Cyfarfod
Cyhoeddus Hydref 13eg
Mae ecodyfi ac Adfywio Mawddwy yn datblygu cynllun i alluogi i drigolion, busnesau a defnyddwyr adeiladau eraill brynu gwres a gynhyrchwyd yn lleol gan fwyler biomas yn Ninas Mawddwy, i'w ddosbarthu drwy'r pentref â system wresogi ardal fechan.
Bydd cyfarfod cyhoeddus ar ddydd Mercher Hydref 13eg am 7.30 yn Neuadd Dinas Mawddwy i drafod y syniad ymhellach.
Gaeaf diwethaf gofynnodd y grwp adfywio newydd ar gyfer ardal Mawddwy i Asiantaeth Ynni Canolbarth Cymru astudio'r posibiliadau ar gyfer bwyler tanwydd coed neu system gynhyrchu gwres a thrydan ar y cyd i Ddinas Mawddwy.
Roeddynt am ateb anghenion lleol drwy ddefnyddio adnoddau lleol a chefnogi coedwigaeth, ffermio a swyddi cynnal a chadw ar yr un pryd.
Mae prynu ynni a gynhyrchir yn lleol yn cadw arian yn yr economi lleol dros gyfnod hirach.
Mae'n debyg hefyd y bydd y cyflenwad ynni'n fwy diogel a rhagweladwy nag yn y farchnad ynni fyd-eang fwyfwy drud.
Credai'r grwp fod y manteision posib i iechyd a'r amgylchedd yn bwysig - ceid llai o lygredd awyr na gydag olew a glo, a thrwy ddefnyddio tanwydd "carbon niwtral" ac adnewyddadwy yn lle olew, glo a nwy, byddai'r pentref yn cyfrannu at ddatrys problem newid hinsawdd.
Adroddodd yr Asiantaeth Ynni y gellid gwresogi'r pentref â sglodion coed o ffynhonellau lleol, o gael digon o gymhorthdal cyhoeddus ar gyfer yr adeiladu.
Mae posibiliad hefyd y gallai'r gymuned gynhyrchu a gwerthu trydan.
Mae llawer o waith eto i'w wneud gan y gymuned cyn gallu rhoi unrhyw gynllun ar waith, gan gynnwys astudiaeth dichonoldeb lawn.
Cyn medru bwrw ymlaen â hyn, mae angen i'r grwp fesur maint y gefnogaeth leol ac maent wedi sicrhau cymorth ecodyfi, sydd â mynediad i nawdd gan Awdurdod Datblygu Cymru i'r diben hwn.
Esboniodd Ysgrifennydd Adfywio Mawddwy, Arfon Hughes, fod holiadur yn cael ei ddosbarthu i'r trigolion.
Mae hwn yn ceisio barn ynglyn â'r cynlluniau ac yn holi pwy fyddai a diddordeb mewn prynu gwres o'r system.
Cyflwynir y canlyniadau cyntaf gerbron y cyfarfod cyhoeddus ar y 15fed er mwyn i bentrefwyr gael dewis a ddylid comisiynu'r astudiaeth nesaf.
Hwyrach y gwnânt hefyd ddewis ymweld â chynllun sydd eisoes yn bod yn Llanwddyn rywbryd yn ddiweddarach.
"Mae'r tanwydd o'n cwmpas ym mhobman", meddai, "felly cam synhwyrol yw ei ddefnyddio er lles y gymuned".
Rhagor o wybodaeth:
Andy Rowland, Trefnydd
ecodyfi, 01654 703965
Arfon Hughes, Ysgrifennydd Adfywio Mawddwy, 07979 803547
|