ecodyfi logo, valley and hills, link to home page

Grantiau ar gael trwy Biosffer Dyfi

english version

pont

Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion

Ydych chi yn..?

golau
Berson lleol
Ymwelydd
Gwmni
Awyddus i wybod am ecodyfi

Prosiectau:

swyddfa ecodyfi
Mentro Allan
Trafnidiaeth
Twristiaeth
Ynni
Gwastraff
Masnach Deg
Biosffer Dyfi Biosphere
Cymunedau yn Gyntaf
Dysgu Gydol Oes

Manylion cysylltu

Eco Parc Dyfi

Ty Bro Ddyfi,
52 Heol Maengwyn,
Machynlleth, Powys, SY20 8DT, DU.
ffôn: 01654 703965
ebost: info@ecodyfi.org.uk

Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau.

Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!

[Ein lleoliad - map mwy]

press release15/1/2008

Mae dwy ysgol gynradd a dau unigolyn sy'n ystyriol o'r amgylchedd yn rhannu arian cymorth grant o £3,200 a roddir trwy fenter Biosffer Dyfi.

Mae syniadau eraill sy'n cael eu hystyried yn cynnwys cynadleddau bychain, syniadau arbed ynni ac offer i fusnesau bychain.

Mae'r trefnwyr yn dweud nad oes ond ychydig o amser ar ôl i eraill gyflwyno cais.

Mae Ysgol Pennal ac Ysgol Gynradd Machynlleth yn arwain y ffordd trwy gynllunio gwelliannau i dir yr ysgol.

Bydd gweithgareddau ym Mhennal yn creu blychau adar ac yn troi'r ardal yn ystafell ddosbarth awyr agored lle bydd y disgyblion yn astudio adar ac anifeiliaid eraill.

Mae Ysgol Gynradd Machynlleth yn gobeithio codi'i safle fel Ysgol Eco trwy greu pwll a gardd natur.

Dywedodd Cydlynydd y Pwyllgor Ysgol Eco, Gwenfair Glyn, ei bod yn edrych ymlaen am weld y plant yn gwylio penbyliaid yn datblygu'n frogaod, ac yn dod i ddeall pwysigrwydd cynnal amrywiaeth o gynefinoedd.

Yng Ngheredigion, mae Ian Mitchell yn plannu gwrych naturiol newydd ar ei dyddyn organig yn Llancynfelin.

Bydd yn derbyn grant fechan i brynu stoc o blanhigion brodorol a fydd yn dod yn gartref i gannoedd o wahanol greaduriaid.

"Mae gwrychoedd fel hyn yn gwella ansawdd y tirwedd", meddai, "ac yn creu coridorau neu lochesau diogel i fywyd gwyllt, gan gysylltu ag ardaloedd ehangach o goetir bioamrywiol."

Mae Anne Hooper yn meddwl ar hyd yr un llinellau, a bydd yn derbyn cymorth i greu planhigfa goed ar dir yn ymyl Cemaes a Chomins Coch.

Bydd ei grŵp bach o wirfoddolwyr yn tyfu coed brodorol megis ynn, criafol, cyll a helyg, a bydd yn cynnwys elfen addysgol trwy annog y gymuned ehangach i gyfranogi.

Mae'r arian yn dod o Lywodraeth Cynulliad Cymru, ac wedi'i glustnodi ar gyfer gweithgareddau yn ardal Biosffer Dyfi sy'n ymwneud â chadwraeth natur neu newid yn yr hinsawdd.

Gweinyddir y grantiau gan ecodyfi ar ran Partneriaeth Biosffer Dyfi.

Eglurodd y Swyddog Cyfathrebu â'r Gymuned, Delyth Richards, nad oedd y Bartneriaeth am aros yn llonydd tra bo UNESCO'n ystyried cais yr ardal i adnewyddu'r statws Biosffer.

"Rwy'n teimlo'n gyffrous ein bod yn gallu helpu pobl i wneud pethau ar ôl yr holl siarad," meddai.

"Rydyn ni'n gobeithio mai hon yw'r enghraifft gyntaf o sut fydd y statws newydd yn gallu cyflwyno cyfleoedd newydd i wella'n ardal arbennig".

Mae'r grantiau sydd i'w cael yn werth rhwng £50 a £1000, ac yn gallu bod yn 100% o'r costau.

Pwysleisiodd Delyth ei bod yn rhaid iddynt gael eu gwario cyn diwedd Mawrth 2008, a bod y ffurflen gais yn un syml.

Gall ceisiadau ddod oddi wrth unrhyw un lleol, gan gynnwys busnesau, grwpiau cymunedol, ysgolion ac unigolion.

Dywedodd Delyth mae'r ‘cyntaf i'r felin' fydd yn derbyn grantiau ar gyfer gweithgareddau cymwys, - felly dylai unrhyw un sydd â syniad sy'n ymwneud â chadwraeth natur neu newid yn yr hinsawdd gysylltu ar unwaith cyn i'r £15,000 sydd i'w gael ddod i ben.

Gwybodaeth bellach:

  • Delyth Richards 01654 703965 neu delyth@dyfibiosphere.org.uk

  • Andy Rowland, Trefnydd ecodyfi 01654 703965

  • www.dyfibiosphere.org.uk

Sefydliad Addysgol, Gwyddonol a Diwylliannol y Cenedloedd Unedig yw UNESCO.

Mae Biosffer yn ardal lle mae pobl yn gweithio i integreiddio cadwraeth bioamrywiaeth gyda'i ddefnydd cynaliadwy.

Maent yn cael eu cydnabod oddi mewn i fframwaith Rhaglen UNESCO Dyn a'r Biosffer.

Mae Partneriaeth Biosffer Dyfi'n cynnwys cynrychiolwyr cymunedol, awdurdodau lleol a sefydliadau sector cyhoeddus.

Ei swyddogaeth yw cyflwyno gwybodaeth ac ymgynghori â thrigolion lleol a busnesau ynglŷn â'r manteision posibl o barhau gyda, ac ehangu statws Biosffer UNESCO'r ardal.

Mae'n derbyn arian oddi wrth Gyngor Cefn Gwlad Cymru.

Yr aelodau yw:

  • Cyngor Sir Ceredigion

  • Cyngor Sir Powys

  • Cyngor Gwynedd

  • Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

  • Bwrdd yr Iaith Gymraeg

  • Cyngor Cefn Gwlad Cymru

  • Llywodraeth Cynulliad Cymru:

    • Adran Economi a Chludiant

    • Adran yr Amgylchedd, Cynaladwyedd a Thai

    • Comisiwn Coedwigaeth Cymru

  • Ecodyfi

  • Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr

  • Undeb Amaethwyr Cymru

  • Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru

  • Partneriaeth Twristiaeth Canolbarth Cymru

  • RSPB

  • Allan Wynne Jones (cyfetholwyd i ganolbwyntio ar agweddau diwylliannol)

Mae ecodyfi'n darparu gwasanaethau gweinyddol a datblygu i'r Bartneriaeth.

Brig y dudalen