ecodyfi logo, valley and hills, link to home page

Myfyrwraig leol yn rhoi help llaw i Brosiect Bro'r Biosffer

english version

pont

Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion

Ydych chi yn..?

golau
Berson lleol
Ymwelydd
Gwmni
Awyddus i wybod am ecodyfi

Gwaith:

swyddfa ecodyfi
Tirwedd Dyfi
Tir Cymunedol
Mentro Allan
Ôl Troed Dyfi
Trafnidiaeth
Twristiaeth
Ynni
Gwastraff
Masnach Deg
Biosffer Dyfi Biosphere
Cymunedau yn Gyntaf
Dysgu Gydol Oes

Manylion cysylltu

Eco Parc Dyfi

Ty Bro Ddyfi,
52 Heol Maengwyn,
Machynlleth, Powys, SY20 8DT, DU.
ffôn: 01654 703965
ebost: info@ecodyfi.org.uk

Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau.

Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!

[Ein lleoliad - map mwy]

press release8/6/2007

Mae Ffion Causer, merch o Abercegir sydd newydd gwblhau ei hail flwyddyn ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth, wedi derbyn ysgoloriaeth gan Cyngor Cefn Gwlad Cymru.

Bydd Ffion yn gwario pum wythnos yn cyd-weithio gyda Delyth Richards, sef y Swyddog Cyfathrebu â'r Gymuned ar Brosiect Biosffer y Dyfi.

Un o'i phrif swyddogaethau fydd gwneud gwaith ymchwil, a fydd o gymorth pe bai'r gymuned yn penderfynu gwneud cais i UNESCO i ail-ddynodi y Dyfi fel Ardal Biosffer 'modern'.

Mae Ardaloedd Biosffer modern yn archwilio'r modd y gall pobl leol fanteisio trwy amddiffyn y pethau sydd yn werthfawr iddynt - gwybodaeth leol, iaith, diwylliant yn ogystal â'r amgylchedd lleol a byd-eang.

Mae Partneriaeth y Biosffer wedi cyhoeddi Adroddiad Ymgynghorol sy'n crynhoi barn y gymuned dros y flwyddyn ddiwethaf am y syniad o ddynodi Dyffryn Dyfi fel Bro Biosffer.

Maen nhw hefyd yn cynnwys opsiynau am brosiectau, mapiau a syniadau am bwy fyddai'n cydlynu'r rhaglen pe bai'n mynd yn ei blaen.

Mae Ffion yn astudio Daearyddiaeth Ffisegol.

Meddai hi, "Mae hwn yn gyfle arbennig i dderbyn profiad yn y maes amgylcheddol, ond yn fwy na hynny mae'n gyfle i mi weithio gan ddefnyddio'r iaith Gymraeg yn fy ardal leol.

Rwy'n datblygu sgiliau a phrofiadau fydd o fantais i mi yn y dyfodol pan fyddai'n chwilio am swydd ar ôl graddio."

Mae'r ddogfen yn cynnwys holiadur byr i'w lenwi.

Hoffai'r Bartneriaeth glywed beth yw teimladau pobl, cymdeithasau a busnesau am y prosiect, a derbyn sylwadau am sut i'w ddatblygu.

Diwedd mis Mehefin 2007 yw'r dyddiad cau.

Mae copïau ar gael oddi wrth 01654 703965, delyth@dyfibiosphere.org.uk a www.biosfferdyfi.org.uk

Rhagor o wybodaeth:

  • Delyth Richards a Ffion Medi Causer, Biosffer Dyfi: 01654 703965; delyth@dyfibiosphere.org.uk

  • Andy Rowland, Trefnydd ecodyfi: 01654 703965

  • Aled Griffiths, Cyd-Gadeirydd ecodyfi: 01686 624200 / 01650 511406

  • Norah W Williams, Swyddog Datblygu Hyfforddiant yn y Gymraeg, Cyngor Cefn Gwlad Cymru: n.williams@ccw.gov.uk 01248 385539.

Nodiadau i Olygyddion:

  • Mae statws Biosffer yn hollol wirfoddol.

  • Ni chyflwynir unrhyw gais i UNESCO heb gefnogaeth gymunedol.

  • Mae'r Bartneriaeth Biosffer yn apelio ar y nifer mwyaf posibl o bobl a sefydliadau i gwblhau'r ffurflen ymateb sydd yn y ddogfen i'w galluogi i asesu lefel y gefnogaeth.

  • Ffurfiwyd Partneriaeth i ymgynghori â thrigolion a busnesau lleol ynglyn â chyfleoedd Biosffer Dyfi.

  • Yr aelodau yw:

    • Cyngor Sir Ceredigion

    • Cyngor Sir Powys

    • Cyngor Gwynedd

    • Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

    • Bwrdd yr Iaith Gymraeg

    • Cyngor Cefn Gwlad Cymru

    • Llywodraeth Cynulliad Cymru:

      • Adran Menter, Arloesi a Rhwydweithiau

      • Adran Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad

    • Ecodyfi

    • Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr

    • Undeb Amaethwyr Cymru

    • Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru

    • Partneriaeth Twristiaeth Canolbarth Cymru

    • Comisiwn Coedwigaeth Cymru

    • Allan Wynne Jones (enwebwyd i ganolbwyntio ar agweddau diwylliannol)

  • Trefnir y broses o gyfathrebu â'r gymuned gan ecodyfi ar ran y Bartneriaeth.

  • Mae Ffion Causer wedi derbyn ysgoloriaeth gan Cyngor Cefn Gwlad Cymru.

  • Nod y cynllun yw paratoi profiad gwaith i fyfyrwyr yn y maes amgylcheddol.

  • Ysgoloriaeth a gynigir i siaradwyr Cymraeg yn unig oedd hon, er mwyn annog mwy ohonynt i fynd i weithio yn y maes amgylcheddol.

  • Rhagor o wybodaeth yn prosiect biosfer

Brig y dudalen