Partneriaid yn gyrru Llogi Bws |
|
|
Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau. Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!
|
Partneriaid yn gyrru Llogi BwsDaeth sefydliadau cymunedol ym Mro Ddyfi at ei gilydd i ddweud wrth bobl sut y gallant fynd o gwmpas heb gar. Bu'r fenter Llogi Bws sy'n cysylltu pentrefi megis Aberhosan a Llanwrin gyda Machynlleth yn un o'r pynciau dan sylw. Mae trigolion Machynlleth yn derbyn copi am ddim o argraffiad arbennig o Daflen Teithio Dyfi trwy'r blwch llythyrau. Mae ecodyfi yn cynhyrchu'r Daflen gyfleus hon ddwywaith y flwyddyn gydag chymorth ariannol gan gonsortiwm trafnidiaeth rhanbarthol Trac. Mae'n boblogaidd bob amser gydag ymwelwyr yn ogystal â phobl leol. Mae Cymunedau yn Gyntaf yn cyfrannu arian hefyd i helpu gyda'r argraffiad ychwanegol a'r dosbarthu, ac mae'r cwmni marchnata lleol, Timeline, wedi troi'u tudalen ar Brif Awgrymiadau Teithio yn ganllawiau cychwynnol teithio heb gar. Mae copïau i'w cael yn y Llyfrgell ac yn yr Orsaf a gall pobl sy'n arfer â chyfrifiadur ei lawrlwytho o www.ecodyfi.org.uk/transport Mae arian o Lywodraeth Cynulliad Cymru wedi galluogi Cymunedau yn Gyntaf i gynhyrchu a chyflwyno taflen sy'n egluro sut i ddefnyddio'r ddau wasanaeth Llogi Bws "ymateb i alwad" arbennig yma oddi mewn i'r ardal. Maent wedi cyhoeddi amserlen, ond nid ydynt yn rhedeg oni bai fod rhywun yn gofyn am wasanaeth arbennig o leiaf ddwyawr ymlaen llaw, trwy ffonio Lloyd's Coaches ar 01654 702100. Mae hyn yn osgoi gwastraffu arian yn rhedeg bysiau gweigion, ac yn ei gwneud hi'n bosibl i Gyngor Sir Powys gynnig y gwasanaethau hyn. Eglurodd Andy Rowland, ecodyfi, bod y gwasanaeth wedi bod yn hynod o bwysig i lawer o drigolion ein pentrefi. "Mynediad gwael i wasanaethau oedd un o'r prif resymau dros ddynodi'r ardal yn ardal Cymunedau yn Gyntaf," meddai. Mae'r gwasanaeth tacsi yn dda iawn, ond yn gostus i bobl ar gyflogau isel sydd eisiau mynd i siopa neu i gymdeithasu. Mae'r gwasanaethau cludiant cyhoeddus yn ardderchog hefyd, ond nid ydynt ar gael i bawb." Dywedodd y gweithredwr, Wyn Lloyd, "Mae'n wych o beth gallu cynnig gwasanaethau i lefydd fel Darowen a bod y prisiau'r un fath â phrisiau bws cyffredin. Mae'n cymryd ychydig o amser i bobl ddod i arfer â'r system logi, ac rwy'n falch bod y wybodaeth benodol yma yn mynd allan i'w helpu." Mae'r taflenni wedi'u dosbarthu o ddrws i ddrws, gydag amserlen o gerdyn cryf maint cerdyn credyd. Maent yn dangos yr amserau sy'n berthnasol i'r pentref hwnnw yn unig, felly maent o faint defnyddiol i'w cario o gwmpas. Gellir cael copïau o Ty Bro Ddyfi, 52 Heol Maengwyn ym Machynlleth, o swyddfa Brynygog Cymunedau yn Gyntaf, neu trwy ffonio 01654 700315. Maent i'w cael hefyd yn y gyfres o arddangosfeydd a stondinau sy'n hyrwyddo cludiant cyhoeddus a chymunedol ym Machynlleth. Mae Gerwyn Jones, Swyddog Datblygu Rheilffyrdd Partneriaeth Rheilffordd y Cambrian wedi gwario llawer o amser ar y rhain ar ddiwrnodau marchnad yn dweud wrth bobl am fysiau yn ogystal â threnau, gan ddangos y gwaith mae'r bartneriaeth yn ei wneud gydag anogaeth Cymunedau yn Gyntaf. Gwybodaeth bellach: Nodiadau i Olygyddion: Mae 'Llogi Bws' T36 yn gwasanaethu Llanwrin, Glantwymyn a Dinas Mawddwy, a T37 yn cysylltu'r Bont-faen, Penegoes ac Abercegir, Darowen a Melinbyrhedyn gyda Machynlleth. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||