Ceinws eisiau tai a lle chwarae i bobl leol |
|
|
Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau. Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!
|
Daeth trigolion Ceinws yn llu i gyfarfod cyhoeddus diweddar, i ddweud beth hoffen nhw ei weld yn digwydd yn safle'r Comisiwn Coedwigaeth yn y pentref. Roedd tai fforddiadwy i bobl leol a lle chwarae diogel ar frig y rhestr.NEWYDDION 26.04.04: Dyfodol Gwersyll Ceinws [Dogfen Acrobat PDF 300kB]
Diweddglo oedd y cyfarfod ar ymgynghoriad a gynhaliwyd gan Rural Resources o'r Trallwng ar gais ecodyfi a Chymunedau'n Gyntaf, gyda chefnogaeth gan Awdurdod Datblygu Cymru, y Comisiwn Coedwigaeth a Chyngor Cymuned Glantwymyn. Dyma'r tro cyntaf am rai blynyddoedd i gyn swyddfa'r Comisiwn gael ei defnyddio a bu'r rhai oedd yn bresennol yn hel atgofion am y neuadd gymunedol a'r lle chwarae oedd yn arfer bod yn y safle. Roedd Rural Resources hefyd wedi cynnal cyfweliadau ac wedi dosbarthu holiaduron i bob cartref a busnes lleol. Barnai'r ymgynghorydd Phil Newcombe y gwelwyd yn glir beth oedd y blaenoriaethau lleol - sef darpariaeth tai fforddiadwy, lle chwarae ac adloniant a rhyw fath o gyfleusterau ar gyfer cyfarfodydd. "Unwaith y byddwn wedi ymchwilio'r rhain yn iawn, gellid darparu ar gyfer defnyddiau eraill eilradd," meddai. Gallai rhai o'r defnyddiau eraill yma gyfrannu at ddichonoldeb ariannol y prif elfennau. Er enghraifft gellid darparu lle swyddfa neu stiwdio ar gyfer cwmnïau, boed rheini ym maes crefftau, defnydd fideo neu rai o'r 'cyfryngau newydd' eraill. Cafwyd trafodaeth hefyd ar bosibilrwydd denu beicwyr i ddefnyddio cyfleusterau yn y safle wedi iddynt fod yn defnyddio rhai o'r llwybrau newydd arfaethedig yng Nghoedwig Dyfi gerllaw. Hwyrach y byddai ty bwyta cymunedol fyddai'n agored ar y penwythnos yn ymarferol pe gellid apelio i amrywiaeth o ddefnyddwyr. Mae'r trefnwyr yn edrych ymlaen at ail gyfarfod, sydd i'w gynnal ar Fai 12fed. Byddant bryd hynny'n rhoi adroddiad mwy manwl ar ganlyniadau'r ymgynghoriad ac yn helpu trigolion y pentref i benderfynu beth fydd y camau nesaf. Erbyn hynny bydd yr adroddiad yn barod a bydd rhagor o wybodaeth ar gael am 'Ymddiriedolaethau Tir Cymunedol'. Gellir sefydlu'r rhain i ddal tir er budd y gymuned. Mae'n debyg y bydd unrhyw grwp gweithredu a sefydlir yn y cyfarfod yn edrych ar hyn ac ar bosibiliadau eraill. Gwybodaeth pellach:Cyfarfod cyhoeddus 7.30 Nos Fercher 12eg o Fai yng Nghwersyll Ceinws.Andy Rowland, Trefnydd
ecodyfi, Ffôn 01654 703965 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||