ecodyfi logo, valley and hills, link to home page

Tyrbin gwynt cymunedol
cyntaf y DU yn dechrau troi

english version

pont

Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion

Ydych chi yn..?

golau
Berson lleol
Ymwelydd
Gwmni
Awyddus i wybod am ecodyfi

Prosiectau:

swyddfa ecodyfi
Mentro Allan
Trafnidiaeth
Twristiaeth
Ynni
Gwastraff
Masnach Deg
Biosffer Dyfi Biosphere
Cymunedau yn Gyntaf
Dysgu Gydol Oes

Manylion cysylltu

Eco Parc Dyfi

Ty Bro Ddyfi,
52 Heol Maengwyn,
Machynlleth, Powys, SY20 8DT, DU.
ffôn: 01654 703965
ebost: info@ecodyfi.org.uk

Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau.

Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!

[Ein lleoliad - map mwy]

 

Shareholders and turbineAr ddydd Sadwrn Ebrill 5ed rhoddodd Cynog Dafis ar waith y tyrbin gwynt cyntaf yn y du i'w ddatblygu gan y gymuned. Dechreuodd tyrbin y grwp o Ddyffryn Dyfi gyflenwi'r Ganolfan Dechnoleg Amgen thrydan. Gydag anerchiad ysbrydoledig, anogodd Mr Dafis y grup a chymunedau eraill yng Nghymru i greu cynlluniau ynni glan mwy er mwyn datganoli pwer.

Mae'r tyrbin gwynt ym mherchnogaeth ac yn cael ei reoli gan 59 o aelodau a chyfranddalwyr Bro Dyfi Community Renewables Ltd. Dyma dyrbin gwynt cyntaf y DU sydd rheolaeth leol o'r fath. Awgrymwyd y cynllun yn wreiddiol dair blynedd yn al mewn cyfarfod yn Neuadd y Pentref, Pantperthog a chyflawnwyd yr holl waith datblygu ac adeiladu gan bobl leol. Yn y pen draw, bu'n rhaid gostwng mwyafswm buddsoddi o £20,000 i £1,000 er mwyn i bawb a wnaeth gais gael prynu cyfranddaliadau, gymaint oedd y galw.

Derbyniodd y grwp gefnogaeth gan ecodyfi (y grwp adfywio cymunedol) ac Asiantaeth Ynni Powys. Llwyddodd y tri i sicrhau cymhorthdal gan Gronfa Ddatblygu Ranbarthol Ewrop, yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni ac Ymddiriedolaeth Ynni Gwyrdd Scottish Power.

Mae'r tyrbin gwynt 75 cilowat unigol yn sefyll yn ymyl coed, ar dir a ddarparwyd gan Fenter Coedwigaeth ger Machynlleth. Prynnir yr holl ynni a gynhyrchir yno gan y Ganolfan Dechnoleg Amgen (tua 163 o oriau megawat y flwyddyn). Mae'r Ganolfan yn defnyddio tua 20% o'r ynni i gyflenwi'i safle £ thrydan a dwr poeth ac yn trosglwyddo'r gweddill i'r rhwydwaith lleol.

Children painting the turbine towerMae'r trydan a gynhyrchir yn arafu newid hinsoddol drwy arbed i 70 tunnell o garbon deuocsid gael ei ryddhau i'r awyr yn flynyddol. Bydd y grwp hefyd yn hyrwyddo effeithlonrwydd ynni ac y mae'n bwriadu arbed rhyddhau 345 tunnell ychwanegol o garbon yn flynyddol drwy leihau defnydd ynni lleol.

Mynychodd cant o bobl y lansiad a chafwyd hwyl mawr wrth iddynt ddathlu'r gamp. Dewiswyd yr enw Puwer Pobl - People Power - ar gyfer y tyrbin. Mae Cyd-Gadeirydd y grwp gwynt, Vicky Leaney, yn byw ym Mhantperthog. "Fe fu'n gryn ymdrech, ond mae'n wych gweld bod modd cynhyrchu trydan ein hunain fel hyn, er mwyn ceisio rhwystro newid yn yr hinsawdd yn ogystal â chryfhau'r economi lleol."

 

Brig y dudalen