Rhai dan hyfforddiant yn anelu am y bryniau |
|
|
Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau. Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!
|
Prosiect Hyfforddiant mewn Adeiladu Llwybr Beiciau Mynydd yn creu cyfleoedd mewn Sector Tyfiant.Bore heddiw, Dydd Llun, Hydref 10fed, mae criw o adeiladwyr llwybr beiciau mynydd sydd dan hyfforddiant yn anelu am ran anghysbell o Fforest Dyfi. Maent yn dechrau ar raglen hyfforddi 13 wythnos ar lwybr newydd y Cli-machx ar gyfer beiciau mynydd ger Ceinws, Machynlleth - mae lleoedd gwag ar gyfer pobl dan hyfforddiant llawn brwdfrydedd yn dal heb eu llenwi. Bydd y rhai dan hyfforddiant yn dysgu pob agwedd o adeiladu llwybr, gosod wyneb, cynnal a chadw yn ogystal â datblygu nifer o sgiliau allweddol, tra'n gwneud y gwaith o osod wyneb a chynnal a chadw ar lwybrau sy'n bodoli eisoes. Yn ogystal â hyn byddant yn cael cyfle i dderbyn hyfforddiant arbenigol, megis gweithio gyda llif gadwyn, yn ystod y cyfnod yn ogystal â lwfans offer. Am un diwrnod yr wythnos bydd y rhai dan hyfforddiant yn mynychu Hyfforddiant Powys ym Machynlleth, yn datblygu sgiliau cyfrifiadurol a gweinyddol, llythrennedd a rhifogrwydd sylfaenol yn ogystal ag unrhyw sgiliau eraill fel bo'r angen. Y gobaith yw y gallai'r holl elfennau hyn fod o gymorth i'r hyfforddedigion ddilyn gyrfaoedd newydd. Tyfodd y prosiect yn dilyn trafodaethau a gwaith partneriaethol rhwng cwmnïau cymunedol ecodyfi a Beicio Mynydd Dyfi, yn ogystal ag asiantaeth hyfforddi Hyfforddiant Powys a chyflenwyr hyfforddiant Hyfforddiant Sgiliau Amgylcheddol. Roedd y partneriaid yn cydnabod yr angen am gynnal a chadw llwybrau ar y naill law - gan sicrhau diogelwch hanfodol i feicwyr ac incwm twristiaeth sydd ei wir angen - a chyfleoedd hyfforddiant yn y diwydiant hwn sydd ar gynnydd ar y llaw arall. Ariannir y rhaglen hyfforddi gan Gronfa Risg Cymdeithasol, cynllun grant a weinyddir gan Gyngor Cymru dros Weithredu Gwirfoddol, sydd wedi'i anelu at adfywiad economaidd, trwy wella lefelau sgiliau a chynyddu'r mynediad i hyfforddiant a gwaith. Bydd goruchwylwyr ar y prosiect yn cynnwys Tristan Merry-Howe o Ecotrails, y cwmni a adeiladodd y Cli-machx. Pedair blynedd yn unig yn ôl roedd Tristan ei hun o dan hyfforddiant ar brosiect hyfforddiant mewn adeiladu llwybrau beiciau mynydd tebyg yn Nant yr Arian ger Aberystwyth. Dywed Tristan "roedd yn ddechrau gwych i mi, yn dysgu sgiliau gwerthfawr imi mewn diwydiant sy'n tyfu'n beth mawr, nid yn unig yng Nghymru, ond trwy'r DU ac mewn nifer o rannau eraill o'r byd. Ers imi dderbyn fy hyfforddiant rwyf wedi sefydlu fy musnes fy hun a gweithio ar nifer o lwybrau gan gynnwys y Cli-machx." Mae lleoedd gwag ar y rhaglen o hyd ar gyfer unrhyw un sy'n ddi-waith ar hyn o bryd ac yn byw yn yr ardal. Os oes gennych ddiddordeb mewn gwybod mwy cysylltwch â Hyfforddiant Powys ar 01654 703437. Am fwy o wybodaethAndy Rowland, Rheolwr ecodyfi 01654 703965 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||