![]() |
Cynllunio ar gyfer Dyffryn Dyfi
|
|
|
Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau. Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!
|
Mae trigolion a busnesau'r rhan o Ddyffryn Dyfi sydd ym Mhowys yn paratio cynllun gweithredu i wella ansawdd bywyd a bywiogrwydd yr ardal.Yn yr un modd â chyfres o gyfarfodydd a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf, bydd pob un o'r tri digwyddiad cyhoeddus a drefnwyd ar gyfer mis Medi yn canolbwyntio ar thema benodol ac yn dwyn y ddau gorff cymunedol fu'n ymchwilio anghenion lleol ynghyd. Mae Cymunedau'n Gyntaf a Fforwm Cymuned Leol Machynlleth a'r Cylch yn awyddus i weld mwy o bobl yn rhan o'r broses o gynllunio ar gyfer y dyfodol. Bydd adran berthnasol Strategaethau Cymunedol a Iechyd Powys hefyd yn cael eu trafod yn y cyfarfodydd. Hwylusydd proses Cymunedau'n Gyntaf Bro Ddyfi yw Cyril Evans. "Trafod addysg, hyffordddiant, yr economi, yr amgylchedd a chludiant a wnaethpwyd yn nigwyddiadau mis Gorffennaf", meddai. "Trefnodd y bobl oedd yno'r holl syniadau ar gyfer gwelliannau lleol yn ôl blaenoriaeth er mwyn ein galluogi i gyd-drafod â'r rhai sydd â grym i sicrhau y gweithredir nhw - mae'r rhain yn cynnwys grwpiau cymunedol ac unigolion yn ogystal â'r Cyngor." Mae'r cyfarfod cyntaf i'w gynnal yng Nghanolfan Gymunedol Llanbrynmair ar Ddydd Llun Medi 6ed. Y pwnc trafod fydd gweithgareddau a chyfleusterau cymunedol. Dyheadau tymor hir y mae cyfle arall nawr i'w sylweddoli yw rhai o'r syniadau sy'n cael eu hystyried - er enghraifft maes chwarae pob tywydd i Fachynlleth. Bwriedir rhai yn benodol ar gyfer pobl ifanc neu bobl hyn ac y mae rhaif'n canolbwyntio ar adloniant Ar Ddydd Llun Medi 13eg bydd digwyddiad yng Nghanolfan Gofal Machynlleth yn Forge Road yn rhoi sylw i iechyd a lles y gymuned. Mae'r pwnc yma'n un cynhwysfawr, yn cwmpasu diogelwch cymunedol a ffyrdd, y Gymraeg a diwylliant Cymraeg yn ogystal â materion iechyd. Bydd swyddog cymunedol newydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg a swyddog gydag Anghydraddoldeb mewn Iechyd yn cymryd rhan. Bydd pynciau iechyd yn cynnwys ymarfer corff ac awgrymiadau eraill i hybu iechyd yn ogystal â mynediad i driniaeth ar gyfer afiechydon. Tai fydd y testun yng Nghanolfan Gymunedol Cwm Llinau ar Ddydd Llun Medi 20fed, a bydd canlyniadau cyntaf yr arolwg diweddar ar anghenion tai fforddiadwy ar gael yno. Pob cyfarfod i gychwyn am 7.30 y.h. Rhagor o wybodaeth:Dylunio'r
wefan Cymunedau yn Gyntaf Powys |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||