ecodyfi logo, valley and hills, link to home page

Ymgyngori ynglyn â
Cheinws wedi dechrau

english version

pont

Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion

Ydych chi yn..?

golau
Berson lleol
Ymwelydd
Gwmni
Awyddus i wybod am ecodyfi

Gwaith:

ecodyfi office
Tirwedd Dyfi
Tir Cymunedol
Mentro Allan
Ôl Troed Dyfi
Trafnidiaeth
Twristiaeth
Ynni
Gwastraff
Masnach Deg
Biosffer Dyfi Biosphere
Cymunedau yn Gyntaf
Dysgu Gydol Oes

Manylion cysylltu

Eco Parc Dyfi

Y Plas,
Machynlleth, Powys, SY20 8ER, DU.
ffôn: 01654 703965
ebost: info@ecodyfi.org.uk

Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau.

Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!

[Ein lleoliad - map mwy]

press release25/2/2004

Mae cynlluniau ar y gweill ar gyfer dyfodol newydd i'r hen adeiladau coedwigaeth a'r tir oddi amgylch sy'n dwyn yr enw Gwersyll Ceinws.

Mae trigolion Ceinws ac Esgairgeiliog yn cael eu holi i ganfod beth hoffen nhw ei weld yn y safle dwy hectar sy'n rhan amlwg o'u pentref.

Mae ecodyfi, Cymunedau'n Gyntaf, Comisiwn Coedwigaeth Cymru, Cyngor Cymuned Glantwymyn ac Awdurdod Datblygu Cymru yn cydweithio i ganfod defnyddiau cyflenwol i'r safle fyddai'n ateb anghenion y gymuned leol a'r ardal yn fwy cyffredinol.

Mae Rural Resources, cwmni â'i ganolfan yn y Trallwng, dan gytundeb i ymgynghori â phobl leol a charfanau eraill sydd â diddordeb yn y safle a pharatoi astudiaeth dichonoldeb rhagarweiniol.

Ymysg ei waith blaenorol mae cynllun tebyg yn Nhrawsgoed, Ceredigion.

Mae arweinydd prosiect y cwmni, Phil Newcombe, yn frwdfrydig ynglŷn â'r posibiliadau yng Ngheinws. "Mae'r Gwersyll o ran ei faintioli yn amlwg yn rhan bwysig o'r pentref.

Rydym yn awyddys i gael gwybod beth yw barn bobl am yr hyn ddylai ddigwydd yno a sut y byddai'r gweithgareddau yma'n cyd-fynd â gweddill yr ardal", meddai.

Mae Phil eisoes yn paratoi taflen a holiadur i helpu pobl i fynegi'u barn.

Gobaith y grwp llywio yw y bydd y rhain yn cael eu dosbarthu i'r holl drigolion yn ystod wythnos gyntaf mis Mawrth.

Mae'r cynghorydd lleol Hugh Williams yn aelod o'r grwp llywio.

"Gobeithiaf y bydd pawb yn barod i neilltuo ychydig o funudau i roi eu barn ar bapur, boed ganddyn nhw syniad ar gyfer y safle neu bryderon am yr hyn allai ddigwydd", meddai.

Nid ymgynghoriad ar gyfer y pentre'n unig yw hwn chwaith. "Dylai pawb sydd â syniad adeiladol gysylltu â mi, Hugh Williams neu ecodyfi", meddai Paul.

"Yn enwedig os ydynt am gyfrannu'n ymarferol i adferiad y safle yma", meddai.

Mae'r grwp llywio yn barod â'u golygon ar ddau ddigwyddiad sy'n cael eu trefnu at ddydd Mercher Mawrth 17eg, pan fydd cyfle i bobl drafod y syniadau a gyflwynwyd.

Ystyrir y fenter yma'n gyfle ardderchog i sefydlu un neu fwy o cynlluniau bychain fyddai'n cryfhau bywyd y pentref ac hefyd yr ardal gyfan.

Gwybodaeth pellach:

Andy Rowland, Trefnydd ecodyfi, Ffôn 01654 703965
Dave Farmery, Comisiwn Coedwigaeth Cymru, Ffôn 01341 422289
Phil Newcombe, Rural Resources 01938 555759
Cyngh. Hugh Williams 01654 761351.

Brig y dudalen