Cymorthfeydd gwybodaeth fusnes |
|
|
Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau. Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!
|
Bydd gwasanaeth newydd, yn cynnig 'cymorthfeydd busnes' ar ddyddiau Mercher penodol, yn cael ei lansio yn ystod dau o ddigwyddiadau Gwybodaeth Fusnes ym Machynlleth.Bydd y gwasanaeth yn ei gwneud yn haws i bobl sicrhau cymorth i ddatblygu eu syniadau busnes. Trefnwyd y fenter gan ecodyfi, grwp adfywio cymunedol Dyffryn Dyfi, gydâr nod o gynorthwyo cymunedau lleol i sefydlu busnesau. Mae colli dros 40 o swyddiwn ddiweddar yn sgîl cau ffatri Kenneth Fogg yn golygu bod creu swyddi newydd yn fwy hanfodol fyth. Hwyrach fod rhai ôr cyn weithwyr eisoes yn ystyried sefydlu busnesau ond bydd angen cymorth a chyngor arnynt cyn dechrau. Trefnwyd dau ddigwyddiad Gwybodaeth Fusnes gan ecodyfi yn Nhw Bro Ddyfi (52 Heol Maengwyn) i lansiôr gwasanaeth yma. Bydd swyddog Llygad Busnes yn bresennol yn ogystal â chynrychiolwyr neu wybodaeth gan Menter a Busnes, Ymddiriedolaeth y Tywysog, Canolfannau Busnes Ceredigion a Meirionnydd a chynllun Ardal Twf Twristiaeth Dyffryn Dyfi. Cynhelir y diwrnod Gwybodaeth Fusnes cyntaf ar ddydd Mercher Mawrth 10fed, o 10 y bore tan 4, a'r ail ar nos Iau Mawrth 11eg, 6.30 tan 8.30. Llygad BusnesMae gwaith Llygad Busnes yn cynnwys darparu gwybodaeth gynhwysfawr am gymorth sydd ar gael i gwmnîau sydd wedi neu yn cychwyn, a hynny'n rhad ac am ddim. Ceir canolfannau lleol yn y Trallwng, Dolgellau ac Aberystwyth a gellir cysylltu â nhw dros y ffôn ar 08457 96 97 98. Ond bellach bydd modd hefyd i bobl brysur o Ddyffryn Dyfi ymweld â 52 Heol Maengwyn yn ystod y digwyddiadau gwybodaeth a'r cymorthfeydd hyn i gael sgwrs anffurfiol â chynrychiolydd Llygad Busnes. Menter a BusnesMae Menter a Busnes yn rhoi cymorth cyn cychwyn i fusnesau drwy gyfrwng rhaglenni fel Potentia Menter a Busnes sy'n benodol ar gyfer Cymry Cymraeg, a'r Ffatri Fenter a luniwyd ar gyfer bobl dan 40 sydd am roi syniad busnes ar brawf. Maes arbenigol Ymddiriedolaeth y Tywysog yw helpu bobl ifainc mentrus. Mae'r Canolfannau Busnes yn darparu gwybodaeth am unrhyw gymorth cychwyn busnes y gellir manteisio arno yn y sir honno, yn ogystal â grwpantiau Awdurdod Lleol a chymorth ICT. Ceir gwybodaeth hefyd am gymorth sydd ar gael i werthu ar y We. Awdurdod Datblygu CymruBydd Howard Kimberley hefyd yn dod i'r ddau ddigwyddiad lansio, sef ymgynghorydd busnes gydag Awdurdod Datblygu Cymru. Fe fydd ar gael yno yn rhad ac am ddim ar gyfer sesiynau ymgyngho. Bydd swyddog gwybodaeth 'Llygad Busnes' yn cynnal cymorthfeydd ar ddyddiau marchnad penodol yn dilyn y ddau ddigwyddiad, heb fod angen trefnu i'w weld o flaen llaw. Cynhelir y cyntaf o'r rhain ar ddydd Mercher, Mawrth 17eg, o 10.00 tan 3.00. Rhagor o wybodaeth:Andy Rowland, Trefnydd,
ecodyfi. ffôn: 01654 703965 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||