|
Ymaelodwch
ag ecodyfi drwy! Rydym
am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i
Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau.
Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore
tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu
prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!

[Ein
lleoliad - map mwy]
|
Mae ecodyfi wedi cael cynnig lle ychwanegol ar gwrs hyfforddiant
tri diwrnod ar Ymwybyddiaeth Egni gan yr National
Energy Action.
Bwriad y cwrs, sydd fel arfer yn costio hyd at £1,000, yw galluogi i
gyfranogwyr gynghori cleientiaid ar nifer helaeth o faterion gan gynnwys
effeithiolrwydd a'r defnydd addas o systemau gwresogi a dwr poeth, gwahanol
ddulliau o dalu am drydan a nwy, sut i osgoi cyddwysiad a'r cyfleoedd
ar gyfer ynysu thermol.
Bydd y cwrs yn para tri diwrnod yn olynol gydag arholiad i ddilyn a fydd
yn arwain at gymhwyster City and Guilds.
Yn gyfnewid am gymryd rhan yn yr hyfforddiant, bydd ecodyfi yn
disgwyl i'r unigolyn dan hyfforddiant ymgymryd â gwaith gwirfoddol
perthnasol yn Nyffryn Dyfi, neu wneud defnydd o'r hyfforddiant yn ei waith
presennol a fydd yn golygu fod trigolion Dyffryn Dyfi yn elwa.
Bydd y cwrs yn cael ei gynnal yn Worcester ar y 5ed, 6ed a'r 7fed o Hydref
a bydd yr arholiad yn cael ei gynnal ar y 12fed neu'r 13eBydd holl gynnwys
y cwrs yn cael ei arholi.)
Rhagor o wybodaeth:
Cysylltwch â Tom
O'Kane mor fuan â phosib ar 01654 703965.
|