ecodyfi logo, valley and hills, link to home page

Cynog i lansio'r tyrbin gwynt
cymunedol cyntaf

english version

pont

Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion

Ydych chi yn..?

golau
Berson lleol
Ymwelydd
Gwmni
Awyddus i wybod am ecodyfi

Gwaith:

ecodyfi office
Tirwedd Dyfi
Tir Cymunedol
Mentro Allan
Ôl Troed Dyfi
Trafnidiaeth
Twristiaeth
Ynni
Gwastraff
Masnach Deg
Biosffer Dyfi Biosphere
Cymunedau yn Gyntaf
Dysgu Gydol Oes

Manylion cysylltu

Eco Parc Dyfi

Y Plas,
Machynlleth, Powys, SY20 8ER, DU.
ffôn: 01654 703965
ebost: info@ecodyfi.org.uk

Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau.

Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!

[Ein lleoliad - map mwy]

 

Bydd Cynog Dafis yn rhoi ar waith y tyrbin gwynt cyntaf yn y DU i'w ddatblygu gan y gymuned, gan gyflawni un o'i ddyletswyddau olaf fel Aelod o'r Cynulliad. Ar ddydd Sadwrn Ebrill 5ed bydd trydan tyrbin grwp cymunedol o Ddyffryn Dyfi yn dechrau cyflenwi anghenion y Ganolfan Dechnoleg Amgen.

Mae'r tyrbin gwynt ym mherchnogaeth ac yn cael ei reoli gan 57 o aelodau a chyfranddalwyr Bro Dyfi Community Renewables Ltd. Dyma dyrbin gwynt cyntaf y DU sydd â rheolaeth leol o'r fath.

Awgrymwyd y cynllun yn wreiddiol dair blynedd yn ôl mewn cyfarfod yn Neuadd y Pentref, Pantperthog a chyflawnwyd yr holl waith datblygu ac adeiladu gan bobl leol. Yn y pen draw, bu'n rhaid gostwng mwyafswm buddsoddi o £20,000 i £1,000 er mwyn i bawb a wnaeth gais gael prynu cyfranddaliadau, gymaint oedd y galw.

Derbyniodd y grwp gefnogaeth gan ecodyfi (y grŵp adfywio cymunedol) ac Asiantaeth Ynni Powys.

Llwyddodd y tri i sicrhau cymhorthdal gan Gronfa Ddatblygu Ranbarthol Ewrop, yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni ac Ymddiriedolaeth Ynni Gwyrdd Scottish Power.

Mae'r tyrbin gwynt 75 cilowat unigol yn sefyll yn ymyl coed, ar dir a ddarparwyd gan Fenter Coedwigaeth ger Machynlleth.

Bydd y Ganolfan Dechnoleg Amgen yn prynu'r holl ynni a gynhyrchir yno (tua 163 o oriau megawat y flwyddyn). Bydd yn defnyddio tua hanner yr ynni i gyflenwi'i safle â thrydan a dŵr poeth ac yn trosglwyddo'r gweddill i'r rhwydwaith lleol.

Bydd y trydan a gynhyrchir gan y tyrbin gwynt yn arafu newid hinsoddol drwy arbed i 70 tunnell o garbon deuocsid gael ei ryddhau i'r awyr yn flynyddol. Bydd y grwp hefyd yn hyrwyddo effeithlonrwydd ynni ac y mae'n bwriadu arbed rhyddhau 345 tunnell ychwanegol o garbon yn flynyddol drwy leihau defnydd ynni lleol.

Mae croeso i'r gymuned fynychu'r lansio. Bydd y grŵp yn mynd i hwyl ar y bryn i ddathlu a disgrifio'r gamp. Dylai pawb sydd am fynychu ffonio ecodyfi ar 01654 703965 os am fanylion.

Mae Cyd-Gadeirydd y grwp gwynt, Vicky Leaney, yn byw ym Mhantperthog. "Fe fu'n gryn ymdrech, ond mae'n wych gweld bod modd cynhyrchu trydan ein hunain fel hyn, er mwyn ceisio rhwystro newid yn yr hinsawdd yn ogystal â chryfhau'r economi lleol."

 

Brig y dudalen