Ewch ati i dyfu llysiau llwyddiannus eto eleni!! |
|
|
Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau. Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!
|
Os oes gennych ddiddordeb mewn mynd ati i dyfu llysiau organig eich hunan y flwyddyn hon, yna mynnwch weld yr hyn mae ecodyfi'n ei wneud.Trefnodd ecodyfi hyfforddiant mewn garddio organig llwyddiannus iawn o dan yr enw 'ewch ati i dyfu' yn 2005, a bu o fudd i ddeg ar hugain o drigolion lleol. Roedd y mwyafrif o'r garddwyr dan hyfforddiant yn cymryd rhan mewn rhaglen ymarferol wythnosol yng Ngerddi Ynyslas. Roedd eraill, na fedrai fforddio'r amser yn dilyn y cwrs trwy gyfrwng y we neu'r post, ac yn cyflawni'r gorchwylion wythnosol yn eu gerddi'u hunain. Enillodd yr hyfforddiant trwy gyfrwng y we Wobr o �2000 gan Fentrau yn y Gymuned AOL (AOL Innovations in the Community). Mae ecodyfi'n gobeithio defnyddio hyn i annog ysgolion lleol i dyfu trwy ymuno â rhaglen y wefan. Roedd y rhai dan hyfforddiant yn tyfu gwahanol gnydau ar leiniau o dir a rannwyd gan ddau berson, yn amrywio o datws i fresych, o india corn i domatos, gan gynaeafu'r rhan fwyaf a'u cludo adref o wythnos i wythnos. Cafwyd llawer o fudd o'r hyfforddiant gan gynnwys agweddau iechyd garddio corfforol a gwella diet. Defnyddiwyd gweithgareddau tyfu gartref yn sylfaen i ddealltwriaeth o fyw cynaliadwy, gwneud ffrindiau newydd, rhoi hwb i hunan-barch a chael hwyl yn y baw. Dywedodd Jean Moore, a fynychodd y cwrs, ac ennill tystysgrif am gwblhau prosiect terfynol, "Rwyf wedi cael budd mawr o'r cwrs garddio. Gwnes ffrindiau newydd a mwynhau'r amser a dreuliais yng Ngerddi Ynyslas, ond yn fwy na dim, fe ddysgais lawer iawn." Ariannir cwrs 2006 eto, diolch i 'Anghydraddoldeb mewn Iechyd Bro Ddyfi' ac Ymddiriedolaeth Naturesave, a chaiff ei gefnogi gan 'Garden Organic' (Cymdeithas Ymchwil Henry Doubleday). Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o'r gweithgaredd yn 2006, yna cysylltwch â Tom O'Kane ar 01970 832993 neu 01654 703965. Pe hoffech weld lluniau a chynnwys cwrs 2005 edrychwch ar www.ecodyfi.org.uk gan glicio ar Tyfu yn y rhestr prosiectau. Bydd y cwrs yn rhedeg o ddiwedd mis Mawrth tan ddechrau mis Medi, dros bedwar diwrnod ar ddeg o hyfforddiant. Treulir dau o'r rhain yn ymweld â gerddi eraill. Cynigir lleoedd i drigolion Powys sy'n derbyn budd-daliadau i ddechrau, ond llwyddodd edodyfi i gynnig lle i bob ymgeisydd llynedd, a'r gobaith yw gwneud hynny eto eleni. Gwybodaeth bellach:Am fwy o wybodaeth ynglyn â datganiadau i'r wasg cysyllter â Tom O'Kane 01654 703965 neu 01970 832993. Am fwy o wybodaeth am ecodyfi cysyllter ag Andy Rowland 01654 703965 neu edrych clichwch
yma. Imogen Pettitt, Dyfi Valley Seed Savers 01654 703965 neu 702340
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||