ecodyfi logo, valley and hills, link to home page

Grantiau ar gael trwy Biosffer Dyfi

english version

pont

Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion

Ydych chi yn..?

golau
Berson lleol
Ymwelydd
Gwmni
Awyddus i wybod am ecodyfi

Prosiectau:

swyddfa ecodyfi
Mentro Allan
Trafnidiaeth
Twristiaeth
Ynni
Gwastraff
Masnach Deg
Biosffer Dyfi Biosphere
Cymunedau yn Gyntaf
Dysgu Gydol Oes

Manylion cysylltu

Eco Parc Dyfi

Ty Bro Ddyfi,
52 Heol Maengwyn,
Machynlleth, Powys, SY20 8DT, DU.
ffôn: 01654 703965
ebost: info@ecodyfi.org.uk

Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau.

Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!

[Ein lleoliad - map mwy]

press release14/12/2007

Mae Llywodraeth y Cynulliad yn darparu arian ar gyfer prosiectau amgylcheddol trwy fenter Biosffer Dyfi, ac mae Partneriaeth y Biosffer yn awyddus i bobl ymgeisio am grantiau yn fuan.

Wrth annerch cyfarfod o Bartneriaeth Biosffer Dyfi, dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, Jane Davidson, bod gan brosiect Dyfi'r potensial i gynnig esiampl werthfawr o sut y gall cymunedau fwy yn gynaliadwy a helpu i ymladd yn erbyn newid yn yr hinsawdd.

Mae 482 o ardaloedd Biosffer UNESCO yn y byd, ond Dyfi yw'r unig un yng Nghymru.

Mewn ardaloedd Biosffer mae'r gymuned a'r busnesau lleol yn cydweithio i gyrraedd nod UNESCO i "gyflwyno ac arddangos dulliau cadwraeth a datblygiad cynaliadwy ar lefel leol".

Fel y mae ar hyn o bryd, mae Biosffer Dyfi'n rhy fach (ac nid yw'n cynnwys digon o bobl) i gael ei hystyried fel ardal biosffer 'fodern'.

Yn dilyn ymgynghoriad lleol maith mae Partneriaeth y Biosffer wedi llunio cais i UNESCO am ail-gofrestru.

Mae Swyddog Cyfathrebu â'r Gymuned y Biosffer, Delyth Richards, yn egluro nad oedd y Bartneriaeth am aros yn llonydd wrth ddisgwyl am ymateb.

"Mae'n wych o beth bod gennym rywfaint o arian yn awr i helpu pobl i fedru gwneud pethau," meddai.

"Ryden ni'n gobeithio nad yw hon ond yr enghraifft gyntaf o sut y bydd y statws arbennig hwn yn medru rhyddhau cyfleoedd newydd.

"Tra bo'r grant arbennig hon wedi'i hanelu at welliannau amgylcheddol, ryden ni'n am gael rhai eraill fel y gallwn fynd i'r afael â materion economaidd a diwylliannol."

Bydd yr arian hwn a ddaw o Lywodraeth y Cynulliad yn cael ei ddefnyddio ar weithgareddau fydd yn helpu gyda chadwraeth natur neu ddelio â'r newid yn yr hinsawdd.

Er enghraifft, gallem helpu i leihau'r defnydd o ynni, trwy fuddsoddi mewn offer mwy effeithlon.

Soniodd Delyth fod dwy ysgol wedi ymgeisio am grant yn barod er mwyn annog bywyd gwyllt ar dir yr ysgol, ac i helpu'u disgyblion i'w werthfawrogi.

Mae'r grantiau sydd ar gael yn werth rhwng £50 a £1000, a gallant dalu am hyd at 100% o'r gost.

Pwysleisiodd Delyth fod yn rhaid eu gwario cyn diwedd Mawrth 2008, a bod y ffurflen gais yn syml.

Derbynnir ceisiadau gan fusnesau, grwpiau cymunedol, ysgolion neu unigolion, cyn belled â bod y gweithgaredd yn ychwanegol at unrhyw gyfrifoldeb statudol.

Yn ychwanegol at hyn, mae grantiau ar gael ar gyfer prosiectau sy'n cyfrannu tuag at adnewyddu'r economi Cymreig trwy wella'r amgylchedd lleol.

Dylai ymholiadau o'r fath fynd i Delyth hefyd, a byddai hi'n falch o fynd allan i drafod syniadau am brosiectau gyda phobl.

Gellir cysylltu â Delyth ar 01654 703965 neu delyth@dyfibiosphere.org.uk.

Mae gwybodaeth am Biosffer Dyfi i'w gael ar www.dyfibiosphere.org.uk.

Gwybodaeth Bellach:

  • Delyth Richards 01654 703965 neu delyth@dyfibiosphere.org.uk

  • Andy Rowland, Trefnydd ecodyfi 01654 703965

Brig y dudalen