ecodyfi logo, valley and hills, link to home page

Derbyn syniadau ar gyfer Gwersyll Ceinws (Haulfryn)

english version

pont

Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion

Ydych chi yn..?

golau
Berson lleol
Ymwelydd
Gwmni
Awyddus i wybod am ecodyfi

Gwaith:

ecodyfi office
Tirwedd Dyfi
Tir Cymunedol
Mentro Allan
Ôl Troed Dyfi
Trafnidiaeth
Twristiaeth
Ynni
Gwastraff
Masnach Deg
Biosffer Dyfi Biosphere
Cymunedau yn Gyntaf
Dysgu Gydol Oes

Manylion cysylltu

Eco Parc Dyfi

Y Plas,
Machynlleth, Powys, SY20 8ER, DU.
ffôn: 01654 703965
ebost: info@ecodyfi.org.uk

Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau.

Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!

[Ein lleoliad - map mwy]

press release09/3/2004

Mae trigolion Ceinws ac Esgairgeiliog yn ymateb yn frwd i'r syniad y gellid defnyddio'r gwersyll coedwigaeth yn y pentref i ateb anghenion lleol.

NEWYDDION 26.04.04: Dyfodol Gwersyll Ceinws [Dogfen Acrobat PDF 300kB]

Fe ellir islwytho Acrobat Reader ar gyfer darllen ffeiliau PDF am ddim o safle we Adobe. Cliciwch ar yr icon ar y dde. Fe fyddai ymweliad a http://access.adobe.com o fudd i rai a nam gweledol. Cliciwch yma i gael Abobe Reader.

Click here to get the Adobe Reader

Byddant yn cyfarfod yn y safle, sydd i raddau helaeth yn ddiddefnydd, i leisio'u barn ar Fawrth 17eg.

Mae trigolion Ceinws ac Esgairgeiliog yn cael eu holi i ganfod beth hoffen nhw ei weld yn y safle dwy hectar sy'n rhan amlwg o'u pentref.

Mae ecodyfi, Cymunedau'n Gyntaf, Comisiwn Coedwigaeth Cymru, Cyngor Cymuned Glantwymyn ac Awdurdod Datblygu Cymru yn cydweithio i ganfod defnyddiau cyflenwol i'r safle fyddai'n ateb anghenion y gymuned leol a'r ardal yn fwy cyffredinol.

Mae Rural Resources dan gytundeb i ymgynghori â phobl leol a charfanau eraill sydd â diddordeb yn y safle a pharatoi astudiaeth dichonoldeb rhagarweiniol.

Dosbarthwyd holiaduron i bob un o gartrefi'r ardal ac y mae toreth o syniadau yn cael eu derbyn.

Tai fforddiadwy i bobl leol a lle chwarae gwastad yw'r ddau awgrym mwyaf cyffredin hyd yn hyn.

Syniad arall sy'n cael ei awgrymu yw lle hyblyg o dan do fyddai'n creu cyfleoedd i fusnesau ac ar gyfer cyfleusterau cymunedol.

Gallai'r rhain gynnwys ty bwyta i wasanaethu ymwelwyr a phobl yr ardal, swyddfeydd neu stiwdios ar gyfer mentrau yn y "cyfryngau newydd", a stafell gyfarfod.

Awgrymwyd hefyd y gellid creu cysylltiadau â'r llwybrau beic mynydd arfaethedig.

Mae rhagor o awgrymiadau a sylwadau yn eisiau, ac fe fyddant yn cael eu hystyried mewn cyfarfod cyhoeddus sydd i'w gynnal yng Ngheinws ar Fawrth 17eg, i ddechrau am 7.30.

Hefyd, bydd yr ymgynghorwyr yng Ngwersyll Ceinws rhwng 4 yh a 6.30 yh er mwyn derbyn eich sylwadau.

Neu gellir ffonio Phil Newcombe, Rural Resources ar 01938 555759.

Mae'r cynghorydd lleol Hugh Williams yn aelod o'r grwp llywio.

"Mae'r fenter hon wedi ysgogi trafodaeth frwd", meddai.

"Mae'n bwysig i ni ddod ynghyd ar yr 17eg i weld beth ellir ei wneud â'r syniadau yma." Pwysleisiodd Andy Rowland ecodyfi y bydd croeso hefyd yno i bobl nad ydynt o'r pentref.

"Pentrefi â chanddynt gyfuniad o dai addas, cyfleusterau a busnesau yw'r rhai sy'n ffynnu at ei gilydd", meddai.

"Mae'n ddigon posib bod pobl allai sefydlu menter yng Ngheinws ond iddyn nhw gael ychydig o gymorth, yn byw mewn rhannau eraill o Ddyffryn Dyfi".

Gwybodaeth pellach:

Andy Rowland, Trefnydd ecodyfi, Ffôn 01654 703965
Dave Farmery, Comisiwn Coedwigaeth Cymru, Ffôn 01341 422289
Phil Newcombe, Rural Resources 01938 555759
Cyngh. Hugh Williams 01654 761351.

Brig y dudalen