Angen barn ar Biosffer Dyfi |
|
|
Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau. Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!
|
Mae prosiect unigryw yn dechrau ar gyfnod newydd Ddydd Mawrth Mai 8fed, pan fydd Partneriaeth Biosffer Dyfi'n lansio'i ddogfen ymgynghorol fanwl. Gwahoddir pobl i nôl eu copi o Ganolfan Gymdeithasol Llanbrynmair neu o un o'r digwyddiadau cyhoeddus eraill yn y fro.Mae Ardaloedd Biosffer modern yn archwilio'r modd y gall pobl leol fanteisio trwy amddiffyn y pethau sydd yn werthfawr ganddynt - gwybodaeth leol, iaith, diwylliant yn ogystal â'r amgylchedd lleol a byd-eang. Mae manteision posibl statws Biosffer modern yn cynnwys defnyddio 'brand' UNESCO i hyrwyddo ansawdd cynnyrch amaethyddol a phrofiadau twristiaeth - yn y DG ac yn rhyngwladol. Mae Adroddiad Ymgynghorol y Bartneriaeth yn crynhoi'r hyn a ddywedwyd gan bobl am y syniad hyd yn hyn. Mae'n cynnwys cynigion am brosiectau hefyd, a mapiau a syniadau am bwy fyddai'n cydlynu'r rhaglen pe bai'n mynd yn ei blaen Mae rhan o waelod Dyffryn Dyfi'n cael ei gydnabod yn rhyngwladol fel 'lle arbennig i bobl a natur'. Cafodd ei ddynodi gan UNESCO yn un o'i broydd 'Biosffer' yn y 1970au - ond does neb wedi defnyddio'r dynodiad hwn i ennill unrhyw fanteision i'r fro. Mae 482 o froydd o'r fath yn y byd, ond Dyfi yw'r unig un yng Nghymru. Nawr mae UNESCO'n dweud "rhaid i chi'i ddefnyddio neu'i golli". Naill ai mae'n rhaid i ni ddweud wrthynt ein bod am fanteisio ar y statws arbennig hwn (a sut) - neu ddweud wrthynt nad ydym am fod yn rhan o'r rhwydwaith hwn bellach. Mae statws Biosffer yn hollol wirfoddol. Ni chyflwynir unrhyw gais i UNESCO heb gefnogaeth gymunedol. Mae'r Bartneriaeth Biosffer yn apelio ar y nifer mwyaf posibl o bobl a sefydliadau i gwblhau'r ffurflen ymateb sydd yn y ddogfen i'w galluogi i asesu lefel y gefnogaeth. Delyth Richards yw Swyddog Cyfathrebu â'r Gymuned. Mae Delyth yn hapus i drafod Bro'r Biosffer gydag unigolion neu grwpiau, a gellir cysylltu â hi ar 01654 703965 neu delyth@biosfferdyfi.org.uk. Mae mwy o wybodaeth ar www.dyfibiosphere.org.uk. Bydd y ddogfen yn cael ei lansio am 4 o'r gloch, Ddydd Mawrth Mai 8fed yng Nghanolfan Gymdeithasol Llanbrynmair. Mae croeso i bawb daro i mewn yno, neu i unrhyw un o'r pedwar digwyddiad arall yn y fro. Bydd pob cyfarfod yn agor am 3pm ac yn cynnwys cyflwyniad byr am 7pm. Mae lleoliadau'n cynnwys Canolfan Owain Glyndwr, Machynlleth, Ddydd Iau, Mai 10fed a Dinas Mawddwy Ddydd Llun Mai 14eg. Rhagor o wybodaeth:
Bydd pob cyfarfod yn agor am 3pm ac yn cynnwys cyflwyniad byr am 7pm:
Ffurfiwyd Partneriaeth i ymgynghori â thrigolion a busnesau lleol ynglyn â chyfleoedd Biosffer Dyfi. Yr aelodau yw:
Rhagor o wybodaeth yn prosiect biosfer
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||