ecodyfi logo, valley and hills, link to home page

Arbed ynni yn Ninas Mawddwy

english version

pont

Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion

Ydych chi yn..?

golau
Berson lleol
Ymwelydd
Gwmni
Awyddus i wybod am ecodyfi

Prosiectau:

swyddfa ecodyfi
Mentro Allan
Trafnidiaeth
Twristiaeth
Ynni
Gwastraff
Masnach Deg
Biosffer Dyfi Biosphere
Cymunedau yn Gyntaf
Dysgu Gydol Oes

Manylion cysylltu

Eco Parc Dyfi

Ty Bro Ddyfi,
52 Heol Maengwyn,
Machynlleth, Powys, SY20 8DT, DU.
ffôn: 01654 703965
ebost: info@ecodyfi.org.uk

Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau.

Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!

[Ein lleoliad - map mwy]

ecodyfi press release15/11/2005

Mae'r Nadolig yn dod yn gynnar i Ddinas Mawddwy eleni! Bydd gwirfoddolwyr a staff Asiantaeth Ynni Canolbarth Cymru, ecodyfi ac Adfywio Mawddwy yn mynd o dy i dy i rannu bylbiau trydan ynni-isel yr wythnos nesaf.

Yr unig beth sy'n rhaid i ddeiliad y tw ei wneud yw ateb ychydig o gwestiynau syml am fframwaith y tw, yr ynni a ddefnyddir i'w wresogi a'u hagwedd tuag at wresogi cymunedol.

Nod y fenter yw gostwng biliau gwresogi pobl trwy ddweud wrthynt sut mae gwastraffu llai o ynni.

Bydd y bylbiau trydan yn helpu ar unwaith - ac mae posibiliadau eraill yn cynnwys gosod deunydd insiwleiddio o amgylch tanciau dwr poeth ac mewn gwagleoedd yn yr atig.

Eglurodd Alexis Williams o'r Asiantaeth Ynni y byddai cartrefi'n gynhesach o ganlyniad i'r camau hyn.

Bydd yn cynghori pobl ynglwn â grantiau fyddai'n gwneud y camau hyn yn rhai fforddiadwy - neu hyd yn oed yn rhad ac am ddim i rai pobl.

Mae cynllun cymunedol gwresogi â sglodion wedi'i argymell i Ddinas Mawddwy.

Bydd yr arolwg byr hwn yn gofyn a fyddai gan bobl ddiddordeb mewn prynu gwres pe byddai un yn cael ei adeiladu.

Mae'r wybodaeth yma'n angenrheidiol cyn y gellir llunio cynllun.

Eglurodd Ysgrifennydd Adfywio Mawddwy.

Arfon Hughes, fod y grwp am gwrdd ag anghenion lleol trwy ddefnyddio adnoddau lleol a chefnogi coedwigaeth, amaethyddiaeth a swyddi cynnal a chadw.

"Byddai ynni a gynhyrchir yn lleol yn cadw arian yn y gymuned leol am fwy o amser," meddai.

Bydd croeso i unrhyw un nad oedd gartref adeg yr ymweliad alw yn swyddfa ecodyfi yn Tw Bro Ddyfi, 52 Heol Maengwyn ym Machynlleth am eu bylbiau trydan, neu alw Alexis neu David Goodship ar 01654 703064 i dderbyn gwybodaeth.

Gwybodaeth Bellach:

Alexis Williams, Asiantaeth Ynni Canolbarth Cymru 01654 703064

Andy Rowland, Rheolwr ecodyfi 01654 703965

Arfon Hughes, Ysgrifennydd Adfywio Mawddwy 07979 803547.

Nodiadau i Olygyddion:

ecodyfi yw grwp adfywio Dyffryn Dyfi.

Mae'n rhoi sylw arbennig i gryfhau'r economi leol a hynny trwy warchod yr adnoddau naturiol a diwylliannol yn ofalus.

Mae'n cael ei reoli gan Fwrdd o 17 o bobl leol, ac yn derbyn cefnogaeth Awdurdod Datblygu Cymru.

Cefnogir ei waith dros ynni cynaliadwy gan CAE, cronfa datblygu cynaliadwy Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Elusen ddielw wedi'i leoli ym Machynlleth yw Asiantaeth Ynni Canolbarth Cymru, a'i nod yw lleihau gollyngiadau carbon deuocsid trwy hyrwyddo a hwyluso ynni cynaliadwy yng Nghanolbarth Cymru.

Swyddogaeth y Tîm Arbed Ynni yw cynnig cyngor diduedd rhad ac am ddim ar sut i arbed ynni ac arian ar filiau gwresogi.

Grwp cymunedol annibynnol yw Adfywio Mawddwy sy'n gweithio i adfywio pentrefi Aberangell, Mallwyd, Dinas Mawddwy a Llanymawddwy.

Brig y dudalen