ecodyfi logo, valley and hills, link to home page

Sylw'r Cenhedloedd Unedig ar Ddyffryn Dyfi

english version

pont

Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion

Ydych chi yn..?

golau
Berson lleol
Ymwelydd
Gwmni
Awyddus i wybod am ecodyfi

Gwaith:

ecodyfi office
Tirwedd Dyfi
Tir Cymunedol
Mentro Allan
Ôl Troed Dyfi
Trafnidiaeth
Twristiaeth
Ynni
Gwastraff
Masnach Deg
Biosffer Dyfi Biosphere
Cymunedau yn Gyntaf
Dysgu Gydol Oes

Manylion cysylltu

Eco Parc Dyfi

Y Plas,
Machynlleth, Powys, SY20 8ER, DU.
ffôn: 01654 703965
ebost: info@ecodyfi.org.uk

Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau.

Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!

[Ein lleoliad - map mwy]

press release27/05/2004

Bydd arbenigwyr rhyngwladol ac ardalwyr yn edrych ar fanteision posib anrhydedd unigryw o eiddo'r Cenhedloedd Unedig mewn cynhadledd ym Machynlleth yn ystod mis Mehefin.

"Ardal Biosffer Dyfi" yw unig aelod Cymreig rhwydwaith nodedig UNESCO.

Dengys yr ardaloedd hyn y modd y gall cymunedau lleol gael budd o'u cynefinoedd mwyaf gwerthfawr ac adnoddau eraill.

Yn hytrach na thrafod a yw cynnydd economaidd a chadwraeth yn tynnu'n groes i'w gilydd, mae pobl yn gweithredu'n gadarnhaol i ddangos y gellir creu swyddi yn sgîl gwarchod yr amgylchedd.

Bydd y gynhadledd yn clywed gan ddwy o'r cyfryw gymunedau; dyffryn y Rhön yn yr Almaen ac Entlebuch yn y Swistir. Maent wedi defnyddio'r dynodiad i ddatblygu a hyrwyddo bwyd lleol, twristiaeth a chynnyrch eraill fel rhai glân, gwyrdd, o ansawdd da.

Bydd y siaradwyr yng Ngheltica ar Ddydd Iau Mehefin 10fed yn cynnwys Dr Alister Scott o Brifysgol Cymru Aberystwyth, fydd yn trafod sut y mae sicrhau y gall cymunedau ddylanwadu ar reolaeth tir.

Mae hyn yn cynnwys y tir sydd ym mherchnogaeth Cyngor Cefn Gwlad Cymru, sy'n ariannu'r digwyddiad, a'r Comisiwn Coedwigaeth.

Mae unrhyw gytundebau ynglyn â rheoli tir a chynlluniau eraill yn unol â'r dynodiad yma yn rhai cwbl wirfoddol.

Mae'r dynodiad yn cael ei adolygu ar hyn o bryd, gydag argymhelliad y dylid ymestyn yr ardal i gynnwys Dyffryn Dyfi yn ei gyfanrwydd gyda hyn.

Mae ecodyfi, grwp adfywio cymunedol yr ardal, wedi trefnu'r gynhadledd er mwyn mesur maint y gefnogaeth ac y mae'n awyddus i weld y lle'n llawn ar gyfer y digwyddiad cyntaf yn y Tabernacl ar nos Fercher Mehefin 9fed.

Mae'r cyfarfod hwn i ddechrau am 7.00 o'r gloch a bydd y modd y gallai Dyffryn Dyfi ddatblygu yn cael ei ystyried.

"Mae llawer o waith da eisoes yn digwydd", meddai Aled Griffiths, cyd-Gadeirydd ecodyfi, "ond o lwyddo i ymestyn terfynau'r dynodiad Cenhedloedd Unedig hwn, gallwn ddod â'r cyfan ynghyd o dan un faner gref".

Bydd Charles Arch o Gwrt ymhlith y siaradwyr lleol eraill y noson honno.

Mae ychydig o leoedd gwag o hyd ar gyfer digwyddiad Dydd Iau a thaith maes Dydd Gwener, ond rhaid sicrhau lle o flaen llaw ar 01654 703965 ar gyfer y rhain.

Mae digwyddiad Dydd Mercher yn agored i bawb.

Ceir diweddariadau rheolaidd i fanylion y rhaglen ar www.ecodyfi.org.uk/biosphereproject

Rhagor o wybodaeth:

Andy Rowland, Trefnydd ecodyfi 01654 703965
Jenny Gellatly, gwirfoddolydd gydag ecodyfi 01654 703965
Aled Owen Griffiths, cyd-Gadeirydd ecodyfi 01686 624200

 

Brig y dudalen