Prosiect Iechyd i hybu lefelau gweithgareddau yn Nyffryn Dyfi |
|
|
Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau. Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!
|
Nid oes angen mynd i'r gampfa i fod yn fwy ffit: yn awr gall pobl sy'n byw yn Nyffryn Dyfi fwynhau pob math o weithgareddau awyr agored wedi eu trefnu fel rhan o raglen Mentro Allan - o arddio i weithgareddau adrenalin uchel.Does dim dianc odd iwrth y ffaith fod ymarfer corff rheolaidd yn gymorth i gadw'n iach. Mae'n lleihau'r perygl o afiechyd, yn cynnal pwysau iach ac yn cael effaith gadarnhaol ar lefelau egni a hunan hyder. Mae Mentro Allan yn rhaglen bedair blynedd sy'n digwydd ledled Cymru ac sy'n cael ei hariannu gan Gronfa y Loteri Fawr. Ei nod yw cael pobl yn fwy actif yn yr amgylchedd naturiol. Mae Teresa Walters ac Imogen Pettitt yn cydlynu prosiect Mentro Allan Bro Ddyfi o swyddfa ecodyfi yn Nhg Bro Ddyfi, ym Machynlleth, ar ran grwp o bartneriaid lleol. Bydd y rhaglen o weithgareddau, yn cynnwys cerdded a beicio mewn grwp, gweithgareddau ynglyn â choed, sesiynau gemau a chelf awyr agored, saethyddiaeth a chyfeiriannu yn datblygu gydag amser, gan addasu i gyd-fynd â gofynion a dyheadau'r rhai sy'n cymryd rhan. Bydd sesiynau ar lefel dechreuwyr ac yn hawdd i'w dilyn, felly nid oes raid i neb ofni nad ydynt wedi cael llawer o ymarfer corff yn ddiweddar! Y gweithgaredd cyntaf oedd sesiynau peintio murlun ym Machynlleth, a'r nesaf fydd cwrs garddio organig "Ewch ati i dyfu" yn Ynyslas, a fydd yn dechrau ar y 16eg o Fawrth. Gall teuluoedd ddod i gymryd rhan gyda'i gilydd, neu mae'n gyfle i ddianc oddi wrthynt am gyfnod! Gellir ymuno fel rhan o raglen ffitrwydd neu am yr hwyl yn unig. Mae pawb o Ddyffryn Dyfi yn gymwys i ymuno a'r gweithgareddau, er y bydd croeso arbennig i rieni plant ifanc, pobl 11-18 oed, pobl gyda phroblemau iechyd meddwl ac yn enwedig y bobl sy'n byw ym Mhowys. Gall unrhyw un sydd am gymryd rhan yn y rhaglen gysylltu ag ecodyfi trwy ffonio 01654 703965 neu e-bostio Mentro Allan. Dywedodd Teresa Walters: "Mae croeso i bobl i alw am sgwrs yn Nhg Bro Ddyfi (gyferbyn â Chaffi Maengwyn) yn ystod oriau gwaith. Dewch i ddweud pa weithgareddau yr hoffech eu gwneud." Mae partneriaid lleol rhaglen Mentro Allan Bro Ddyfi Venture Out yn cynnwys: Gweithredu Cymunedol Machynlleth a'r Cylch, Coed Lleol, US Mach, Mudiad Ysgolion Meithrin, Chwarae Sir Drefaldwyn, Prosiect Anghydraddoldebau mewn Iechyd NPHS, Cymunedau'n Gyntaf Bro Ddyfi, Tir Coed a Cychwyn Cadarn NCH. Nodiadau:Mentro Allan ar lefel Cymru: e-bost; info@mentroallan.co.uk; Safle wê: www.mentroallan.co.uk. Mae Mentro Allan yn gasgliad o brosiectau yng Nghymru a gefnogir gan Gronfa y Loteri Fawr a phartneriaeth genedlaethol. Mae'r rhaglen yn targedu grwpiau penodol sydd yn gyffredinol yn llai actif na'r boblogaeth ehangach. Bydd y prosiectau yn cael eu hariannu am gyfnod o bedair blynedd gyda'r nod o gynyddu lefelau gweithgaredd corfforol y grwp targed, gan wneud y defnydd gorau o'r amgylchedd naturiol yn agos i gartrefi'r bobl. Bydd y rhaglen yn casglu'r dystiolaeth o effeithlonrwydd ymyrraeth benodol a ddyfeisiwyd i gynyddu lefelau o weithgaredd corfforol sy'n fudd i iechyd. Mentro Allan Bro Ddyfi Venture Oute-bost; mentro.allan@ecodyfi.org.uk Bydd rhaglen Mentro Allan Bro Ddyfi yn gyswllt rhwng unigolion yn Nyffryn Dyfi ac yn gyfle i gynyddu'u lefelau o weithgaredd corfforol, trwy ddefnyddio amrywiaeth o leoliadau mewn amgylchedd awyr agored naturiol. Ein prif grwp targed yw'r boblogaeth eang sy'n dioddef o eithrio gwledig ac yn treulio llawer o'u hamser ar eu heistedd. Rydym yn bryderus am unigolion sy'n dioddef o unigrwydd ac eithrio cymdeithasol fel canlyniad i drafferth defnyddio gwasanaethau a phatrwm poblogaeth gwasgaredig, er y bydd y gweithgareddau yn agored i bawb i gymryd rhan. Ein grwpiau targed nesaf yw rhieni plant ifanc, yn enwedig rhieni ifanc; 11-18 oed, yn enwedig y rhai sy'n debygol o ddioddef o eithrio cymdeithasol; pobl gyda phroblemau iechyd meddwl, yn enwedig y rhai nad ydynt mewn cysylltiad rheolaidd â gwasanaethau a grwpiau cefnogi. Byddwn yn targedu pobl o ardaloedd Machynlleth, Cadfarch, Glantwymyn a Llanbrynmair, ond bydd croeso i bobl o rannau eraill o Ddyffryn Dyfi i ymuno yn y gweithgareddau. ecodyfi yw'r corff arweiniol ac mae partneriaid eraill yn cynnwys:
ecodyfi yw'r sefydliad adfywio lleol i Ddyffryn Dyfi. Fe'i cefnogir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru trwy Amgylchedd Cymru ac Adran Menter, Arloesi a Rhwydweithiau. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||