ecodyfi logo, valley and hills, link to home page

Gŵyl y Golau lwyddiannus arall

english version

pont

Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion

Ydych chi yn..?

golau
Berson lleol
Ymwelydd
Gwmni
Awyddus i wybod am ecodyfi

Prosiectau:

swyddfa ecodyfi
Mentro Allan
Trafnidiaeth
Twristiaeth
Ynni
Gwastraff
Masnach Deg
Biosffer Dyfi Biosphere
Cymunedau yn Gyntaf
Dysgu Gydol Oes

Manylion cysylltu

Eco Parc Dyfi

Ty Bro Ddyfi,
52 Heol Maengwyn,
Machynlleth, Powys, SY20 8DT, DU.
ffôn: 01654 703965
ebost: info@ecodyfi.org.uk

Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau.

Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!

[Ein lleoliad - map mwy]

press release6.11.07

lanterns in Machynlleth light parade

fireworks in Machynlleth light parade

lanterns in Machynlleth light parade

owl lantern in Machynlleth light parade
Roedd Gŵyl y Golau 2007 a gynhaliwyd ym Machynlleth yn ddiweddar mor boblogaidd a llwyddiannus ag erioed.

Y flwyddyn hon roedd yn dathlu'r bobl a'r llefydd oddi mewn i Biosffer Dyfi.

Dechreuodd yr wythnos ar Hydref 27ain gyda'r ŵyl ffilmiau fwyaf adloniadol a hynod yng Nghymru, y gwobrau ‘Pink Snowball' a drefnwyd gan Mach Fringe. Roedd yn gorffen gyda'r orymdaith lusernau, sydd bob amser mor boblogaidd, ar Dachwedd 3ydd.

Eleni dilynwyd yr orymdaith gydag arddangosfa dân a thwmpath dawns.

Rhwng y ddau ddigwyddiad roedd pob math o ddigwyddiadau naturiol, diwylliannol, treftadaeth, hanes a chelfyddydau lleol ac, wrth gwrs, y gweithdai gwneud llusernau.

Digwyddodd yr Arddangosfa Dân ar y cae pâl-droed ym Machynlleth, a chafodd ei chreu gan yr artist rhyngwladol-enwog, Jony Easterby a'r pyrograffwyr, Dark Spark.

Nid arddangosfa dân gwyllt gyffredin oedd hon, - ond crëwyd golygfa gelfyddydol arbennig gan ddefnyddio tân gwyllt, rhaffau tân, sain a cherflunwaith. Roedd yn boblogaidd iawn gyda'r cannoedd oedd yn y dorf.

Hoffai'r trefnwyr ddiolch i'r gwirfoddolwyr fu'n gweithio mor galed i sicrhau llwyddiant yr wythnos.

Dywedodd Delyth Richards, Swyddog Cyfathrebu âyl'r Gymuned y Biosffer, "Heb y gwirfoddolwyr a fu mor hael gyda'u hamser, fyddai hi ddim yn bosib llwyfannu Gŵyl y Golau. Felly, diolch yn fawr iawn i bawb fu'n helpu yn ystod yr wythnos a'r misoedd diwethaf."

Hoffai'r trefnwyr ddiolch hefyd i Gyngor Sir Powys, Partneriaeth Twristiaeth Canolbarth Cymru, Cymunedau'n Gyntaf, Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Maer Tref Machynlleth a chyn ymddiriedolwyr ‘Elemental Earth' am eu cefnogaeth.

Rhaid talu teyrnged arbennig i'r rhai canlynol am eu cyfraniadau hael i'r digwyddiad: Will Lloyd Williams, IG Owen, Kelvin Jenkins Gemydd, Gwesty'r Llew Gwyn, Clwb Rygbi a Chlwb Pêl-droed Machynlleth, Y Wynnstay, Hennighan's Topshop a'r Skinners Arms.

Dywed ecodyfi ei bod yn bosibl na fyddant yn medru cydlynu'r digwyddiad y flwyddyn nesaf a byddent yn hoffi helpu i greu pwyllgor annibynnol i wneud y gwaith.

Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o'r gweithgaredd, neu os oes gennych luniau da o'r ŵyl eleni, neu os hoffech rannu syniadau neu awgrymiadau, galwch Delyth ar 01654 703965.

Brig y dudalen