ecodyfi logo, valley and hills, link to home page

Gwobr i Bwer Pobl

english version

pont

Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion

Ydych chi yn..?

golau
Berson lleol
Ymwelydd
Gwmni
Awyddus i wybod am ecodyfi

Prosiectau:

swyddfa ecodyfi
Mentro Allan
Trafnidiaeth
Twristiaeth
Ynni
Gwastraff
Masnach Deg
Biosffer Dyfi Biosphere
Cymunedau yn Gyntaf
Dysgu Gydol Oes

Manylion cysylltu

Eco Parc Dyfi

Ty Bro Ddyfi,
52 Heol Maengwyn,
Machynlleth, Powys, SY20 8DT, DU.
ffôn: 01654 703965
ebost: info@ecodyfi.org.uk

Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau.

Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!

[Ein lleoliad - map mwy]

press release06.12.04

People Power - painting the wind turbineMae tyrbin gwynt cymunedol cyntaf Cymru wedi derbyn gwobr Eurosolar UK am 'ysbrydoli prosiectau egni adnewyddol'.

Mae'r tyrbin 'Pwer Pobl - People power' 75 cilowat sydd yng Nghilgwyn, uwchben Pantperthog, wedi bod yn cynhyrchu trydan glan ers mis Ebrill 2003.

Yn ogystal â hyn, mae wedi gwobrwyo y 50 o'i gyfranddalwyr o Ddyffryn Dyfi - pobl â oedd â'r hyder i fuddsoddi yn y fenter.

Mae'r rhandaliadau maent yn eu derbyn yn cadw'r elw o fewn yr economi lleol.

Derbyniwyd gwobr Eurosolar UK am y fenter fasnachol orau 2004 ar y cyd gan grwp adfywiad cymunedol Dyffryn Dyfi, Eco Dyfi a pherchnogion y tyrbin Bro Ddyfi Community Renewables.

Mae'r egni cydweithredol lleol hwn wedi cyrraedd y camau diwethaf o gynllunio'r ail brosiect a gobeithir agor y drysau i aelodau newydd yn y flwyddyn newydd.

Bydd hyn yn galluogi'r grwp i godi tyrbin 500 cilowat ar fynydd Glandulas, Pantperthog a fyddai'n cymryd lle'r hen dyrbin.

Wrth wneud hyn bydd modd iddynt ail ddefnyddio sylfeini'r tyrbin prototeip a oedd yno eisoes.

Canmolwyd beirniaid Eurosolar y grwp fel a ganlyn: "Y dewrder a'r penderfynolrwydd i lwyddo fel cymuned ac am ddangos sut gall prosiect o'r math yma gael ei gwireddu."

Wrth gyflwyno'r wobr yn yr Olympia, LLundain, dywedodd yr Athro John Twindell "Mae wedi cymryd ymdrech ac ymrwymiad i gyflawni prosiect egni sy'n eiddo i'r gymuned.

Mae prosiect Bro Ddyfi yn esiampl dda ac mae'n fenter y gellid dysgu wrtho, nid yn unig am iddynt gynhyrchu pwer eu hunain ond am eu bod yn buddsoddi'r arian sydd dros ben i wneud defnydd mwy effeithlon o'u pwer - mae hyn yn syniad hanfodol.

Dylai'r enghraifft hyn o adnewyddu cymunedol yng Nghefn gwlad fod o ddiddordeb mawr i'r Cynulliad Cymraeg ac i Gyfarwyddwyr yr Alban."

Bydd y cynllun yn nawr yn cael ei hystyried ar gyfer gwobr Ewropeaidd.

Dywedodd John Williams, Cadeirydd y Cydweithrediad "Rydym yn falch iawn o dderbyn y gydnabyddiaeth yma ac rydym yn falch edrych ymlaen at groesawi fwy o bobl leol fel aelodau er mwyn i ni barhau.

Fe ymdrecho'n yn galed â'r prosiect oherwydd y bygythiad sy'n bodoli o ganlyniad i'r newid yn ein hinsawdd a hefyd er mwyn sicrhau bod ein cymuned yn elwa o bwer gwynt."

Dywedodd Andy Rowland, ecodyfi, y dylai unrhyw un sydd â diddordeb yn y cynllun ac sydd am dderbyn manylion am gysylltu ag ef ar:- 01654 703965.

Gwybodaeth pellach:

Andy Rowland, Rheolwr ecodyfi 01654 703965
Tim Brewer, Bro Ddyfi Community Renewables Ltd 01654 703347 neu 01654 731336
Energy 21.

Brig y dudalen