CoaST yn dod i Ddyffryn Dyfi |
|
|
Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau. Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!
|
Cynllun twristiaeth gynaliadwy yng Nghernyw yn chwilio am ysbrydoliaeth yn Nyffryn DyfiAr Chwefror 3 2004, ar waetha'r llifogydd, daeth Swyddog gyda chynllun newydd Cornish Sustainable Tourism Project ('CoaST') i Fachynlleth ar daith ymchwil i ddysgu oddi wrth ddatblygiadau twristiaeth yn Nyffryn Dyfi. Bu Manda Brookman, sy'n gweithio i CoaST, yn westai i Teresa Walters, Swyddog Twristiaeth Ecodyfi, cwmni adfywio cymunedol lleol. Yn ystod y daith, ymwelwyd ag amryw o atyniadau a darparwyr llety yn ardal Corris, yn eu plith Canolfan Grefftau a Labyrinth Corris, Tafarn Braich Goch, Institiwt Corris, Shelters Unlimited - gwneuthurwyr tipi a pherchnogion gwersyllfa, a'r safle a ddewiswyd ar gyfer llwybrau beicio mynydd newydd yng Nghoedwig Dyfi. Daeth y daith i ben yn y Ganolfan Dechnoleg Amgen, lle y cyfarfu Manda â Jacinta McDermott, Cydlynydd Ymgynghori, er mwyn cael gwybod am waith arloesol y ganolfan gyda'r amgylchedd. Y nod oedd arddangos gweithio ar y cyd o fewn twristiaeth - ochr ymarferol yr hyn a elwir yn gynllunio cydgysylltiedig gan amgylcheddwyr - ac yr oedd y daith yn brawf gweithredol i swyddog CoaST, Manda, y gellid cyfuno darpariaeth llety, atyniadau a chludiant er mwyn creu profiad gwyliau unigryw oedd yn dod â budd i bobl leol. Yn ôl Ms Brookman, cafodd ei "hysbrydoli" gan yr ymweliad. "Roeddwn wrth fy modd yn gweld twristiaeth gynaliadwy ar waith - a chanfod sut y gall ardalwyr gydweithio er budd i'r naill a'r llall, gan fanteisio i'r eithaf ar eu hadnoddau naturiol ond heb eu difrodi." Gyda enwogrwydd y Ganolfan Dechnoleg Amgen ac asedau naturiol, diwylliannol ac etifeddiaeth amrywiol yr ardal yn gefn, mae Dyffryn Dyfi wedi datblygu'n esiampl cenedlaethol o ddatblygu twristiaeth cynaliadwy. Oddi ar 2002 fe'i dynodwyd yn Ardal Twf Twristiaeth gan y Bwrdd Croeso - gyda "chynaladwyedd" yn sylfaen i'w gweledigaeth. Ac ers hynny, bu'r bwrdd, gyda'i bartneriaid yn y cynllun, ecodyfi, Cyngor Gwynedd, Cyngor Sir Powys, Awdurdod Datblygu Cymru, Partneriaeth Aberdyfi, Siambr Fasnach Machynlleth a Chymad, yn gweithio i annog buddsoddi mewn datblygu twristiaeth cynaliadwy yn y dyffryn. Yn ogystal â chreu posibiliadau buddsoddi, mae cynllun Ardal Twf Twristiaeth Dyffryn Dyfi yn cynnig cyfle i gwmn�au gydweithio ar gynlluniau masnachu ar y cyd a rhwydweithio a datblygu sensitifrwydd amgylcheddol a diwylliannol eu gweithgareddau, gan hyrwyddo'r ardal yn gyrchfan twristiaeth gynaliadwy anhepgorol. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||