ecodyfi logo, valley and hills, link to home page

Gwobr Band Llydan

english version

pont

Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion

Ydych chi yn..?

golau
Berson lleol
Ymwelydd
Gwmni
Awyddus i wybod am ecodyfi

Gwaith:

ecodyfi office
Tirwedd Dyfi
Tir Cymunedol
Mentro Allan
Ôl Troed Dyfi
Trafnidiaeth
Twristiaeth
Ynni
Gwastraff
Masnach Deg
Biosffer Dyfi Biosphere
Cymunedau yn Gyntaf
Dysgu Gydol Oes

Manylion cysylltu

Eco Parc Dyfi

Y Plas,
Machynlleth, Powys, SY20 8ER, DU.
ffôn: 01654 703965
ebost: info@ecodyfi.org.uk

Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau.

Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!

[Ein lleoliad - map mwy]

ecodyfi DATGANIAD I'R WASG4.02.04

Mae'r ymgyrch i ddod â byd gwybodaeth yr 21ain ganrif i Ddyffryn Dyfi yn dwys�u wythnos yma wrth i gystadleuaeth gael ei lansio.

Mae cyfle i drigolion Dyffryn Dyfi ennill Playstation 2 drwy lunio logo ar gyfer Ymgyrch Band Llydan Machynlleth.

Mae cyswllt Band Llydan yn gyfrwng cyflym o anfon a derbyn gwybodaeth drwy'r Rhyngrwyd. Mae'n galluogi i ddefnyddwyr unigol dderbyn rhaglenni cyfrifiaduron, cerddoriaeth a theledu fwy na heb o bedwar ban byd i'w sgrîn ar yr aelwyd.

Yn achos defnyddwyr busnes, gall roi hwb i gynhyrchiant a lleihau costau, er budd i'r economi lleol a swyddi yn y cylch.

Dyma resymau da i fanteisio ar gyswllt Band Llydan, ond mae maen tramgwydd - rhaid i ddigon o bobl yr ardal gofrestru eu diddordeb ynddo cyn y caiff ei gyflwyno yma.

BT yw'r cwmni all ddarparu cyswllt Rhyngrwyd Band Llydan i ni, ond ni wnânt weithredu hyd nes y bo nifer y bobl sy'n dweud eu bod am ei dderbyn yn cyrraedd rhif arbennig.

Y �trothwy' a elwir hwn ganddynt. Y nifer a bennwyd ar gyfer Machynlleth yw 400 o bobl - gosodwyd rhif is ar gyfer cyfnewidfeydd ffôn eraill yn Nyffryn Dyfi.

Mae Ymgyrch Band Llydan Machynlleth yn gofyn i bawb hoffai gael cyswllt rhyngrwyd cyflym "wastad ymlaen" gofnodi eu diddordeb ar wefan BT www.bt.com/broadband ac ar wefan yr ymgyrch www.machbroadband.org.uk.

Neu fel arall, bydd Dyffryn Dyfi ar ei hôl hi'n barhaol.

Llwyddodd ecodyfi, y grwp adfywio cymunedol, i sicrhau cymorth gan y Bwrdd Datblygu tuag at greu diddordeb yn yr ymgyrch.

"Rydym am i chi ddylunio'r logo i'w roi ar ein taflenni band llydan i gyd, ac er mwyn cael dipyn o hwyl, byddwn yn dangos gwaith pob cystadleuydd ar ein gwefan ac yn ffenestr Tŷ Bro Ddyfi, Machynlleth", dwedodd John Behnan, un o'r arweinwyr yr Ymgyrch.

"Bydd pwy bynnag, yn ein barn ni, fydd wedi cynhyrchu'r logo gorau yn ennill PLAYSTATION 2, ac yna fe'i ddylunnir yn broffesiynol a'i argraffu ar ein holl bosteri a gwaith papur".

Mae ffurflenni cais ar gael ar y wefan, yn Nhŷ Bro Ddyfi, yn Nheleganolfan Machynlleth ac yn y Llyfrgell, o clichwch yma [ffeil pdf: 150kB]. Dyddiad cau'r gystadleuaeth yw Chwefror 29ain 2004.

Rhagor o wybodaeth:

Andy Rowland, Trefnydd, ecodyfi. ffôn: 01654 703965
John Behnan, aelod o'r grwp gweithredu. ffôn: 07810 277525.

Brig y dudalen