ecodyfi logo, valley and hills, link to home page

Llysiau a ffrwythau organig yn
hybu iechyd yn Nyffryn Dyfi


english version

pont

Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion

Ydych chi yn..?

golau
Berson lleol
Ymwelydd
Gwmni
Awyddus i wybod am ecodyfi

Prosiectau:

swyddfa ecodyfi
Mentro Allan
Trafnidiaeth
Twristiaeth
Ynni
Gwastraff
Masnach Deg
Biosffer Dyfi Biosphere
Cymunedau yn Gyntaf
Dysgu Gydol Oes

Manylion cysylltu

Eco Parc Dyfi

Ty Bro Ddyfi,
52 Heol Maengwyn,
Machynlleth, Powys, SY20 8DT, DU.
ffôn: 01654 703965
ebost: info@ecodyfi.org.uk

Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau.

Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!

[Ein lleoliad - map mwy]

press release11/1/2005

Gall tyfu llysiau a ffrwythau organig yn Nyffryn Dyfi fod yn allwedd i fywyd iach yn ogystal â achub yr amgylchedd.

Mae hyrwyddwyr iechyd Bro Ddyfi o fewn ardaloedd cymunedau cyntaf Bro Ddyfi yn annog pobl i ymarfer corff wrth dyfu ffrwythau a llysiau, yn ogystal â bwyta bwydydd ffres.

Maent yn cydweithio â ecodyfi, grwp adfywiad lleol, sydd yn awyddus i gadw arian o fewn yr economi lleol a lleihau'r llygredd sydd yn ymwneud â chludo bwyd o amgylch y byd.

Mae ecodyfi yn rhoi'r cyfle i drigolion Dyffryn Dyfi i dyfu llysiau a ffrwythau organig.

� yn enwedig os nad ydynt yn tyfu unrhyw fwyd ar hyn o bryd, neu ddim yn gwybod sut i wneud.

Mae'r cynllun 'Ewch ati i dyfu' ('Get Growing') yn cael ei ariannu gan Uned Hyrwyddo Iechyd Powys, Amgylchedd Cymru gyda chefnogaeth y Cynulliad Cymru yn ogystal â chynllun 'Bwyd Organig i bawb' - The Henry Doubleday Research Association.

Disgwylir i'r cynllun gychwyn ym mis Mawrth.

Mae nifer o opsiynau ar gyfer unigolion sydd am dyfu ffrwythau a llysiau eu hunain.

Un opsiwn yw ymuno â chwrs hyfforddiant garddio organig o dan ofal ecodyfi a fydd yn cael ei gynnal o fis Mawrth i Fis Awst.

Bydd y cwrs ymarferol hwn yn cael ei gynnal mewn gardd organig weithredol.

Bydd pawb yn cael plot o dir ac yna'n cael ei baratoi, ei heu, ei chwynnu a'i gynaeafu.

Mae'r cwrs yn agored i bawb o unrhyw oedran a gallu, mae'n addas ar gyfer rhai sydd am gychwyn ym myd garddio yn ogystal â rhai sydd wedi garddio eisoes.

Bydd amser a dyddiadau yn cael eu trefnu o amgylch y rhai a fydd yn mynychu'r cyrsiau.

Bydd yr hyfforddedigion yn cael eu harholi ar ddiwedd y cwrs ac yna'n ennill tystysgrif Dyffryn Dyfi mewn garddio organig.

I'r rhai sydd â'u hamser yn brin, mae yna opsiwn o ymuno â chwrs ar y we neu bost a fydd ar gael yn ystod yr un amser.

Dywedodd tom O'Kane, ecodyfi "Mae ecodyfi yn awyddus i hyrwyddo garddio fel ffordd o fyw'n iach yn ogystal â lleihau'r milltiroedd a gaiff eu gwneud wrth gludo llysiau a ffrwythau sydd wedi eu mewnforio.."

Mae'n bwysig i'r rhai sydd â diddordeb i wneud cais am le mor fuan â phosib gan fod llefydd yn brin.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Tom O'Kane ar 01654 703965 neu e-bost bev.dimmuck@ecodyfi.org.uk eu clichwch yma.

Brig y dudalen