ecodyfi logo, valley and hills, link to home page

Fforwm y Gymuned Leol am cludiant

english version

pont

Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion

Ydych chi yn..?

golau

Berson lleol

Ymwelydd

Gwmni

Awyddus i wybod am ecodyfi

Gwaith:

ecodyfi office
Tirwedd Dyfi
Tir Cymunedol
Mentro Allan
Ôl Troed Dyfi
Trafnidiaeth
Twristiaeth
Ynni
Gwastraff
Masnach Deg
Biosffer Dyfi Biosphere
Cymunedau yn Gyntaf
Dysgu Gydol Oes

Manylion cysylltu

Eco Parc Dyfi

Y Plas,
Machynlleth, Powys, SY20 8ER, DU.
ffôn: 01654 703965
ebost: info@ecodyfi.org.uk

Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau.

Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!

[Ein lleoliad - map mwy]

ecodyfi press release

Daw'r cyfle nesaf i drigolion y rhan honno o Ddyffryn Dyfi sydd ym Mhowys ddylanwadu ar y modd y darperir gwasanaethau ar Ragfyr 17eg.

Bydd cludiant yn dod o dan y chwyddwydr yn Fforwm y Gymuned Leol am 7.30 y.h., yng Nghanolfan Gofal Machynlleth.

Un o'r rhesymau y dynododd y Cynulliad Cenedlaethol y cylch yn ardal 'Cymunedau yn Gyntaf' yw bod gwasanaethau hanfodol megis gofal iechyd a hyfforddiant yn anodd i'w cyrraedd. Mae hyn yr un mor wir am siopio a gweithgareddau hamdden. Mewn rhai achosion hwyrach y gellir gwrthsefyll y duedd sydd i ganoli'r gwasanaethau hyn neu hyd yn oed eu darparu o fewn y gymuned. Yn fynych, fodd bynnag, drwy wella gwasanaethau cludiant y mae gwella'r sefyllfa.

Nid oes car preifat gan bron i chwarter o gartrefi'r cylch. Gorfodir eraill i wario y tu hwnt i'w gallu i gynnal dau gar oherwydd nad yw'r dewisiadau teithio eraill yn ddigonol. Yn y cyfarfod bydd cyfle i chi amlinellu'r math o deithiau sy'n angenrheidiol i chi, a'r math o wasanaethau fuasai'n ateb eich anghenion.

Byddwn yn rhoi ystyriaeth i gerdded a beicio yn ogystal â moduron a threnau. Mae'r gweithgareddau hyn yn bwysig i'n hiechyd ac hefyd yn dod ag arian i'r ardal. Mae cludiant yn bwnc sy'n effeithio ar ymwelwyr ac ardalwyr.

Eisoes cyflawnwyd gryn dipyn. Darperir gwasanaethau i bobl ag anghenion neilltuol gan CAMAD a'r Groes Goch, a'u bwriad yw datblygu rhai o'r rhain.

Mae teithio ledled Dyffryn Dyfi ar fws, trên a beic, neu gerdded, bellach dipyn haws, diolch i gyfeiriadur lliwgar sydd newydd ei gyhoeddi gan Ecodyfi, y grwp adfywio cymunedol. Amlinella'r Cyfeiriadur dwyieithog, sydd â map bws a thrên tebyg i un y Tiwb, sut i deithio rhwng prif fannau'r Dyffryn. Mae hefyd yn llawn dop o wybodaeth ddefnyddiol i'w gwneud yn haws i chi deithio heb gar.

Mae'r Fforwm yn gyfrwng i ni ganfod yr hyn sydd o bwys i ni ac i'w roi gerbron asiantaethau megis y Cyngor Sir. Dewch draw i ymuno â ni!