|
2.10.07
Mae trigolion Abercegir, Llanwrin a phentrefi eraill yn profi gwasanaethau bws newydd sbon a fydd yn dod â nhw yn nes at y siopau, y feddygfa a'r gwasanaethau eraill maent eu hangen.
Mae pobl sydd heb gar wedi cael anhawster i fynd o gwmpas ers colli'r gwasanaeth Bws Post y llynedd.
Mae'r gwasanaeth Tacsi yn dda, ac mae CAMAD a'r Groes Goch yn medru trefnu cludiant o ddrws i ddrws ar gyfer rhai teithiau, ond at ddibenion cyffredinol mae'r bws yn gaffaeliad mawr.
Ond nid bws cyffredin yw hwn. Mae'n fws bach, gydag amserlen, ond nid yw'n rhedeg oni bai fod rhywun wedi dweud ei bod eisiau mynd ar siwrnai benodol.
Mae hyn yn golygu nad yw'r bysiau yn teithio o gwmpas yn wag ac yn hollol aneconomaidd.
Mae Cyngor Sir Powys wedi sefydlu nifer o'r teithiau newydd hyn ledled y sir, ac mae gwasanaethau 'Llogwch Fws / Book-a-Bus' yn cael eu gweithredu gan Lloyds Coaches.
Bydd angen i unrhyw un sydd eisiau teithio arnynt ffonio Lloyds ar 01654 702100 y diwrnod cynt.
Dywedodd y perchennog, Wyn Lloyd, "Mae'n wych o beth ein bod yn gallu cynnig gwasanaeth i lefydd fel Darowen, a bydd cost tocyn yr un fath yn union ag un bws cyffredin.
"Bydd yn cymryd tipyn o amser i bobl ddod i arfer â'r system logi, a byddwn yn ceisio helpu gymaint ag y gallwn pan fydd pobl yn ein ffonio."
Bydd yr amserlenni yn rhifyn newydd ‘Taflen Teithio Dyfi' a fydd ar gael o ecodyfi ar 01654 703965 tua diwedd mis Hydref.
Yn y cyfamser, dylai pobl ofyn am gopïau oddi wrth Lloyds Coaches neu Ganolfan Gwybodaeth Machynlleth (01654 702401).
Am fwy o wybodaeth:
Wyn Lloyd, Lloyds Coaches: 01654 702100
Tony Goodman neu John Forsey, Adran Gludiant Cyngor Sir Powys: 01597 826642
Andy Rowland, Cadeirydd Fforwm Cymunedol Lleol Machynlleth a'r Cylch a Threfnydd ecodyfi: 01654 703965
|