ecodyfi logo, valley and hills, link to home page

Cynllun gweithredu Dyfi yn cael ei arddangos

english version

pont

Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion

Ydych chi yn..?

golau

Berson lleol

Ymwelydd

Gwmni

Awyddus i wybod am ecodyfi

Gwaith:

ecodyfi office
Tirwedd Dyfi
Tir Cymunedol
Mentro Allan
Ôl Troed Dyfi
Trafnidiaeth
Twristiaeth
Ynni
Gwastraff
Masnach Deg
Biosffer Dyfi Biosphere
Cymunedau yn Gyntaf
Dysgu Gydol Oes

Manylion cysylltu

Eco Parc Dyfi

Y Plas,
Machynlleth, Powys, SY20 8ER, DU.
ffôn: 01654 703965
ebost: info@ecodyfi.org.uk

Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau.

Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!

[Ein lleoliad - map mwy]

ecodyfi press release

22/10/04

Mae pobl sy'n byw neu weithio yn y rhan honno o Ddyffryn Dyfi sydd ym Mhowys yn cael eu hannog i ddweud eu dweud ar y cynllun gweithredu drafft a luniwyd ar gyfer yr ardal.

Ynddo, ceir cynigion i wella ansawdd bywyd a bywiogrwydd yr ardal.

Mae'r ddau gorff cymunedol fu'n cynnal ymchwil ar anghenion lleol wedi dod ynghyd i amlinellu camau i'r dyfodol.

Mae Cymunedau'n Gyntaf a Fforwm Cymuned Machynlleth a'r Cylch yn awyddus i gael mwy o bobl a busnesau i gyfrannu i'r broses o gynllunio ar gyfer y dyfodol.

Trefnwyd sesiwn "alw heibio" ganddynt yng Nghanolfan Gymunedol Machynlleth ar Ddydd Mercher Tachwedd 3ydd, a bydd cyfle yno i bobl gynnig sylwadau ar y cynigion unrhyw bryd rhwng 10 a 3 o'r gloch.

Yna cynhelir cyfarfod cyhoeddus i ddiwygio a chymeradwyo'r cynllun am 7.30 yr un noson yn Ysgol Bro Ddyfi, Machynlleth.

Cyril Evans yw Cydlynydd proses Cymunedau'n Gyntaf Bro Ddyfi.

"Bu pobl wrthi'n ddyfal mewn cyfarfodydd pentref yn didoli'r holl syniadau a gyflwynwyd gan y gymuned", meddai.

"Cyn y medrwn drafod gyda'r rhai sydd â'r grym i weithredu yn y maes � sy'n cynnwys grwpiau cymunedol ac unigolion yn lleol, gyda llaw, yn ogystal â'r Cyngor a'r Cynulliad � mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar y pethau iawn."

Dywedodd Cadeirydd Fforwm y Gymuned, Andy Rowland, ei fod yn tybio mai canolbwyntio ar ychydig o themâu yn unig wrth i'r gymuned symud yn ei blaen fyddai fwyaf effeithiol.

"Rydym wedi canfod 20 o feysydd i weithio arnynt", meddai, "yn cynnwys tai fforddiadwy, gofal plant a maes cludiant.

A phwysleisio eu bod i gyd yn bwysig, ac na fydd yr un yn cael ei hepgor, hwyrach y cawn fwy o effaith o ganolbwyntio ar y meysydd hynny fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Mae angen help arnom i benderfynu pa feysydd yw'r rheini!"

Gobaith y trefnwyr yw y caiff y rhan fwyaf o bobl gyfle i fynychu un o'r digwyddiadau diwrnod marchnad hyn ac mae help ar gael gyda chludiant os bydd anhawster cael bws neu lifft.

Y rhifau ffôn yw 01654 703965 neu 700315.

Rhagor o wybodaeth:

Dylunio'r wefan Cymunedau yn Gyntaf Powys
Cyril Evans, Hwylusydd Cymunedau'n Gyntaf Bro Ddyfi, 01654 700315
Andy Rowland, Cadeirydd y Fforwm, 01654 703965