ecodyfi logo, valley and hills, link to home page

Enillydd Gwobr Band Llydan!

english version

pont

Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion

Ydych chi yn..?

golau
Berson lleol
Ymwelydd
Gwmni
Awyddus i wybod am ecodyfi

Gwaith:

ecodyfi office
Tirwedd Dyfi
Tir Cymunedol
Mentro Allan
Ôl Troed Dyfi
Trafnidiaeth
Twristiaeth
Ynni
Gwastraff
Masnach Deg
Biosffer Dyfi Biosphere
Cymunedau yn Gyntaf
Dysgu Gydol Oes

Manylion cysylltu

Eco Parc Dyfi

Y Plas,
Machynlleth, Powys, SY20 8ER, DU.
ffôn: 01654 703965
ebost: info@ecodyfi.org.uk

Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau.

Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!

[Ein lleoliad - map mwy]

ecodyfi DATGANIAD I'R WASG30.03.04

Rhyngrwyd cyflym ar y trothwy

Galwodd yr ymgyrch i sicrhau cyswllt rhyngrwyd Band Llydan i Fachynlleth am un ymdrech olaf wrth gyhoeddi enw enillydd eu cystadleuaeth logo.

Machynlleth Broadband campaign logoBydd BT yn 'galluogi' cyfnewidfa Machynlleth o gael 70 o bobl eraill i gofrestru eu diddordeb mewn cysylltiadau rhyngrwyd cyflym.

Mae cyswllt Band Llydan yn gyfrwng cyflym i anfon a derbyn gwybodaeth drwy'r Rhyngrwyd.

Mae'n galluogi i ddefnyddwyr unigol dderbyn rhaglenni cyfrifiaduron, cerddoriaeth a theledu fwy na heb o bedwar ban byd i'w sgrîn ar yr aelwyd.

Yn achos defnyddwyr busnes, gall roi hwb i gynhyrchiant a lleihau costau, er budd i'r economi lleol a swyddi yn y cylch.

Yr Enillydd!

Cyflwynodd Cynllun Band Llydan Machynlleth Playstation 2 i Eluned Glyn, merch 13 oed o Dderwenlas, cyn un o gyfarfodydd Cyngor Tref Machynlleth.

Dywedodd Andy Rowland ecodyfi ei bod yn ffodus iddynt gael nawdd gan yr Awdurdod Datblygu i'w galluogi i brynu'r wobr am bris gostyngol gan Top Shop Videos.

Penderfynwyd mai logo Eluned oedd y gorau - gan guro ymdrechion plant ysgol eraill, oedolion ac hyd yn oed un cystadleuydd o Awstralia! Dywedodd Eluned ei bod wrth ei bodd.

Mae hi'n defnyddio'r rhyngrwyd yn y Llyfrgell, lle y mae eisoes mor gyflym â Band Llydan.

Cabolwyd ei chynllun buddugol gan David Thorpe Cyberium a'i lansio wedyn yn logo swyddogol i'r ymgyrch.

Wrth gyflwyno'r wobr, dywedodd y Maer, Tecwyn Jones, ei fod yn edrych ymlaen i'r adeg pan na fydd Machynlleth dan anfantais oherwydd cyrchiad araf i wasanaethau rhyngrwyd.

Anogodd bobl i lofnodi'r deisebau sydd yn Nhy Bro Ddyfi, siop Kelvin Jenkins a mannau eraill er mwyn cyrraedd y trothwy allweddol o 400 o bobl yn mynegi diddordeb yn fuan.

Pwysleisiodd Andy Rowland bod y dull cyfathrebu yma'n anhepgor i'r dyffryn cyfan.

Bydd cyfnewidfeydd Corris a Thalybont yn cael eu diweddaru yn nes ymlaen eleni gan i nifer ddigonol fynegi eu diddordeb yno eisoes.

Mae ymgyrchoedd yn Ninas Mawddwy, Abertwymyn ac Aberdyfi ond hwyrach y bydd rhaid defnyddio cyfryngau 'di-wifr' uwchdechnolegol mewn rhai ardaloedd.

 

Mae Ymgyrch Band Llydan Machynlleth yn gofyn i bawb hoffai gael cyswllt rhyngrwyd cyflym "wastad ymlaen" gofnodi eu diddordeb ar wefan BT www.bt.com/broadband ac ar wefan yr ymgyrch www.machbroadband.org.uk.

Rhagor o wybodaeth:

Andy Rowland, Trefnydd, ecodyfi. ffôn: 01654 703965
John Behnan, aelod o'r grwp gweithredu. ffôn: 07810 277525.

Brig y dudalen