Fforwm Cymuned i fwrw golwg ar Dai |
|
|
Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau. Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!
|
Mi fydd Fforwm Cymuned Leol Machynlleth a'r Cylch yn hoelio sylw ar faterion ynghlwm â tai pan fydd yn cyfarfod yn y dyfodol agos.Mi fydd swyddogion Cyngor Sir Powys a siaradwyr eraill yn bresennol ar y noson i arwain i mewn i drafodaeth a fydd yn ystyried sut mae'n bosib weithredu ar broblemau tai. Sefydlwyd y fforwm er mwyn galluogi trigolion Machynlleth, Glantwymyn, Cadfarch a Llanbrynmair i hysbysu Cyngor Sir Powys ac asiantaethau eraill yngln â'i blaenoriaethau. Mi fydd yr wybodaeth hwn yn ei dro yn hysbysu Strategaeth Gymunedol Powys. Mae'r Fforwm, sy'n cael ei gadeirio gan Andy Rowland, yn bwydo cynnwys y trafodaethau i broses Cymunedau'n Gyntaf hefyd. Bydd cyflwyniad gan swyddogion y Cyngor ar Strategaeth Dai Leol ddrafft Cyngor Sir Powys. Bydd crynodebau ar gael yn y cyfarfod ac y mae'r ymgynghoriad yn para hyd ddiwedd mis Chwefror. Mae tai fforddiadwy a digartrefedd ymysg y pynciau a drafodir. Ceir hefyd esboniad ar waith 'Cefnogi Pobl' (sef fframwaith tai ar gyfer pobl ag anghenion arbennig) a'r Strategaeth Adnewyddu Tai (cefnogaeth i'r sector preifat). Bydd gwybodaeth am drafodaethau Cyngor Cymuned Glantwymyn a Chyngor Sir Powys ar gynllun i addasu adeiladau diangen yng Nghemaes i'w defnyddio i ddiwallu anghenion tai lleol. Ceir adroddiad ar ddatblygiad yr Arolwg Anghenion Tai Lleol. Gobeithir y bydd yn darparu gwybodaeth fanwl am anghenion tai, a thrwy hynny'n cyfrannu at gynllunio prosiectau yng Nghemaes a thu hwnt. Yn olaf, bydd adroddiad ar gynhadledd a gynhaliwyd yng Ngregynog i drafod modd o ddal tir mewn ymddiriedolaeth ar gyfer codi tai (a dibenion eraill). Yna ystyrir sut y gellid cyflawni hyn ym Mro Ddyfi. Cynhelir y cyfarfod hwn ar nos Lun 14 Gorffennaf am 7.00 yr hwyr yng Nghanolfan Gymuned Llanbrynmair. Manylion pellach: Andy Rowland, Trefnydd, ecodyfi. Ffôn: 01654 703965 Gweler 'Blaenoriaethau Gweithredu' [Dogfen Word: 44kB], ffrwyth cyfarfod blaenorol o'r Fforwm a gynhaliwyd i drafod Cynllunio a Thai. Fe'i hanfonwyd i Gyngor Sir Powys yn gymorth iddynt adlewyrchu barn Dyffryn Dyfi yn y Strategaeth Gymunedol ddrafft. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||