Protestio am golli gwasanaeth bws newydd |
|
|
Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau. Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!
|
Mae sefydliadau cymunedol ym Mro Ddyfi yn teimlo'n ddig ynglŷn â phenderfyniad Cyngor Sir Powys i ddiddymu gwasanaeth bws newydd a gwahanol - fisoedd yn unig wedi iddo gael ei greu. Mae'r cynllun ‘Llogi Bws' T36 yn gwasanaethu Llanwrin, Glantwymyn a Dinas Mawddwy tra bor T37 yn cysylltu'r Bontfaen, Penegoes ac Abercegir, Darowen a Melinbyrhedyn gyda Machynlleth. Nid oes gwasanaeth bws wedi bod yn y pentrefi diwethaf hyn ers diddymiad y Bws Post. Yr wythnos ddiwethaf fe gyhoeddodd Cyngor Sir Powys y bydd y gwasanaeth Dydd Sadwrn yn cael ei ddiddymu ar unwaith a'r gweddill o Fis Medi 2008. Arweiniodd protestiadau gan y gymuned i'r Cyngor ddweud y gall gwasanaethau Llun - Gwener gael eu cadw os bydd mwy o bobl yn eu defnyddio ac os bydd cynilo digonol dros yr haf. Mae Fforwm Cymuned Lleol Machynlleth a'r Cylch yn siomedig iawn ynglŷn â'r penderfyniad i dorri'r gwasanaethau arloesol a hyblyg hyn a hynny cyn iddynt gael cyfle i ddatblygu'n iawn. Dywedodd Cyd-Gadeirydd Ecodyfi Aled Griffiths, "Bydd colli'r gwasanaethau yma'n ergyd drom i'r pentrefi dan sylw ac yn mynd yn groes i bolisïau Powys a Chymru i integreiddio a hybu cludiant cyhoeddus. Bydd hyn yn gorfodi pobl unwaith eto i ddibynnu ar eu ceir - os oes car ganddynt. Golyga'r codiad ym mhrisiau tanwydd y bydd hyn yn llawer mwy costus, a bydd hefyd yn cyfrannu at y newid yn yr hinsawdd, gan fod mwy a mwy o gerbydau ar y ffordd sydd â dim ond un person ynddynt." Pwysleisiodd Rheolwraig CAMAD, Linda Hayward, werth cymdeithasol y gwasanaeth. "Bu llawer o alw am y gwasanaeth," dywedodd, "ac fe fydd colled fawr ar ei ôl, yn enwedig i'r trigolion hynny na all yrru, ac na all fforddio tacsi i Fachynlleth i siopa neu i gwrdd â chyfeillion. Gall rhywun fod yn unig iawn yn byw yng nghefn gwlad a heb unrhyw fodd o drafnidiaeth." Dywedodd, Duncan Bamford o Felinbyrhedyn, sydd yn defnyddio'r gwasanaeth yn gyson mai'r prif bwynt yw na chafodd y gwasanaeth gyfle teg. Dywedodd "Rwy'n gobeithio y bydd Cyngor Sir Powys yn ail ystyried y penderfyniad hwn. Mae torri costau yn ddigon teg, ond mae torri gwasanaeth gwledig hanfodol yn gam yn ôl, yn enwedig yn y cyfnod hwn o gostau tanwydd uchel. Gallwn ni ‘bobl ieuainc' neidio ar y beic i fynd i Fachynlleth i ddal trên neu fynychu cyfarfod, ond does dim dewis arall gan lawer o bobl." Esboniwyd y cefndir gan Andy Rowland, Cadeirydd y Fforwm Gymunedol Leol: "Daeth y Cyngor atom yn 2005 oherwydd eu bod am ymgynghori â phobl leol ynglŷn â gwasanaethau cludiant. Sefydlwyd Fforwm Cludiant Bro Ddyfi, a oedd yn cynnwys darparwyr a defnyddwyr gwasanaethau bws a thrên yn ogystal â sefydliadau cymorth cymunedol, a fu o gymorth i'r ymgynghorwyr a benodwyd gan y Cyngor i adolygu'r gwasanaethau. Roeddem eisoes yn ymwybodol o'r angen am opsiynau cludiant fforddiadwy yn y pentrefi o amgylch Machynlleth. Dyma un o brif ganfyddiadau Dadansoddiad Anghenion Cludiant 2004 gan Bartneriaeth Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi, sef gr_p craidd y fforwm. Cymerodd yr adolygiad gryn amser ond roeddem yn falch iawn pan arweiniodd yn y pen draw at sefydlu'r gwasanaeth "Llogi Bws" ym Mro Ddyfi a gychwynnwyd yn Hydref 2007. Nid yw'r bws yn rhedeg oni fydd rhywun yn ei archebu o leiaf ddwyawr o flaen llaw, er bod y teithiau a'r amseroedd yn rhai rhestredig. Bu trafferthion cynnar o ganlyniad i gam fesur amseroedd siwrneiau ac argaeledd cerbydau, ond unwaith yr adolygwyd amserlenni, profodd y gwasanaeth i fod yn werthfawr i lawer o drigolion. Mynediad gwael i wasanaethau, wedi'r cyfan, oedd y prif reswm y tu ôl i ddynodi'r ardal yn ardal Cymunedau yn Gyntaf. Mae'r gwasanaethau tacsi lleol yn dda iawn, ond yn ddrud i bobl ar gyflogau isel sydd am fynd i siopa neu am gymdeithasu. Mae'r gwasanaethau cludiant cymunedol hefyd yn wych, ond nid ydynt ar gael i bawb neu i bob pwrpas. Yn anffodus, gadawyd cyhoeddi a hysbysebu'r gwasanaethau newydd i CAMAD a'r Fforwm Gymunedol Leol. Fe'u cynhwyswyd gan Ecodyfi yn eu taflen werthfawr ‘Taflen Teithio Dyfi' ond ni ddarparwyd unrhyw arian hysbysebu gan Bowys. Er gwaetha hyn, cafodd y bysiau eu defnyddio a'u gwerthfawrogi. Mae angen amser ar bobl i glywed am wasanaethau newydd a sut i'w defnyddio, yn enwedig os ydynt yn syniadau newydd a gwahanol. Rydym yn gwerthfawrogi bod y Cyngor dan bwysau ariannol, ond rydym yn erfyn ar i'r toriad hwn gael ei ohirio am y lleiafswm o 12 mis a bod adolygiad priodol o gostau a manteision yn cael ei wneud yn ystod 2009." Am fwy o wybodaeth:
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||