ecodyfi logo, valley and hills, link to home page

Strategaeth Gymunedol yn cynnig cymorth

english version

pont

Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion

Ydych chi yn..?

golau

Berson lleol

Ymwelydd

Gwmni

Awyddus i wybod am ecodyfi

Prosiectau:

swyddfa ecodyfi

Cymunedau yn Gyntaf

Trafnidiaeth

Twristiaeth

Ynni

Gwastraff

Tyfadwy
Coedwigaeth

Masnach Deg
Twristiaeth gweithgareddau
Biosffer Dyfi Biosphere
Dysgu Gydol Oes

Manylion cysylltu

Eco Parc Dyfi

Ty Bro Ddyfi,
52 Heol Maengwyn,
Machynlleth, Powys, SY20 8DT, DU.
ffôn: 01654 703965
ebost: info@ecodyfi.org.uk

Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau.

Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!

[Ein lleoliad - map mwy]

ecodyfi press release

7/3/2007

Mae trigolion Bro Ddyfi yn cael cynnig y cyfle i "fynd i weld" - i ymweld â chymuned arall lle mae pobl yn dod at ei gilydd i wella pethau. Cynigir £500 hefyd tuag at wneud rhywbeth cadarnhaol ynglyn â'r newid yn yr hinsawdd.

Mae Fforwm Cymuned Lleol Machynlleth a'r Cylch yn cynnal digwyddiad cyhoeddus ar Fawrth 13eg i drafod sut i fanteisio ar y gefnogaeth a gynigir gan Gyngor Sir Powys

Amcan y cynnig cyntaf yw dangos sut y mae cymuned wedi llwyddo i gyflawni rhywbeth sy'n gwella ansawdd bywyd y bobl leol. Bydd y rhai fydd yn bresennol ar y 13eg yn dewis mater sy'n bwysig i Fro Ddyfi. Mae'n debygol y bydd yn un o'r materion a ddynodwyd eisoes yn y Cynllun Gweithredu Lleol a luniwyd gan Gymunedau'n Gyntaf.

Yna, bydd sefydliadau sy'n ymwneud â Strategaeth Gymunedol Powys yn rhoi cymorth i ddynodi prosiect llwyddiannus y byddai Bro Ddyfi'n dysgu ohono. Bydd Cyngor Sir Powys yn talu i rai pobl ymweld â'r prosiect - a byddant yn ffilmio'r ymweliad hefyd.

Yna bydd y cynrychiolwyr mewn safle i helpu i lunio atebion tebyg i Fro Ddyfi. Gall y rhain gael eu datblygu o dan adain Y Fforwm Cymuned Lleol a Chymunedau'n Gyntaf.

£500 yw'r ail gynnig. Mae'n rhaid ei wario ar leihau gwastraff ynni ym Mro Ddyfi. Bydd y cyfarfod yn penderfynu sut i'w wario e.e. ar ddarparu golau mwy effeithlon mewn adeilad cymunedol neu ar ddarparu cyngor a chefnogaeth i gartrefi.

Bydd cyfleoedd i adeiladu ar brosiectau lleol sy'n bodoli ar hyn o bryd ac ar arbenigedd, er enghraifft y prosiect rhoi cyngor ar ynni a lansiwyd yn ddiweddar gan Ganolfan Gynghori Bro Ddyfi. Bydd yn bosib clymu gyda phrosiectau a reolir gan ecodyfi, megis y Gronfa Ynni Cymunedol.

Mae'r Gronfa'n derbyn rhywfaint o incwm oddi wrth dyrbin gwynt ‘Bro Ddyfi Community Renewables' yng Nghilgwyn, Pantperthog, ac yn ei ddefnyddio ar fesurau arbed ynni megis bylbiau trydan ynni isel.

Cynhelir y digwyddiad cyhoeddus yng Nghlwb Bowlio Machynlleth, Nos Fawrth, Mawrth 13eg am 7 o'r gloch. Estynnir croeso i bawb.

Gwybodaeth bellach:

  • Andy Rowland, Trefnydd ecodyfi a Chadeirydd Fforwm Cymuned Lleol Machynlleth a'r Cylch 01654 703965

  • Cyril Evans, Cydlynydd Cymunedau'n Gyntaf Bro Ddyfi: 01654 700315

  • Lowri Wyn Jones, Swyddog Adfywio Cyngor Sir Powys: 01938 551242

  • Gordon Hughes, Canolfan Gynghori Bro Ddyfi: 01654 700192.

Nodiadau

Mae Fforwm Cymuned Lleol Machynlleth yn gweithio ochr yn ochr â Phartneriaeth Cymunedau'n Gyntaf Bro Ddyfi i ddatblygu Cynllun Gweithredu Lleol Bro Ddyfi. Mae'r cynllun yn grynodeb o'r hyn sy'n bwysig ar gyfer y dyfodol yng ngolwg y gymuned ac yn cysylltu pobl leol gyda'r rhai sy'n gyfrifol am ddarparu adnoddau a gwasanaethau. Sefydlwyd y Fforwm fel rhan o broses Strategaeth Gymunedol Powys ac mae'n cael ei weinyddu gan grwp adfywio ecodyfi. Andy Rowland yw'r Cadeirydd etholedig.

Cymunedau'n Gyntaf yw un o brif fentrau menter Llywodraeth Cynulliad Cymru gyda'r nod o ymrwymo pobl i'r gwaith o wella ansawdd eu bywydau eu hunain mewn rhannau dewisol o Gymru. Mae partneriaeth Bro Ddyfi'n cynnwys ardaloedd cynghorau cymunedol Machynlleth, Cadfarch, Llanbrynmair a Glantwymyn.

ecodyfi yw'r grwp adfywio cymunedol dros Fro Ddyfi. Mae'n rhoi sylw arbennig i gryfhau'r economi lleol trwy stiwardio adnoddau naturiol a diwylliannol yn ofalus. Mae'n cael ei reoli gan Fwrdd o 17 o bobl leol, ac fe'i cefnogir yn bennaf gan Y Cynulliad Cymreig, Partneriaeth Twristiaeth Canolbarth Cymru ac awdurdodau lleol.