Gwefan Rhannu Car ar gyfer Canolbarth Cymru |
|
|
Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau. Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!
|
Lansiwyd gwefan newydd yn rhoi gwybodaeth ar deithio yng Nghanolbarth Cymru, gan gynnwys cyfleuster chwilio ar gyfer rhannu ceir, yr wythnos ddiwethaf. Credir bod y wefan yn un o'r rhai cyntaf o'i bath yng Nghymru. Crewyd gwefan 'dilynwchdai' i gynnig ffordd cydweithrediadol o chwilio am y ffordd gorau o deithio yn ôl anghenion y teithiwr. Mae ganddo hefyd gyfleuster sy'n galluogi pobl ar draws Canolbarth Cymru i chwilio am bobl eraill o'u hardal sy'n teithio i'r un lle â nhw. Bydd cymudwyr yn benodol yn manteisio o'r wefan gan eu bod yn gallu cofrestru, ac yna mynd i chwilio a gweld os oes rhywun o'r pentref neu dre â nhw yn pasio heibio eu gweithle nhw yn ddyddiol. Bydd medru ar y cyfleuster yma yn galluogi trigolion Canolbarth Cymru i rannu car ar gyfer teithiau rheolaidd neu sengl, a bydd hyn yn lleihau llygredd, achub arian a milltiredd ar y car iddynt, ac yn lleihau'r tagfeydd traffig ar y ffordd. Datblygwyd y wefan yma gan TraCC, Consortiwm Trafnidiaeth Canolbarth Cymru mewn partneriaeth, a Liftshare.com. Ymwelwch â www.dilynwchdai.org.uk am fwy o wybodaeth. Gallwch gofrestru eich taith a'ch gwybodaeth, fe all y wefan ymchwilio'r bas ddata am unrhyw gyfatebiaeth posib a rhoi gwybodaeth am y person arall sy'n mynd yr un ffordd â chi. Wedyn gallwch ag gysylltu unrhyw gyfoedion teithio addas drwy e-bost a threfnu i gwrdd â nhw mewn man cludo sy'n addas i'r ddau ohonoch. Am ragor o wybodaethCysylltwch â: Branwen Humphreys; Ffôn: (01545) 572 003; Ffacs: 01545 572 009; www.ceredigion.gov.uk
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||