ecodyfi logo, valley and hills, link to home page

Antur yn Nyffryn Dyfi: Dyfi Bywiol

english version

pont

Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion

Ydych chi yn..?

golau

Berson lleol

Ymwelydd

Gwmni

Awyddus i wybod am ecodyfi

Prosiectau:

swyddfa ecodyfi

Cymunedau yn Gyntaf

Trafnidiaeth

Twristiaeth

Ynni

Gwastraff

Tyfadwy
Coedwigaeth

Masnach Deg
Twristiaeth gweithgareddau
Biosffer Dyfi Biosphere
Dysgu Gydol Oes

Manylion cysylltu

Eco Parc Dyfi

Ty Bro Ddyfi,
52 Heol Maengwyn,
Machynlleth, Powys, SY20 8DT, DU.
ffôn: 01654 703965
ebost: info@ecodyfi.org.uk

Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau.

Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!

[Ein lleoliad - map mwy]

ecodyfi press release27/04/2005


BywiolDyfiActive web site screen shotMae darparwyr gweithgareddau a darparwyr llety sy'n croesawu ymwelwyr gweithgareddau yn cydweithio er mwyn datblygu a hyrwyddo gweithgareddau o fewn Dyffryn Dyfi.

A bellach, gyda chymorth ariannol gan Bartneriaeth Twristiaeth Canolbarth Cymru, mae ganddynt wefan seiliedig ar gronfa ddata ar gyfer ymwelwyr gweithgareddau.

Yn www.dyfiactive.org.uk ceir yr holl wybodaeth sydd ei hangen ar ymwelwyr i'w galluogi i baratoi eu pecynnau gwyliau gweithgareddau eu hunain - sut i ddod yma, llefydd i aros a phethau i'w gwneud.

Gall aelodau newydd gofrestru eu hunain ar-lein, gan deipio'r disgrifiad maent am gael ei gynnwys.

Nod Dyfi Bywiol yw creu mwy o swyddi gydol y flwyddyn ar gyfer pobl leol drwy annog mwy o dwristiaeth gweithgareddau yn Nyffryn Dyfi.

Ond maent hefyd am ofalu bod effaith ymwelwyr gweithgareddau ar yr amgylchedd yn cael ei gyfyngu hyd y bo modd. Dyma ddau reswm pam y rhoddodd ecodyfi gefnogaeth gyson iddynt o'r cychwyn - buom yn helpu gyda sefydlu'r grwp, cynllunio a sicrhau cyllid, yn ogystal â rhoi cyngor ar y fframwaith twristiaeth gynaliadwy lleol - cynllun gweithredu Ardal Twf Twristiaeth Dyffryn Dyfi.

Maent hefyd wedi derbyn cefnogaeth ariannol gan Gyngor Sir Powys drwy gyfrwng y cynllun ardal twf twristiaeth.

Mae Dyfi Bywiol yn hyrwyddo gweithgareddau awyr agored "bywiol" o bob math, yn cynnwys hwylio a dringo, canwio a chwarae golff, pysgota a cherdded mynyddoedd, yn enwedig ar gyfer teuluoedd a grwpiau o ddechreuwyr a phobl sy'n chwilio am arweinyddion a thywysyddion i'w cynorthwyo.

Yn ôl y Cadeirydd Andy Williams "mae posibiliadau rif y gwlith yma - ym mha ran arall o'r byd gaech chi dwyni tywod i chi'ch hun a thraethau syrffio, dyfroedd gwyllt a rhaeadrau heb eu profi, coedwigoedd fesul hectar, aberoedd eang, yn nannedd y gwynt, clegyrau creigiog heddychlon, dyffrynnoedd gwyrdd yn ymestyn dros fryn a phant, hen chwareli llechi a gweundiroedd uchel llwm - hyn oll o fewn ychydig filltiroedd a siwrne fer, hwylus i'w gilydd?

Ac mae'n rhyfeddol nad yw ardal sydd mor hardd yn llawer mwy adnabyddus."

Dylai darparwyr gweithgareddau a darparwyr llety sy'n croesawu ymwelwyr gweithgareddau sydd am gofrestru ar gyfer y wefan (a'r daflen gysylltiedig) am flwyddyn gysylltu ag Ann Bottrill, Ysgrifennydd Dyfi Bywiol, ym Mraich Goch, Corris ar 01654 761229.