Cynlluniau bwyd lleol! |
|
|
Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau. Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!
|
Cynlluniau bwyd lleol yn tyfu o hyfforddiant mewn garddio organig. Yr wythnos hon gwelwyd y rhai dan hyfforddiant 'ewch ati i dyfu' yn cwrdd am y tro olaf yn Ynyslas i hau gwrtaith gwyrdd a gosod gorchudd tir dros y gaeaf.Ar yr un adeg mae Ecodyfi yn ennill �2000 gan grwp Technoleg Gwybodaeth AOL i ddatblygu'r cwrs 'ewch ati i dyfu' yn 2006. Mae menter bwyd lleol arall wedi'i llunio gan grwp o bobl leol ysbrydoledig sy'n dod at ei gilydd i drafod stondin lysiau gymunedol yn y farchnad ym Machynlleth. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno mewn rhai o'r mentrau yma, yna darllenwch ymlaen. Mae Ecodyfi ymysg 30 o sefydliadau dielw yn y DU a fydd yn elwa o gynllun gwobrau eleni. Trefnwyd y gwobrau gan AOL UK a'r elusen genedlaethol Citizens Online yn 2003, i annog grwpiau cymunedol ac elusennau i wneud defnydd llawn o'r Rhyngrwyd.�� Mae'r bobl dan hyfforddiant a fynychodd y cwrs yn bositif iawn yngln â'r hyfforddiant, ac mae'u profiadau wedi'u hadlewyrchu yn rhai o'u gerddi ffyniannus. Dywedodd dau o'r rhai dan hyfforddiant, Medwyn a Helena� 'Roedd y cwrs yn llawn gwybodaeth, roedd y drefniadaeth a'r lefel i'r dim. Roeddem wedi mwynhau gweithio fel t�m yn fawr iawn a byddem yn ymuno â'r cwrs eto yn 2006 pe bai hynny'n bosibl.' Mae'n ymddangos bod garddio organig yn boblogaidd iawn ymysg trigolion lleol, ond mae rhai'n awyddus i ddilyn y cwrs o'u gerddi eu hunain. Felly, mae ecodyfi'n paratoi gwersi printiedig i alluogi pobl i arbrofi gydag arferion argymelledig yn eu gerddi eu hunain, ac yna trafod syniadau ar dudalen cwestiwn ac ateb ar lein. Mae'r syniad wedi gweithio'n dda a nawr bydd ecodyfi'n defnyddio'r Wobr Dyfais Newydd yn y Gymuned i'w ddatblygu fel dyfais e-ddysgu ar ei wefan. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â'r cwrs a gynhelir ar un diwrnod yr wythnos rhwng Ebrill a Medi, neu os ydych am gofrestru ar gyfer cyrsiau ar y we neu trwy'r post, yna cysylltwch ag ecodyfi os gwelwch yn dda. Fel canlyniad i'r mentrau cysylltiedig mae gan dri pherson lleol ddiddordeb mewn sefydlu stondin cymunedol ym marchnad Machynlleth i werthu cynnyrch sy'n weddill mewn gerddi a dysgu mwy gyda'i gilydd am dyfu ar raddfa fechan. Ar wahân i'r llysiau a'r ffrwythau arferol gellid cynnwys jam, picl a pherlysiau sychion. Rydym yn awyddus i weld y nifer mwyaf posibl o arddwyr lleol yn ymuno â ni yn y prosiect hwn, felly dewch i gyfarfod yn sefydliad Owain Glyndwr am 7.30pm, Hydref 12fed neu rhowch alwad i ni yn ecodyfi ar 01654 703 965. Am fwy o wybodaethAndy Rowland, Rheolwr ecodyfi 01654 703965. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||