![]() |
Antur yn Nyffryn Dyfi: Dyfi Bywiol
|
|
|
Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau. Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!
|
Grwp gweithgareddau awyr agored newydd yw Dyfi Bywiol, ac y mae'n benderfynol o gynhyrfu'r dyfroedd mewn sector o'r farchnad dwristiaeth sy'n tyfu.Mae darparwyr gweithgareddau a darparwyr llety sy'n croesawu ymwelwyr gweithgareddau yn cydweithio er mwyn datblygu a hyrwyddo gweithgareddau yn Nyffryn Dyfi. Eu nod yw creu mwy o swyddi sy'n para drwy'r flwyddyn ar gyfer pobl leol, a dyma pam mae'r Grwp adfywio lleol, ecodyfi, yn eu helpu i fagu gwreiddiau drwy ddarparu hyfforddiant, cysylltiadau a chyngor iddynt. Ariannwyd Teresa Walters ecodyfi gan Awdurdod Datblygu Cymru i astudio pwy yn y cylch sy'n darparu beth ac i ddod â phobl ynghyd. Ers hynny mae'r Grwp wedi cael ei draed dano. Mae gan Dyfi Bywiol 20 o aelodau ar hyn o bryd a dywed y cadeirydd Andy Williams, Byncws a Thafarn Braich Goch, Corris, eu bod yn awyddus i fwy o ddarparwyr gysylltu â nhw. "Rydym am sicrhau fod yr ardal wedi ymbaratoi ar gyfer busnes", meddai, "gyda chyfleusterau priodol ar gyfer ymwelwyr gweithgareddau". Mae'r dyfodol yn ymddangos yn olau, meddai'r Ysgrifennydd, Ann Bottrill. "Bydd y llwybrau beicio mynydd Dyfi newydd yn hwb mawr i'n busnesau ni i gyd � ac unwaith y bydd ymwelwyr yma, cânt ardal sy'n llawn o weithgareddau awyr agored eraill iddynt eu gwneud." Hwylio a dringo, can_io a chwarae golff, pysgota a cherdded bryniau, dyma ond peth o'r amrywiaeth fawr o weithgareddau awyr agored sydd i'w hyrwyddo gan Dyfi Bywiol, yn enwedig i grwpiau sy'n cynnwys teuluoedd a dechreuwyr a phawb sydd am gael cymorth arweinyddion a thywyswyr. Sefydlwyd y Grwp yn ystod Gwanwyn 2004 fel rhan o strategaeth cynllun Ardal Twf Twristiaeth Dyffryn Dyfi. Mae ganddo dri phrif gynllun ar y gweill: gwefan ar gyfer ymwelwyr a darparwyr fydd yn cynnig y wybodaeth ddiweddaraf i fewngofnodwyr; taflen i hyrwyddo'r Grwp ymysg ymwelwyr â'r ardal; a wythnos weithgareddau yn ystod Gwanwyn 2005. Mwy o wybodaeth am y rhain yn http://www.ecodyfi.org.uk/dyfiactive neu cysylltwch ag Ysgrifennydd Dyfi Bywiol, Ann Bottrill, Byncws a Thafarn Braich Goch, Corris, ffôn 01654 761229. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||