Garddwyr Dyffryn Dyfi yn Dechrau Tyfu |
|
|
Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau. Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!
|
Bob dydd Llun ers mis neu ddau bu garddwyr newydd brwd yn ymlwybro o bedwar ban Dyffryn Dyfi i Erddi Ynyslas i balu'r pridd, plannu hadau, chwynnu, cymdeithasu a dysgu am ddulliau tyfu organig.Fe wnaeth un o'r rhai dan hyfforddiant hyd yn oed ddwyn perswâd ar Outward Bound Aberdyfi i'w hebrwng mewn cwch ar draws yr aber pan sylweddolodd nad oedd tr�n y bore hwnnw. Unwaith yr wythnos bydd Ian Mitchell (yr hyfforddwr) yn mynd â grwp o ddau ar bymtheg o hyfforddedigion drwy raglen arddio organig ecodyfi, a gychwynnodd ym mis Mawrth. Bydd yn para tan fis Medi, ond gyda bwlch hir dros yr haf. Rhoir y pwyslais ar ddechrau tyfu. Mae'r cwrs yn cynnig profiad ymarferol i bobl sydd am dyfu eu bwyd eu hunain. "Roedd blys arna'i ers blynyddoedd i dyfu fy mwyd fy hun, ond fod angen rhywbeth fel hyn i fy sbarduno i fynd ati", meddai Margaret Alford, un o'r rhai sy'n cael ei hyfforddi. "Mae'r cwrs yn hynod ymarferol ac addysgiadol, ac mae treulio amser yma yng nghwmni grwp o bobl yn brofiad cymdeithasol a phleserus iawn". Sefydlwyd y cwrs gan ecodyfi, gydag arian o goffrau Uned Hybu Iechyd Powys ac Amgylchedd Cymru a chefnogaeth gan Gymdeithas Ymchwil Henry Doubleday. Cafwyd y safle drwy garedigrwydd neilltuol perchnogion Gerddi Ynyslas. Yn ôl Tom O'Kane, ecodyfi, "Cynyddu'r llysiau a ffrwythau sy'n cael eu tyfu yn lleol oedd yr ysgogiad gwreiddiol i sefydlu'r cwrs, er mwyn lleihau'r angen i ni fewnforio bwyd, ond gan hefyd ddod â phobl allan i fan cymdeithasol i gyflawni gwaith sydd gyda'r mwyaf sylfaenol, buddiol a phleserus bosib". Nid oes lle ar ôl ar y cwrs ymarferol eleni, ond mae croeso i unrhyw un ymuno â'r hyfforddiant ar-lein neu drwy'r post sy'n gysylltiedig â'r cwrs. Os ydych am ddilyn y cwrs, edrychwch ar adran Tyfu newydd y wefan neu roi galwad i Tom ar 01654 703 965. Gallwch hefyd ofyn cwestiynau ynglyn â garddio organig drwy gyfrwng y wefan. Gobaith ecodyfi yw medru cynnal y cwrs eto flwyddyn nesaf, a gofynnir i unrhyw un sydd â diddordeb gysylltu â nhw nawr. Bydd hefyd gyfle i bobl ddysgu am y cwrs yng Nghanolfan Gymunedol Machynlleth ar ddydd Sadwrn Mai 14eg, gan fod y Dyfi Valley Seed Savers wedi estyn gwahoddiad yno i bawb - i gyfnewid hadau, dysgu mwy am arddio a chanfod danteithion garddio eraill o bob math. Rhagor o wybodaeth:Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Tom O'Kane ar 01654 703965 neu e-bost bev.dimmuck@ecodyfi.org.uk
eu clichwch yma. Imogen Pettitt, Dyfi Valley Seed Savers 01654 703965 neu 702340
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||