ecodyfi logo, valley and hills, link to home page

Coed yn mynd i wresogi Dinas Mawddwy?
Cyfarfod Cyhoeddus Mawrth 9fed

english version

pont

Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion

Ydych chi yn..?

golau
Berson lleol
Ymwelydd
Gwmni
Awyddus i wybod am ecodyfi

Prosiectau:

swyddfa ecodyfi
Mentro Allan
Trafnidiaeth
Twristiaeth
Ynni
Gwastraff
Masnach Deg
Biosffer Dyfi Biosphere
Cymunedau yn Gyntaf
Dysgu Gydol Oes

Manylion cysylltu

Eco Parc Dyfi

Ty Bro Ddyfi,
52 Heol Maengwyn,
Machynlleth, Powys, SY20 8DT, DU.
ffôn: 01654 703965
ebost: info@ecodyfi.org.uk

Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau.

Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!

[Ein lleoliad - map mwy]

ecodyfi press release25/2/2005

Gosodwyd her newydd i ffermwyr a chontractwyr coedwigaeth cylch Dinas Mawddwy � allan nhw wresogi'r pentref?

Mae ecodyfi ac Adfywio Mawddwy wrthi'n gweithio ar gynllun fydd yn gwresogi'r ysgol, y gwesty a chartrefi gyda dwr poeth ddaw o fwyler canolog yn llosgi sglodion coed.

Byddai modd contractio un cyflenwr i wneud y cyfan, ond deuai mwy o fudd i'r economi lleol pe bai'r pentref ei hun yn rheoli'r cyflenwad tanwydd.

Ar ddydd Mercher Mawrth 9fed bydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal yn Neuadd Dinas Mawddwy i drafod y cynllun.

Roedd cyfarfodydd cyhoeddus blaenorol o blaid y syniad o ran egwyddor a chomisiynodd ecodyfi ragor o waith gan Asiantaeth Ynni Canolbarth Cymru gydag arian a dderbyniwyd gan Awdurdod Datblygu Cymru.

Cyn y gall yr Asiantaeth ofyn am gynlluniau ac amcangyfrifon costau gan ddarpar gyflenwyr offer, mae angen iddynt holi faint o reolaeth fyddai ar y gymuned ei heisiau ar y cynllun petai'n digwydd.

Dyma fydd prif destun trafod y noson.

Un posibiliad fyddai i Adfywio Mawddwy neu grwp lleol arall drefnu'r cyflenwad tanwydd, darlleniad y mesuryddion a'r bilio gan dderbyn y cyfan o'r incwm a ddeuai o'r defnyddwyr gwres.

Gofynnai am beth ymdrech gan wirfoddwyr i reoli'r gwaith, ond byddai swydd yn cael ei chreu i berson lleol.

Byddai elw hefyd yn deillio y gellid ei wario ar gynlluniau cymunedol eraill.

Mae hyn yn unol ag amcanion Adfywio Mawddwy, ac felly bydd y cyfarfod hefyd yn ystyried a ddylai ymffurfio'n gorff corfforedig â'i statws cyfreithiol ei hun.

Cred y grwp bod y manteision posib i iechyd a'r amgylchedd yn bwysig � byddai'n achosi llai o lygredd awyr nag olew neu lo, ac y byddai'r pentref, o ddefnyddio tanwydd 'carbon niwtral' ac adnewyddadwy yn lle olew, glo a nwy, yn cyfrannu at ddatrys problem newid hinsawdd.

Ymatebodd aelodau'n frwd i systemau sglodion coed a welwyd yn Llanwddyn a Preston yn ystod taith maes ecodyfi ym mis Ionawr.

Yn y cyfamser, bu gwirfoddolwyr Adfywio Mawddwy yn holi o dy i dy am y systemau gwresogi presennol.

Bydd cost y system yn dibynnu'n rhannol ar nifer y tai sydd eisoes â rheiddiaduron (radiators).

Pwysleisiodd yr Ysgrifennydd Arfon Hughes eu bod yn awyddus i ddefnyddio adnoddau lleol i ateb anghenion lleol yn ogystal â chefnogi swyddi coedwigaeth, byd ffermio a chynnal a chadw.

"Mae prynu ynni wedi'i gynhyrchu'n lleol yn golygu bod yr arian yma yn yr economi lleol yn hirach", meddai.

Mae'r cyfarfod yn agored i bawb ac yn cychwyn am 7.30 y.h.

Rhagor o wybodaeth:

Andy Rowland, Trefnydd ecodyfi, 01654 703965

Arfon Hughes, Ysgrifennydd Adfywio Mawddwy, 07979 803547

Brig y dudalen