Safle Gwersyll Ceinws |
|
|
Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau. Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!
|
Mae bwriad i holi trigolion Ceinws i ganfod sut yr hoffent i'w cymuned gael ei hailddatblygu, gyda chyhoeddi bod camau i wella amgylchedd yr ardal ar y gweill.Rhwng nawr a mis Mawrth, bydd astudiaeth yn cael ei chynnal ar flaenoriaethau'r trigolion cyn llunio cynlluniau a allasent ailwampio'r pentref a'r ardal amgylchynol yn llwyr. Hyrwyddir y cyfle cyffrous yma i adfywio'r ardal gan ecodyfi, sy'n cydweithio â Chomisiwn Coedwigaeth Cymru a Chymunedau'n Gyntaf er mwyn ymchwilio sut y gellid defnyddio'r safle mewn modd mwy manteisiol. Ni wneir unrhyw ddefnydd o'r rhan fwyaf o adeiladau safle'r Comisiwn Coedwigaeth yn y pentref, ac y mae rhai ohonynt mewn cyflwr gwael. Mae yma hefyd dir llawr caled a thir arall. Gosodir dau adeilad ar brydlesi cyfnod byr ac y mae dau dw yma hefyd. "Rydym am gael gwybod yr hyn y carai trigolion Ceinws ac Esgairgeiliog ei weld yn digwydd yma a sut yr hoffent gynorthwyo," meddai Andy Rowland, ecodyfi. "Er enghraifft, fyddai digon o bobl yn manteisio ar neuadd bentref newydd a sut y byddent yn ei defnyddio? Rydym hefyd am glywed gan bobl fyddai efallai am sefydlu busnes ar y safle. Pa fath o gyfleusterau fyddai eu hangen arnynt?" Rhoddwyd peth nawdd gan Awdurdod Datblygu Cymru er mwyn galluogi i ecodyfi benodi ymchwilwyr proffesiynol i helpu i gael atebion i'r cwestiynau yma ac eraill. "Mae croeso i bawb sydd ag unrhyw syniadau neu awgrymiadau ynglwn � defnydd posib i Wersyll Ceinws gysylltu � mi. Ni chyfyngir syniadau i waith coed na r diwydiant coed," meddai Andy. Gwybodaeth pellach: Andy
Rowland, Trefnydd ecodyfi, Ffôn 01654 703965 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||