ecodyfi logo, valley and hills, link to home page

Pwer y bobl ar gynnydd

english version

pont

Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion

Ydych chi yn..?

golau
Berson lleol
Ymwelydd
Gwmni
Awyddus i wybod am ecodyfi

Prosiectau:

swyddfa ecodyfi
Mentro Allan
Trafnidiaeth
Twristiaeth
Ynni
Gwastraff
Masnach Deg
Biosffer Dyfi Biosphere
Cymunedau yn Gyntaf
Dysgu Gydol Oes

Manylion cysylltu

Eco Parc Dyfi

Ty Bro Ddyfi,
52 Heol Maengwyn,
Machynlleth, Powys, SY20 8DT, DU.
ffôn: 01654 703965
ebost: info@ecodyfi.org.uk

Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau.

Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!

[Ein lleoliad - map mwy]

press release21/2/2005

Mae aelodau cydweithredfa ynni adnewyddadwy Canolbarth Cymru yn dathlu cofnodi'r ffigurau cynhyrchu trydan uchaf erioed o'u tyrbinau am ddau fis yn olynol, ac maen nhw bellach yn cyfrannu o'u profiad i'r adolygiad sy'n cael ei gynnal ar strategaeth newid hinsawdd y DU.

Bu'r tyrbin gwynt 75 cilowat yng Nghilgwyn, ger Machynlleth, yn cynhyrchu trydan glân ers mis Ebrill 2003.

Ym mis Rhagfyr 2004 gosodwyd record cynhyrchu o 14,700 cilowat awr ac yn Ionawr 2005 cynhyrchwyd 17,127 o unedau.

Mae cartrefi lleol yn defnyddio hanner cilowat yn barhaol ar gyfartaledd, felly mae'r allbwn yma'n cyfateb i ddefnydd bron i 50 o gartrefi arferol.

Bro Dyfi Community Renewables Ltd sydd biau'r tyrbin.

Y 54 o gyfranddeiliaid yw'r aelodau, gyda hanner cant ohonynt yn byw yn Nyffryn Dyfi.

Mae'r rhandaliadau a dderbyniant yn cadw'r elw yn yr economi lleol, yn groes i arian sy'n cael ei wario ar y cyfleustodau mawr, nad oes unrhyw obaith iddo gefnogi swyddi lleol.

Mae'r gydweithredfa ynni, gyda help y grwp adfywio cymunedol ecodyfi, yn agos at gwblhau eu cynlluniau ar gyfer ail brosiect  tyrbin 500 cilowat ar Fynydd Glandulas, Pantperthog. Edrychwn ymlaen at groesawu cyfranddeiliaid newydd er mwyn gallu cyflawni rhagor.

Mae newid hinsawdd yn fygythiad i bawb ohonom, a'n bwriad hefyd yw sicrhau y bydd ein cymuned yn elwa ar ynni'r gwynt â meddai John Williams, Cadeirydd y gydweithredfa.

Yn y cyfamser, mae'r grwp yn cyfrannu at adolygiad sy'n cael ei gynnal gan lywodraeth San Steffan ar gamau i leddfu newid hinsawdd.

Barn y gydweithredfa yw na ddylid diystyru gwerth cynlluniau bychain o fewn y gymuned tra'n chwilio am fesurau mwy dramatig.

"Mae pob cyfraniad yn werthfawr", meddai John, gan gyfeirio at y 7.4 tunnell fetrig o garbon deuocsid a arbedwyd drwy i gyflenwad gorsafoedd tanwydd ffosil gael ei ostwng ym mis Ionawr o ganlyniad i gynnyrch tyrbin Pwer y Bobl .

Dywedodd Andy Rowland ecodyfi y dylai pawb â diddordeb yn y cynllun ac sydd am gael manylion roi caniad iddo ar 01654 703965.

Gwybodaeth pellach:

Andy Rowland, Rheolwr ecodyfi 01654 703965
Tim Brewer, Bro Ddyfi Community Renewables Ltd 01654 703347 neu 01654 731336
Energy 21.

Brig y dudalen