![]() |
Bontgoch yn ymladd dros eu hadeilad cymunedol
|
|
|
Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau. Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!
|
Bu Cymdeithas Elerch, grwp cymunedol y pentref, yn ymgyrchu ers mis Mawrth 2004 i ddefnyddio'r adeilad, sy'n dirywio ac yn segur, i greu canolfan gymunedol. Mae ecodyfi, grwp adfywio Bro Ddyfi, yn awr wedi sicrhau cyllid gan Awdurdod Datblygu Cymru i symud y broses yn ei blaen. Mae Neil Taylor, ymgynghorydd o Aberystwyth, eisoes wedi cynnal cyfweliadau gyda thrigolion a dadansoddi'r dystiolaeth ynglyn â'r angen sydd am ganolfan o'r fath. Nododd fod y pentref wedi profi adfywiad rhyfeddol yn y blynyddoedd diwethaf, gyda dyfodiad cyplau ifanc yn ôl i'r cylch, ac fod 30 o blant o dan bymtheg oed yn y pentref bellach, 22 ohonynt yn enedigol o Bontgoch. Mae Gareth Evans yn un o nifer o drigolion Bontgoch sydd am gael gwybod lle maent i fod i chwarae. "Ar hyn o bryd y ffyrdd yn unig sydd ar gael iddyn nhw, ond mae'r rheini'n beryglus gan eu bod yn gul ac yn brysur", meddai. "A lle sydd yma i rieni ifanc gwrdd?" Mae ecodyfi newydd benodi ail ymgynghorydd ar ran y grwp. Gwaith Alan Underwood yw ymchwilio ym mha fodd y gellid sicrhau arian i brynu, adfer a chyfarparu'r adeilad. Disgwylir y bydd yn awgrymu cyfuniad o grantiau gan yr Undeb Ewropeaidd, cyrff statudol, sefydliadau elusennol a busnesau a chyfraniadau o fath arall gan y gymuned leol. Bydd y grwp yn cyflwyno'r holl dystiolaeth yma gerbron pwyllgor cynllunio Cyngor Sir Ceredigion, gan obeithio y byddant yn gwrthod caniatâd i'r adeilad gael ei newid yn dy annedd preifat. Cyfeiria'r aelodau at y ffaith nad yw polis�au cynllunio Cyngor Sir Ceredigion yn caniatáu newid defnydd adeilad lle bo hynny'n golygu colli cyfleuster cymunedol presennol oni cheir darpariaeth arall. Eu dadl nhw yw y byddai cael defnydd rhan amser posibl o gefn yr eglwys ymhell iawn o fod yn ddigon i ateb anghenion y gymuned gyfan, ac na fyddai'n darparu lle chwarae awyr agored addas ar gyfer y plant, felly nid yw'n gyfystyr â darpariaeth arall. Mae Sharon Walters yn aelod o bwyllgor Cymdeithas Elerch. "Mae ar bob cymuned angen lle i bawb ohonom gael dod ynghyd o dan un to," meddai. "Angen sylfaenol yw hyn". Esboniodd mai yn y ganolfan newydd y byddai cyfarfodydd pentref yn cael eu cynnal yn ogystal â grwpiau amrywiol megis y Clwb Ieuenctid, y Clwb Garddio a Mamau a Phlant, y byddai'n cael ei defnyddio ar gyfer achlysuron cymdeithasol rheolaidd megis gyrfâu chwist, barbeciwiau, sioeau tân gwyllt ac Eisteddfodau ac ar gyfer digwyddiadau arbennig i gasglu arian. Gellid llogi'r Ganolfan i ddathlu priodasau a phenblwyddi a gallai fod yn fan cyfarfod yn dilyn gwasanaethau angladdol yn eglwys San Pedr. Byddai modd hefyd cynnal diben addysgol gwreiddiol yr Hen Ysgol drwy drefnu cyrsiau dysgu Cymraeg a gweithdai rheolaidd yno. Yn ôl Cathy Jones, Cadeirydd y pwyllgor cymunedol "Mae'r pentref yn frwd iawn o blaid cael man cyfarfod canolog. "Mae'r Hen Ysgol yn ateb ein hanghenion i'r dim ac mae'r posibiliadau'n ddi-ben-draw." Rhagor o wybodaeth:Andy Rowland, Trefnydd ecodyfi 01654 703965
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||