ecodyfi logo, valley and hills, link to home page

Yr unig Ardal Biosffer yn y Wlad

english version

pont

Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion

Ydych chi yn..?

golau
Berson lleol
Ymwelydd
Gwmni
Awyddus i wybod am ecodyfi

Gwaith:

ecodyfi office
Tirwedd Dyfi
Tir Cymunedol
Mentro Allan
Ôl Troed Dyfi
Trafnidiaeth
Twristiaeth
Ynni
Gwastraff
Masnach Deg
Biosffer Dyfi Biosphere
Cymunedau yn Gyntaf
Dysgu Gydol Oes

Manylion cysylltu

Eco Parc Dyfi

Ty Bro Ddyfi,
52 Heol Maengwyn,
Machynlleth, Powys, SY20 8DT, DU.
ffôn: 01654 703965
ebost: info@ecodyfi.org.uk

Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau.

Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!

[Ein lleoliad - map mwy]

press release02/10/2006

Dyfi Bridge, Machynlleth

Rydym yn gofyn i bobl a busnesau Dyffryn Dyfi os ydynt am fanteisio o gyfle unigryw. Mae'n bosib i'r ardal bod yr unig aelod o Gymru sy'n ran o glwb tra dethol byd-eang o 'ardaloedd arbennig'.

Yn yr un modd mae Ardaloedd Treftadaeth y Byd yn ardaloedd o dreftadaeth neilltuol â ddiddirordeb archeolegol, mae 'Ardaloedd Biosffer' yn ardaloedd lle mae pobl yn gweithio i warchod a gwneud defnydd o'u rinweddau ecolegol a ddiwylliannol unigryw.

Mae gyfres o 9 gyfarfod gyhoeddus wedi eu drefnu i egluro'r holl syniad ag i gael barn y gymuned. Mae nhw'n cynnwys Canolfan Gymunedol Glantwymyn ar nos Wener 6ed Hydref, Neuadd Goffa Talybont ar 18 Hydref a Chanolfan Owain Glyndwr yn Machynlleth ar Hydref 26. Mae'r cyfarfodydd i gyd yn cychwyn gyda bwffe o gynnyrch lleol am 6.45yh.

Mae 'Ardaloedd Biosffer' yn cael eu ddynodi gan UNESCO, sef y Corff Addysgol, Gwyddonol a Diwyllianol y Cenedloedd Unedig. Eu bwriad yw i greu 'ardaloedd arbennig i pobl a natur' ac i fod yn 'enghreifftiau o ddatblygiad gynaladwy'.

Heddiw mae yna 450 ardal biosffer mewn bron 100 o wledydd, ond dim ond un sydd yng Nghymru.

Roedd UNESCO wedi croesawi Ardal Biosffer y Dyfi fel aelod oherwydd eu gynefin byd eang pwysig sydd o amgylch Cors Fochno a'r aber, ond wedyn roeddent wedi newid y rheolau! Heddiw, dydi ardaloedd biosffer ddim yn unig am gadwraeth natur ond mae nhw hefyd am sut gall pobl fanteisio drwy edrych ar ôl yr hyn sydd yn bwysig iddynt.

Mae Ardal Biosffer y Dyfi fel mae e ar hyn o bryd yn ry fach a dydi e ddim yn cynnwys digon o bobl i gael eu ystyried yn ardal biosffer 'modern'. Rydym yn gofyn i'r gymuned os ydynt am i'r holl Ddyffryn fod yn Ardal Biosffer ac i archwilio beth fydd hyn yn golygu yn ymarferol. Y dewis arall fydda'i dweud wrth UNESCO i tynnu ni allan o'r clwb.

Mae'r meinir prawf newydd yn golygu parchu diwylliant yn ogystal â natur a thirwedd. Mae nhw'n golygu ystyried dyfodol genhedloedd y dyfodol a gweddill y byd gan hefyd feddwl am ein safon o fyw.

Bydd hyn yn golygu datblygu economi hunan-gynhaliol sydd wedi ei sefydlu o gwmpas adnoddau lleol, lleihau ein ddibyniaeth ar olew a nwy drud, a pharchu a gofalu am yr iaith Gymraeg yn ogystal a gofalu am gynefin bregus a blanhigion prin.

Bydd y ddynodiad yma hefyd yn dod a manteision arall bosib i'r ardal fel twristiaeth gynaladwy, megis gwylio bywyd gwyllt, a cynnig 'brand' bydd yn helpu cynhyrchwyr o fwyd safonol lleol a nwyddau addas arall i farchnata eu gynnyrch.

Mae nifer o bobl a mudiadau eisioes yn gweithio yn y cyfieiriad yma a does dim amheuaeth bydd UNESCO yn derbyn ein cais os dyna yw dymuniad y gymuned. Gan bod y ddynodiad yn un hollol wirfoddol, gall dim cais cael ei gwneud heb gyfranogaeth a chefnogaeth y gymuned.

Mae'r pedwar awdurdod lleol ag eraill wedyn ffurfio bartneriaeth i orchwilio'r broses o beth i wneud.

Mae nhw wedi apwyntio Delyth Richards fel Swyddog Cyfathrebu â'r Gymuned ac mae ecodyfi yn ei chefnogi. Mae hi'n gyfrifol am fynd allan i'r gymuned i drosglwyddo'r gwybodaeth am ardaloedd biosffer, i archwilio gyda pobl i weld sut gall y gymuned fanteisio o'r ddynodiad ac i gofnodi teimladau pobl. Hoffai Delyth trafod y materion yma gydag unigolion – os mae nhw o blaid y ddynodiad, yn ei erbyn neu os nad ydynt yn gweld unrhyw berthnasedd iddynt o gwbwl – mae hi hefyd eisiau siarad gyda grwpiau a chymdeithasau yn eu cyfarfodydd nhw.

"Gall y proffil mawr statudol yma bod yn bwysig iawn i ddyfodol y dyffryn", meddai "Hoffwn weld llawer o bobl yn dod i'r cyfarfodydd i gael blas o gynnyrch lleol ac i mynegi eu barn am y peth, pe bai nhw yn hoffi'r syniad i gychwyn â neu beidio. Dwi'n gwybod bydd rhai pobl yn ofni bydd e'n golygu mwy o biwrocratiaeth, ond mae well gennai trafod y peth gyda nhw yn hytrach na pobl yn cwyno yn hwyrach os bydd e'n mynd yn eu blaen hebddynt".

Bydd bob cyfarfod yn cychwyn gyda'r un fformat, yna yn yr ail ran rhoi'r ffocws ar thema penodol. Er enghraifft, yn Nhalybont y thema bydd amaethyddiaeth. Twristiaeth bydd y thema yn y Borth ag Aberdyfi, yr amgylchedd yng Nghorris a Talisein ar economi ym Machynlleth.

Bydd Delyth hefyd yn chwilio am gyfleoedd i siarad gyda mudiadau mewn cymunedau cyfagos fel Aberystwyth.

Am ragor o wybodaeth neu sgwrs anffurfiol, cysylltwch â hi ar 01654 703965 neu yrrwch ebost iddi at delyth.richards@ecodyfi.org.uk.

Nodyn i'r Golygydd

Rhagor o wybodaeth yn prosiect biosfer

Cyfarfodydd Cyhoeddus

Ardal Biosffer y Dyfi

Dewch i ddysgu mwy am y cynnig am Ardal Biosffer Dyfi gan UNESCO.

Dyma eich cyfle i drafod ei phwysigrwydd i eich busnes, ysgol, fferm, siopa a safon o fyw.

Bydd pob cyfarfod yn cychwyn gyda bwffe o gynnyrch lleol a chyflwyniad a thrafodaeth agored. Bydd ail ran o'r noson yn ffordd o weld pa mor berthnasol mae'r dynodiad i'r themau penodol, fel y nodir isod:

Lleoliad

Dyddiad

Amser

Thema

Llanbrynmair Neuadd Gymunedol

5.10.06

6.45yh

Amaethyddiaeth

Glantwymyn Neuadd GYmunedol

6.10.06

6.45yh

Diwylliant

Dinas Mawddwy Neuadd y Pentref

10.10.06

6.45yh

Amaethyddiaeth

Talybont Neuadd Goffa

18.10.06

6.45yh

Amaethyddiaeth

Machynllethm Canolfan Owain Glyndwr

26.10.06

6.45yh

Yr Economi

Taliesin Neuadd Llanfach

30.10.06

6.45yh

Yr Amgylchedd

Corris Institiwt

2.11.06

6.45yh

Yr Amgylchedd

Aberdyfi Neuadd Dyfi

16.11.06

6.45yh

Yr Economi/Twristiaeth

Borth Neuadd Gymunedol

22.11.06

6.45yh

Yr Economi/Twristiaeth

 

Brig y dudalen