Te twristiaid yn Fasnach Deg |
|
|
Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau. Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!
|
Mae darparwyr llety Gwely a Brecwast Dyffryn Dyfi yn dathlu mantais gystadleuol newydd yn y frwydr i ddenu ymwelwyr.Bellach mae twristiaid mwymwy dethol yn meddwl am gyfiawnder byd-eang yn ogystal â chael gwerth eu harian ac yn penderfynu fod cynnyrch masnach deg megis te yn ateb eu gofynion. Cafwyd cefnogaeth 1,100 o unigolion a 10 o fusnesau yn Nyffryn Dyfi i ymgyrch egnïol i gynnig bargen well i gynhyrchwyr o'r byd datblygol. Daw masnach deg â chyfleoedd iddynt weithio er mwyn rhyddhau eu hunain o dlodi a dibynnu llai ar gymorth. Eleni bydd cyfle i ymwelwyr â Dyffryn Dyfi helpu. Cydlynwyd yr ymgyrch, a ddatblygwyd dros gyfnod o dair mlynedd, gan wirfoddolwyr ymroddedig fu'n gweithio law yn llaw â chymunedau, cyrff a busnesau lleol yn yr ardal. Rhoddwyd anogaeth i bobl o Dywyn i Ddinas Mawddwy ac i lawr i Dalybont i lofnodi'r Adduned Masnach Deg. Yn sgîl yr adduned bydd pobl o bob rhan o'r dyffryn yn cynnig coffi a the masnach deg yn eu cyfarfodydd, mewn swyddfeydd a chantinau, ac adref. Mae rhai cynghorau lleol wedi cymeradwyo cynigion o blaid yr ymgyrch a cheir nwyddau masnach deg bellach yn fwy cyffredinol mewn siopau a bwytai lleol. Y digwyddiadau mawr nesaf yn yr ymgyrch leol fydd lansio Cyfeiriadur Masnach Deg Powys ym mis Ionawr a Phythefnos Masnach Deg genedlaethol ar Fawrth 1 - 13 2005. Yn ôl Abi Murray, o'r Sefydliad Masnach Deg: "Hyd y gwn i, Dyffryn Dyfi yw dyffryn cyntaf y DU i ennill statws masnach deg." Dywedodd Nicola Ruck, Ysgrifennydd grŵp Dyffryn Dyfi dros Fasnach Deg, y cafwyd ymrwymiad arloesol i gynaladwyedd o fewn Dyffryn Dyfi, drwy waith ecodyfi ac eraill. "Cynigiwyd cefnogaeth debyg gan yr ardal i fasnach egwyddorol â gwledydd datblygol", meddai. "Mae hyrwyddo a galluogi cyfiawnder ym maes masnach fyd-eang yn elfen hanfodol o fyw mewn modd cynaliadwy, felly roedd ystyried masnach deg hefyd yn gam naturiol i lawer o bobl." Mae'r rhan fwyaf o'r busnesau sy'n cymryd rhan yn gysylltiedig â thwristiaeth - gan gynnwys darparwyr gwely a brecwast, siopau a thai bwyta a'r busnes lleol mwyaf adnabyddus, y Ganolfan Dechnoleg Amgen ym Machynlleth, sydd yn enwog ledled y byd. Cred llawer ohonynt y gallent fod yn hyrwyddo eu busnesau yn ogystal â sicrhau cyflogau teilwng i gynhyrchwyr y gwledydd datblygol. Yn ôl Nigel Vince, gwesty Maenllwyd, Machynlleth, "Y flaenoriaeth wrth gwrs yw cefnogi'r cynhyrchwyr, ond yn ein profiad ni, mae masnach deg yn bwysig i'n hymwelwyr hefyd. Mae pobl yn ymboeni fwyfwy ynglyn â materion amgylcheddol ac egwyddorol - maent am brofi'r hunanfodlonrwydd sy'n deillio o fod yn gyfrifol, hyd yn oed pan maent ar eu gwyliau". Twristiaeth amgylcheddol ac egwyddorol sydd yn rhannol gyfrifol am neilltuolrwydd Dyffryn Dyfi. Ag yntau â thraddodiad hirsefydlog o symud tuag at fyw mewn modd cynaliadwy, mae gan Ddyffryn Dyfi ddiwydiant twristiaeth cynaliadwy ffyniannus i'w gynnig, a amlygir gan y Ganolfan Dechnoleg Amgen, ac mae busnesau fel Eco Retreats, sy'n addo y caiff ymwelwyr "brofiadau eco mewn tipi brodorion America wnaiff drawsnewid eu bywydau", yn darparu nwyddau Masnach Deg, a bwydydd a gwasanaethau lleol sy'n hybu'r economi lleol ac yn hyrwyddo ymwybyddiaeth o'r amgylchedd yn lleol ac yn fyd-eang. Dylai busnesau sydd eisiau nwyddau neu sydd am gymryd rhan gysylltu unai â Keith Jackson, Dyffryn Dyfi dros Fasnach Deg ar 01654 703736 neu Swyddog Twristiaeth Gynaliadwy ecodyfi, Teresa Walters ar 01654 703965. Rhagor o wybodaeth:
Nicola Ruck, Ysgrifennydd Dyffryn Dyfi dros Fasnach Deg 01654 703428 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||