Meithrin Garddwriaeth yn Nyffryn Dyfi |
|
|
Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau. Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!
|
Yn sgîl awgrym a wnaed gan Charles Arch (ffermwr o Bennal ac aelod o fwrdd ecodyfi) mae ecodyfi a Chyswllt Ffermio yn gweithio i sicrhau y tyfir mwy o lysiau yn Nyffryn Dyfi.Mae dibyniaeth fawr ffermwyr lleol ar ffermio da byw yn golygu y gall newidiadau yn y drefn gymorthdaliadau eu heffeithio ac mae gan rai perchnogion tir ddiddordeb mewn arallgyfeirio � os yw'r cymorth priodol ar gael. Mae ffactorau eraill sydd werth eu hystyried hefyd:
Cofia Charles fel y byddai ei deulu'n tyfu amrywiaeth o ffrwythau a llysiau ym Mhennal, tebyg i lawer o ffermydd y dyffryn, ond erbyn hyn mae ffermwyr wedi colli gafael ar y wybodaeth honno mewn cyfnod mor fyr. Y llynedd cychwynnwyd ar drafodaethau gyda phobl o'r cylch sydd â diddordeb yn y maes. Yna estynnodd ecodyfi wahoddiad -
- i ymuno â'r drafodaeth. Deilliodd partneriaeth rhwng Cyswllt Ffermio ac ecodyfi, a sefydlu grwp trafod Garddwriaeth yn Nyffryn Dyfi, o hyn. Gwahoddwyd tyfwr o Orllewin Cymru gan y grwp i annerch llond stafell o ffermwyr lleol a thyfwyr posib. Yr adeg hon roeddem wedi canfod diddordeb ymysg ffermwyr a phrynwyr lleol. Yn ystod 2004 trefnwyd nifer o ymweliadau fferm gan y grwp, y nesaf ar Orffennaf 29ain â fferm gymysg yn Llanrhystud. Mae'r ffermwr yno'n cadw defaid a ieir dodwy ac yn tyfu llysiau fesul cae. Dylai pawb sy'n dymuno dod ffonio Tom O'Kane yn ecodyfi ar 01654 703 965 neu Gwen Lloyd ar 702481. Mae teithiau eraill yn yr arfaeth, yn cynnwys ymweliadau â meithrinfeydd coed o darddiad lleol. Anfonwch air os ydych am eich cynnwys ar y rhestr bostio. Wedi cyflawni gymaint, carai'r grwp sefydlu rhaglen hyfforddi yn ystod yr hydref drwy gyfrwng LANTRA ar gyfer nifer fechan o ffermwyr lleol sy'n fodlon creu llain lysiau ar eu tir, neu unrhyw unigolion eraill sydd â diddordeb mewn tyfu. Yn hytrach na dysgu'r sgiliau eu hunain, mae rhai ffermwyr yn ystyried cynnig tir i eraill gael tyfu cnydau. O gael pobl fyddai'n fodlon cymryd rhan bydd modd i ni astudio datblygiad gwaith ein tyfwyr yn ystod y tymor, gyda'r bwriad o gyflwyno ymarferoldeb tyfu yn y dyffryn i ffermwyr eraill. Mae'r grwp yn cydnabod bod llawer o ffactorau, yn ffisegol ac yn economaidd, sy'n rhwystro ffermwyr lleol rhag tyfu llysiau. Byddai arbrawf o'r fath yn caniat�u i ni gynnal astudiaeth fwy manwl i ganfod beth yn union yw'r ffactorau hyn a sicrhau rhai atebion efallai. Bydd hyn yn cynnwys helpu i greu dulliau o ddod â'r cynnyrch i'r farchnad. Cydlynydd lleol Cyswllt Ffermio yw Gwen Lloyd. "Ar hyn o bryd mae anogaeth gan y llywodraeth a phrynwyr (yn cynnwys ymwelwyr â'n hardal) i gynhyrchu a bwyta mwy o fwyd lleol," meddai. "Gallai Dyffryn Dyfi osod esiampl o'r modd y gall cymunedau ffermio gwledig arallgyfeirio tuag at gynhyrchu llysiau mwy lleol ac ailsefydlu'r cyswllt rhwng y ffermwr a'r defnyddiwr." Os ydych yn fodlon cymryd rhan neu ond â pheth diddordeb hyd yn oed, yna da chi cysylltwch ag unai Gwen Lloyd ar 01654 702481 neu Tom O'Kane ar 01654 703965. Rhagor o wybodaeth:Andy Rowland, Trefnydd ecodyfi 01654 703965 Charles Arch, aelod o Fwrdd ecodyfi 01654 791292 Gwen Lloyd, cydlynydd Cyswllt Ffermio 01654 702481
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||