ecodyfi logo, valley and hills, link to home page

Dysgu gan Ddyffryn Dyfi

english version

pont

Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion

Ydych chi yn..?

golau
Berson lleol
Ymwelydd
Gwmni
Awyddus i wybod am ecodyfi

Gwaith:

ecodyfi office
Tirwedd Dyfi
Tir Cymunedol
Mentro Allan
Ôl Troed Dyfi
Trafnidiaeth
Twristiaeth
Ynni
Gwastraff
Masnach Deg
Biosffer Dyfi Biosphere
Cymunedau yn Gyntaf
Dysgu Gydol Oes

Manylion cysylltu

Eco Parc Dyfi

Y Plas,
Machynlleth, Powys, SY20 8ER, DU.
ffôn: 01654 703965
ebost: info@ecodyfi.org.uk

Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau.

Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!

[Ein lleoliad - map mwy]

ecodyfi press release22/7/2004

Bu grwp adfywio Dyffryn Dyfi yn destun llawer o sylw yn ddiweddar.

Mae ecodyfi wedi bod yn dangos i grwpiau o Fwlgaria, Bangor a'r Fenni sut y mae'r ardal yn manteisio i'r eithaf ar ei hasedau naturiol.

Daethpwyd â'r Bwlgariaid i Fachynlleth gan eu lletywyr yng nghanolfan cyngor Draper's Field, Betws y Coed.

Mae Sefydliad TIME yn gweithio ledled Bwlgaria i sicrhau datblygu cynaliadwy a'i obaith yw medru sefydlu canolfan ddehongli er mwyn ysbrydoli pobl i ddefnyddio technolegau amgylcheddol.

Bu'r cynrychiolwyr yn y Ganolfan Dechnoleg Amgen am gyfnod, a gydag ecodyfi hefyd. Gwnaeth y Ganolfan gryn argraff arnynt, ac yr oedd y cynllun i godi canolfan i ymwelwyr yn Aberdyfi hefyd o ddiddordeb iddynt.

Daeth Prifysgol Bangor â'u myfyrwyr datblygu cymunedol ôl-raddedig i'r ardal i weld y modd y mae grwpiau'n cydweithio o fewn Dyffryn Dyfi.

Buasent yn astudio'r rheidrwydd sydd ar i weithgareddau megis twristiaeth a defnydd tir gael eu hintegreiddio â'i gilydd os yw ardal i ffynnu yn y tymor hir ac yr oeddynt yn falch o gael gweld hyn yn cael ei weithredu.

Mae'r rhan fwyaf o'r myfyrwyr hyn yma'n gweithio gydag awdurdodau lleol, grwpiau gwirfoddol a phartneriaethau Cymunedau'n Gyntaf yng Ngogledd Cymru ac yr oedd yn gyfle da i bobl gyfnewid gwybodaeth.

Y datblygiadau ynni a gyflwynwyd yn y gymuned yn ystod y pum mlynedd diweddaf oedd diddordeb pennaf Cyfeillion y Ddaear y Fenni.

Buont yn cerdded llinell y bibell sy'n trosglwyddo dwr o Nant y Dugoed i dyrbin Tegwyn Jones ym Maesglas, oddi uchaf i Fallwyd, gan sylwi fod y grug wedi ailgydio'n dda iawn.

Yn ôl y trefnydd, Trevor Houghton, ysbrydolwyd yr aelodau i ymchwilio posibilrwydd defnyddio dwr cyn gronfa yn eu hardal i gynhyrchu trydan glân.

Dangosodd Andy Rowland, Trefnydd ecodyfi, naw o osodiadau solar ym Machynlleth i'r ymwelwyr.

Mae rhai ohonynt yn gwresogi dwr, a rhai'n cynhyrchu trydan. Ymwelodd y grwp â Paul Whittaker yn ei dy yn Ynys-las er mwyn cael gweld y defnydd a wneir ganddo o'r haul a gwynt i gynhyrchu trydan i'w gartref.

Teitl y llun: Tegwyn Jones yn dangos ei gynllun trydan dwr i aelodau Cyfeillion y Ddaear y Fenni.

Rhagor o wybodaeth

Andy Rowland, Trefnydd ecodyfi 01654 703965.