ecodyfi logo, valley and hills, link to home page

Ymunwch i sicrhau cyrchiad Band Llydan

english version

pont

Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion

Ydych chi yn..?

golau
Berson lleol
Ymwelydd
Gwmni
Awyddus i wybod am ecodyfi

Gwaith:

ecodyfi office
Tirwedd Dyfi
Tir Cymunedol
Mentro Allan
Ôl Troed Dyfi
Trafnidiaeth
Twristiaeth
Ynni
Gwastraff
Masnach Deg
Biosffer Dyfi Biosphere
Cymunedau yn Gyntaf
Dysgu Gydol Oes

Manylion cysylltu

Eco Parc Dyfi

Y Plas,
Machynlleth, Powys, SY20 8ER, DU.
ffôn: 01654 703965
ebost: info@ecodyfi.org.uk

Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau.

Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!

[Ein lleoliad - map mwy]

ecodyfi press release5/9/2003

Mae grwp ymgyrchu newydd yn galw ar drigolion a busnesau Machynlleth i ymuno â'r ymdrech i sicrhau cyrchiad rhyngrwyd Band Llydan.

Ar hyn o bryd yr unig fodd sydd o gael cyrchiad cyflym i'r Rhyngrwyd yn Nyffryn Dyfi yw prynu cyswllt lloeren drud. Dim ond pan fydd nifer ddigonol o bobl yn cofnodi'u diddordeb y bydd BT yn dod â thechnoleg yr 21ain ganrif i Fachynlleth.

Golyga diffyg argaeledd Band Llydan fod ardaloedd gwledig megis Dyffryn Dyfi dan anfantais. Mae cystadleuwyr mewn ardaloedd trefol yn cael y blaen ar ein cwmnïau uwch-dechnolegol newydd a chrîir amharodrwydd ymysg cwmnïau i ddod i'r ardal.

Mae cysylltedd cyflym yn hanfodol os ydym am fedru manteisio ar y defnyddiau addysg hynod safonol a phecynnau hyfforddi amlgyfrwng sydd ar gael fwyfwy dros y Rhyngrwyd. Mae'n arbennig o ddefnyddiol i rai sy'n gaeth i'r ty a rhai na allant deithio i Fachynlleth yn hawdd.

Cydlynir y grwp gan ecodyfi (Partneriaeth Eco Dyffryn Dyfi) ac y mae'r n cynnwys Siambr Fasnach Machynlleth. Ei nod yw sicrhau y bydd cyrchiad band llydan ar gael ledled y dyffryn am gostau cyffelyb i'r hyn a godir ar gwsmeriaid trefol. Mae'n bwriadu cynnal ymchwil i nifer y cwsmeriaid posib sydd ar gyfer Band Llydan a dwyn perswd ar BT i addasu cyfnewidfa Machynlleth ar gyfer ADSL.

Yna bydd yn cyrraedd gweddill y dyffryn drwy ddefnyddio cyfryngau di-wifr.

Mae Technoleg Gwybodaeth yn ddidrafferth yn sgil cyrchiad Band Llydan, ac y mae'n fwy tebygol y gwneir defnydd ohono o'r herwydd. Dengys profiad nad yw pobl yn teimlo dan bwysau pan yn ei ddefnyddio. Nid ydynt yn meddiannu'r llinell ffôn nac yn cyfri'r munudau wrth i'r bil cysylltu gynyddu.

Mae Ymgyrch Band Llydan Machynlleth yn gofyn i bawb hoffai gael cyswllt rhyngrwyd cyflym 'wastad ymlaen' gofnodi eu diddordeb ar wefan BT www.bt.com/broadband ac ar wefan yr ymgyrch www.machbroadband.org.uk. Neu fel arall, bydd Dyffryn Dyfi ar ei hôl hi'n barhaol.

Rhagor o wybodaeth:

Andy Rowland, Trefnydd, ecodyfi. ffôn: 01654 703965
John Behnan, aelod o'r grwp, ffôn: 07810 277525.

 

Brig y dudalen