ecodyfi logo, valley and hills, link to home page

Gwenno'n dilyn ôl troed Bev

english version

pont

Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion

Ydych chi yn..?

golau

Berson lleol

Ymwelydd

Gwmni

Awyddus i wybod am ecodyfi

Gwaith:

ecodyfi office
Tirwedd Dyfi
Tir Cymunedol
Mentro Allan
Ôl Troed Dyfi
Trafnidiaeth
Twristiaeth
Ynni
Gwastraff
Masnach Deg
Biosffer Dyfi Biosphere
Cymunedau yn Gyntaf
Dysgu Gydol Oes

Manylion cysylltu

Eco Parc Dyfi

Y Plas,
Machynlleth, Powys, SY20 8ER, DU.
ffôn: 01654 703965
ebost: info@ecodyfi.org.uk

Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau.

Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!

[Ein lleoliad - map mwy]

14/12/2007ecodyfi press release

Mae Gwenno Davies wedi cael ei hapwyntio yn Swyddog Byw Cynaliadwy newydd ecodyfi.

Fe fydd hi'n gweithio ar brosiect ôl Troed Dyfi ac ar gynllun Gwylwyr Gwastraff ym Mro Ddyfi.

Gwenno'n trafod bwyd lleol gyda'r cigydd, Will Lloyd Williams

Gwenno'n trafod bwyd lleol gyda'r cigydd, Will Lloyd Williams

Bydd prosiect ôl Troed Dyfi allan o gwmpas y gymuned gyda holiadur i helpu grwpiau lleol ac unigolion i fesur eu "ôl Troed Ecolegol" - hynny yw, faint o dir mae rhywun ei angen i gynnal eu patrymau gwario.

Bydd Gwenno ar gael i gynghori pobl ar ffyrdd ymarferol o leihau eu heffaith ar yr amgylchfyd.

Eglurodd Gwenno, sy'n byw yn Llanbrynmair, ac sydd â gradd mewn Bwyd, Maeth ac Iechyd, sut y gall hyn fod yn ddigon syml a di-boen.

"Un enghraifft yw prynu bwydydd lleol" dywedodd. "Mae'n lleihau ein dibyniaeth ar fwydydd sydd wedi teithio miloedd o filltiroedd i'n pl ât.

Nid yn unig mae hyn yn gostwng ein ôl troed ecolegol ond mae hefyd yn cefnogi busnesau lleol, ac mae hynny'n ein symud ni tuag at economi mwy cynaliadwy"

"Enghraifft arall yw lleihau ein dibyniaeth ar geir" dywedodd. "Ryden ni am greu mwy o opsiynau a meddwl am ffyrdd gwahanol o fynd o gwmpas, er enghraifft mynd ar feic neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus."

Mae aelod newydd staff ecodyfi yn parhau â gwaith Bev Dimmock. Gadawodd Bev ym mis Gorffennaf i helpu gydag ehangu'i busnes teuluol, JPW Construction Ltd.

Dywedodd Gwenno ei bod yn chwilio am opsiynau ac atebion yn hytrach na gwneud i bobl deimlo nad ydy'n nhw'n gwneud digon.

Er mwyn darganfod mwy am y prosiectau neu i holi iddi ddod i gyfarfod yn eich clwb neu gymdeithas, cysylltwch â Gwenno ar 01654 703965.

Gwybodaeth Bellach