ecodyfi logo, valley and hills, link to home page

Cynnig am hyfforddiant yn rhad ac am ddim

english version

pont

Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion

Ydych chi yn..?

golau

Berson lleol

Ymwelydd

Gwmni

Awyddus i wybod am ecodyfi

Gwaith:

ecodyfi office
Tirwedd Dyfi
Tir Cymunedol
Mentro Allan
Ôl Troed Dyfi
Trafnidiaeth
Twristiaeth
Ynni
Gwastraff
Masnach Deg
Biosffer Dyfi Biosphere
Cymunedau yn Gyntaf
Dysgu Gydol Oes

Manylion cysylltu

Eco Parc Dyfi

Ty Bro Ddyfi,
52 Heol Maengwyn,
Machynlleth, Powys, SY20 8DT, DU.
ffôn: 01654 703965
ebost: info@ecodyfi.org.uk

Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau.

Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!

[Ein lleoliad - map mwy]

8/3/2007ecodyfi press release

Mae trigolion Bro Ddyfi'n cael eu herio i fyw ar yr un blaned sydd gennym yn hytrach na'r tair rydym yn tybio sydd gennym! Gall pobl sy'n taro mewn i Dy Bro Ddyfi ym Machynlleth - ar unrhyw brynhawn Dydd Mercher o Fawrth 26ain ymlaen - roi cynnig ar gwis newydd i ddarganfod eu heffaith ar y blaned.

Wales' ecological footprintMae ecodyfi (y sefydliad datblygu a reolir gan y gymuned) a'r Ganolfan Dechnoleg Amgen (CAT) yn dechrau prosiect newydd, cyffrous, sef 'Ôl Troed Dyfi'. Bu Bev Dimmock, Swyddog Byw Cynaliadwy ecodyfi'n esbonio mwy amdano.

"Rydym i gyd yn gadael ein hôl ar yr amgylchedd trwy'r penderfyniadau gwariant a wnawn o ddydd i ddydd," meddai. "Mae hyn yn cynnwys y modd rydym yn teithio, y bwyd rydym yn ei fwyta a'r modd rydym yn cynhesu ein cartrefi".

"Gellir mesur yr effaith hwn trwy gyfrif yr adnoddau naturiol a ddefnyddiwn a'r llygredd sy'n cael ei greu oherwydd y dewisiadau hynny. Gellir ei ddisgrifio fel y nifer o 'hectarau byd-eang' - hynny yw, yr arwynebedd o dir sydd ei angen i gynnal ein ffordd o fyw. Dyma ein 'Ôl Troed Ecolegol' personol ni.

Aeth Bev ymlaen i ddweud bod WWF wedi dod i'r casgliad y byddai angen tair planed i'n cynnal pe byddai pawb yn y byd yn byw yn yr un ffordd ag yr ydym ni yng Nghymru.

Dros y tair blynedd nesaf, bydd Ôl Troed Dyfi'n helpu pobl i fesur eu Ôl Troed Ecolegol hwy eu hunain, a helpu unigolion a grwpiau i ddeall sut y gallant leihau eu hôl troed mewn ffyrdd lleol ac ymarferol. Bydd peth o'r gwaith hwn yn cael ei wneud gan bobl ifainc trwy ofyn iddynt ddychmygu sut y gallem wneud pethau mewn ffordd wahanol.

Ariannir prosiect Ôl Troed Dyfi gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru, CAE (Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri), Amgylchedd Cymru, (Llywodraeth Cynulliad Cymru), Ymddiriedolaeth Ceniarth a WWF UK.

Cynhelir nifer o sesiynau 'taro mewn' trwy'r ardal er mwyn helpu pobl i fesur eu Ôl Troed Ecolegol eu hunain. Bydd y cyntaf o'r rhain yn cael ei gynnal yn swyddfeydd ecodyfi yn Nhg Bro Ddyfi ar Heol Maengwyn, Mawrth 21ain rhwng 2 a 4 o'r gloch y prynhawn. Bydd hyn yn digwydd bob prynhawn Mercher wedi hynny.

Yn ychwanegol at hyn, bydd Bev ar gael i ddefnyddio'r cwis gyda grwpiau cymdeithasol. Gellir cysylltu â hi trwy ffonio 01654 703965 neu ar e-bost: bev.dimmock@ecodyfi.org.uk

Gwybodaeth Bellach:

Bev Dimmock, Swyddog Byw Cynaliadwy ecodyfi 01654 703965

Andy Rowland, Trefnydd ecodyfi 01654 703965

Ann MacGarry, Swyddog Addysg y Ganolfan Dechnoleg Amgen 01654 705963

Peter Harper, Pennaeth Ymchwil ac Arloesi'r Ganolfan Dechnoleg Amgen 01654 700045

CAT's information sheet [Saesneg]

www.footprintwales.org

Nodiadau i Olygyddion

ecodyfi yw'r grwp adfywio cymunedol dros Fro Ddyfi. Mae'n rhoi sylw arbennig i gryfhau'r economi lleol trwy stiwardio adnoddau naturiol a diwylliannol yn ofalus. Mae'n cael ei reoli gan Fwrdd o 17 o bobl leol, ac fe'i cefnogir yn bennaf gan Y Cynulliad Cymreig, Partneriaeth Twristiaeth Canolbarth Cymru ac awdurdodau lleol.

Mae'r Ganolfan Dechnoleg Amgen (CAT) yn ganolfan ymchwil ac arddangos arloesol sy'n ysbrydoli, cynnig gwybodaeth a galluogi pobl i ddarganfod ffyrdd newydd o fyw. Ar ôl agor i'r cyhoedd yn 1975, mae wedi sefydlu enw rhyngwladol iddi'i hun fel un o'r prif sefydliadau sy'n arddangos technolegau a ffordd o fyw ecolegol. Mae CAT yn cyflwyno atebion ymarferol mewn dull hwyliog ac addysgiadol.