![]() | Gwaith yn cychwyn ar Lwybrau Beic
Mynydd Dyfi |
Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau. Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!
|
Gwaith yn cychwyn ar Lwybrau Dyfi: Mach Off Road Ltd yn cyhoeddi y bydd Llwybrau Beicio Mynydd Dyfi newydd yn agor Hydref 2004.Mae gwaith wedi cychwyn ar y Llwybrau Dyfi newydd, ychydig i'r gogledd o Fachynlleth. Mae'r cynllun beicio mynydd yma'n creu swyddi a bydd yr ardal yn fwy atyniadol o'i herwydd. Bydd hefyd yn cynnig cyfleuster cyffrous i bobl leol. Mae Coedwig Dyfi, sydd â reidiau coedwig trawiadol, eisoes yn hysbys ym myd beicio mynydd y DU oherwydd achlysur blynyddol y Raw Dyfi Enduro. Mae'n argoeli y bydd y llwybrau gorffenedig yn darparu rhodfeydd arwyddedig hiraf a mwyaf cyffrous y DU, a bydd yr hanner cyntaf - tua 20 cilomedr - yn cael ei adeiladu dros yr haf. Bydd hanner y 40 cilomedr gorffenedig, yn fras, ar "drac sengl" wedi'i adeiladu'n unswydd. Arweinyddion y cynllun yw Mach Off Road ltd., cwmni cymunedol sy'n gyfrifol am lwybrau beicio mynydd llwyddiannus Mach 1, 2, a 3, ac Ecodyfi, grwp adfywio cymunedol Dyffryn Dyfi. Daw Llwybrau Dyfi yn sgîl blynyddoedd o chwilio gan feicwyr lleol am y reid gorau un, ac y maent yn anarferol gan mai grwp cymunedol sy'n eu rheoli yn hytrach na'r Comisiwn Coedwigaeth. Mae'r cynllun yn cael ei ariannu gan Adfywio, cyd-gronfa Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Bwrdd Croeso Cymru, Cronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewrop, y Comisiwn Coedwigaeth, a phwyllgor digwyddiad Raw Dyfi Enduro. Mae busnesau lleol wedi bod yn hynod gefnogol i'r cynllun o'r cychwyn. Bydd llawer yn debygol o fod ar eu hennill wrth i nifer gynyddol o ymwelwyr beicio mynydd hael eu gwariant aros mewn lleoedd gwely a brecwast lleol a llety ysgubor a defnyddio siopau beiciau lleol, gwasanaethau llogi a thywys, neu yn anuniongyrchol ym meysydd arlwyo ac adwerthu. Yn ôl Tegid Humphreys, beiciwr mynydd lleol brwdfrydig, tywysydd a pherchennog llety ysgubor Reditreks, yr hyn fydd yn sicrhau llwyddiant y llwybrau newydd fydd: "Eu maint, i ddechrau, gydag allt aruthrol ar y diwedd yn disgyn 3 cilomedr." Mae'r llwybrau'n cael eu hadeiladu ar dir y Comisiwn Coedwigaeth gan Ecotrails, contractwyr lleol, a'r disgwyl yw y byddant yn cael eu hagor ym mis Hydref. Rhagor o wybodaeth gan: Teresa Walters, Swyddog Prosiect Llwybrau Dyfi yn ecodyfi, ffôn 01654 703965, neu Tegid Humphreys, ffôn 01654 70041 | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||