyfi yn gyswllt rhwng unigolion yn Nyffryn Dyfi ac yn gyfle i gynyddu'u lefelau o weithgaredd corfforol, trwy ddefnyddio amrywiaeth o leoliadau mewn amgylchedd awyr agored naturiol.

Ein prif grwp targed yw'r boblogaeth eang sy'n dioddef o eithrio gwledig ac yn treulio llawer o'u hamser ar eu heistedd. Rydym yn bryderus am unigolion sy'n dioddef o unigrwydd ac eithrio cymdeithasol fel canlyniad i drafferth defnyddio gwasanaethau a phatrwm poblogaeth gwasgaredig, er y bydd y gweithgareddau yn agored i bawb i gymryd rhan.

Ein grwpiau targed nesaf yw rhieni plant ifanc, yn enwedig rhieni ifanc; 11-18 oed, yn enwedig y rhai sy'n debygol o ddioddef o eithrio cymdeithasol; pobl gyda phroblemau iechyd meddwl, yn enwedig y rhai nad ydynt mewn cysylltiad rheolaidd â gwasanaethau a grwpiau cefnogi.

Byddwn yn targedu pobl o ardaloedd Machynlleth, Cadfarch, Glantwymyn a Llanbrynmair, ond bydd croeso i bobl o rannau eraill o Ddyffryn Dyfi i ymuno yn y gweithgareddau.

ecodyfi yw'r corff arweiniol ac mae partneriaid eraill yn cynnwys:

  • Gweithredu Cymunedol Machynlleth a'r Cylch

  • Coed Lleol

  • US Mach

  • Mudiad Ysgolion Meithrin Sir Drefaldwyn

  • Chwarae Sir Drefaldwyn

  • Prosiect Anghydraddoldebau mewn Iechyd NPHS

  • Cymunedau'n gyntaf Bro Ddyfi

  • Cyngor Sir Powys

  • Tir Coed

  • Cychwyn Cadarn NCH

  • PAVO

ecodyfi yw'r sefydliad adfywio lleol i Ddyffryn Dyfi. Fe'i cefnogir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru trwy Amgylchedd Cymru ac Adran Menter, Arloesi a Rhwydweithiau.

Brig y dudalen